Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Robert Fisk (12 Gorffennaf 194630 Hydref 2020) a oedd yn ddinesydd Prydeinig a Gwyddelig.[1][2]

Robert Fisk
Ganwyd12 Gorffennaf 1946 Edit this on Wikidata
Maidstone Edit this on Wikidata
Bu farw30 Hydref 2020 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, hanesydd, llenor, gohebydd rhyfel Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodLara Marlowe, Nelofer Pazira Edit this on Wikidata
Gwobr/auJacob's Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Orwell Prize, Gwobr Diwylliant Rydd Lannan, Martha Gellhorn Prize for Journalism, Honorary doctors of Ghent University, Premi Godó de Periodisme, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, James Cameron Memorial Trust Award, Foreign Reporter of the Year, Foreign Reporter of the Year, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Caerhirfryn, honorary doctor of Queen's University Belfast, Doethor Anrhydeddus o Brifysgol Caint, honorary doctorate from the American University of Beirut, Carey McWilliams Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.independent.co.uk/opinion/commentators/fisk/ Edit this on Wikidata

Roedd yn ohebydd rhyngwladol a ysgrifennodd am y rhyfeloedd cartref yn Lebanon, Algeria a Syria, Rhyfel Irac ac Iran, y rhyfeloedd yn Bosnia a Cosofo, y Chwyldro Islamaidd yn Iran, ymosodiad Saddam Hussen ar Kuwait, ymosodiad a meddiannaeth Iraq gan yr Unol Daleithiau. Roedd yn rhugl yn Arabeg,[3] ac ymhlith y newyddiadurwyr Gorllewinol prin i gyfweld ag Osama bin Laden, gan wneud hynny deirgwaith rhwng 1993 a 1997.[4][5]

Cychwynnodd ei yrfa ar y Sunday Express. Aeth ymlaen i weithio ar The Times fel gohebydd yng Ngogledd Iwerddon, Portiwgal a'r Dwyrain Canol lle'r oedd wedi ei leoli yn Beirut yn achlysurol ers 1976. Wedi 1989, bu'n gweithio i'r Independent.[6] Enillodd Fisk nifer o wobrau newyddiaduraeth Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys y wobr Newyddiadurwr Tramor y Flwyddyn saith o weithiau.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Robert Fisk: Celebrated Middle East correspondent of The Independent dies aged 74". The Independent (yn Saesneg). 1 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.
  2. "Veteran journalist and author Robert Fisk dies aged 74". Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.
  3. "Robert Fisk lecture (audio)". Fass.kingston.ac.uk (yn Saesneg). Faculty of Arts and Social Sciences – Kingston University London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2013. Cyrchwyd 21 Awst 2012.
  4. Fisk, Robert. The Great War for Civilisation: The Conquest of the Middle East. Fourth Estate. tt. 1–39. ISBN 1-84115-007-X.
  5. "Honoured War Reporter Sides With Victims of Conflict" (yn Saesneg). New Zealand Press Association. 4 Tachwedd 2005.
  6. "Robert Fisk". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.