Robert Fludd
Meddyg ac athronydd cyfriniol o Loegr oedd Robert Fludd (Lladin: Robertus De Fluctibus; 1574 – 8 Medi 1637). Ysgrifennodd ddiffyniadau o Rosgroesiaeth, gweithiau diwinyddol, a thraethodau beirniadol ar wyddoniaeth o safbwynt yr ocwlt.
Robert Fludd | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1574 Milgate House |
Bu farw | 8 Medi 1637 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, astroleg, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, mathemategydd, ffisegydd, athronydd, cyfriniwr Cristnogol, alchemydd, ocwltydd |
Gwobr/au | Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain |
Bywgraffiad
golyguGanwyd i deulu cefnog yn Bearsted, Caint. Enillodd gradd baglor, gradd meistr, a doethuriaeth o Goleg Sant Ioan, Rhydychen, cyn iddo dreulio chwe mlynedd yn crwydro'r Cyfandir. Dychwelodd i Rydychen yn 1605 i astudio meddygaeth ac ymunodd â Choleg y Meddygon yn 1609. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain.[1]
Syniadaeth
golyguRoedd Fludd yn ddilynwr brwd o Paracelsus a fe'i ysbrydolwyd yn gryf gan lên y Rhosgroesogion. Yn ei waith, cyflwynodd ddamcaniaeth ocwlt unedig ar sail dealltwriaeth gyfriniol o fathemateg, gwyddoniaeth, a meddygaeth. Gwrthwynebai Aristoteliaeth, Galeniaeth, ac athroniaeth fecanyddol, gan dynnu ar Lyfr Genesis, Hermetigiaeth, a Chabala i ddoethinebu ar bynciau natur a chrefydd. Dadleuodd Fludd yn erbyn rhesymoliaeth a syniadau newydd y Chwyldro Gwyddonol, gan ddibynnu ar hen wyddorau'r Oesoedd Canol megis alcemeg, sêr-ddewiniaeth, dewiniaeth sympathetig, rhifoleg, a llawddewiniaeth.[2]
Ffrae â Kepler
golyguBeirniadodd Johannes Kepler ei syniadau anwyddonol am y cosmos yn 1619, gan iddo ystyried bod angen astudiaeth fathemategol o'r bydysawd er mwyn ei ddeall yn hytrach na dadleuaeth astrus megis gwaith Fludd. Ymatebodd Fludd drwy ladd ar fathemateg Ewclid, yr hen Roegwr a osododd seiliau'r dulliau a ddefnyddid gan Kepler.[2]
Ffrae â Mersenne
golyguYn 1623, cyhoeddodd yr athronydd Marin Mersenne feirniadaeth o ddewiniaid ac alcemegwyr, gan gynnwys Fludd, a'u cyhuddo o holl-dduwiaeth ac heresi. Amddiffynnodd Flud syniadaeth ei hunan a thraddodiad dewiniaeth yn gyffredinol.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Robert Fludd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Chwefror 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 William E. Burns, The Scientific Revolution: An Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2001), tt.103–4.