Robert Owen (Bardd y Môr)
Roedd Robert Owen (30 Mawrth, 1858 – 23 Hydref, 1885) yn athro ysgol a bardd addawol a fu farw'n ifanc.[1] Mae'n cael ei gyfeirio ato fel "bardd y môr", ond nid yw'n ffugenw barddol, yn yr ystyr cyffredin. Mae'n ddisgrifiad o thema amlwg yn ei ganu, a defnyddiwyd gan Owen Morgan Edwards wrth ysgrifennu cofiant iddo fel rhagymadrodd i gasgliad o'i gerddi a gyhoeddwyd fel rhan o Gyfres y Fil[2]
Robert Owen | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1858 Abermaw |
Bu farw | 23 Hydref 1885 Harrow |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, bardd |
Cefndir
golyguGanwyd Robert Owen mewn ffermdy o'r enw Tai Croesion ger Eglwys Llanaber, Sir Feirionnydd. Roedd yn blentyn i Gruffydd Owen, ffermwr a Margaret (née Parry) ei wraig. [3]
Pan oedd Robert yn bedwar symudodd y teulu i fferm Llwyn Gloddaith tua milltir tu allan i'r Bermo ar y ffordd i Ddolgellau. Roedd Llwyn Gloddaith yn fferm lai cynhyrchiol na Thai Croesion, ond roedd ei safle wrth geg Afon Mawddach yn caniatáu i Gruffydd Owen i ategu at ei incwm trwy gynnal gwasanaeth fferi ar fad ar draws yr afon gan arbed teithwyr rhag gwneud siwrne o 20 milltir trwy Ddolgellau er mwyn cyrraedd Arthog a ffordd Tywyn. Ym 1867, ychydig ar ôl iddo gychwyn ar ei fenter newydd agorodd Pont y Bermo gan wneud y gwasanaeth fferi yn afraid. Gan nad oedd y fferm wael yn gynhyrchiol iawn aeth y teulu i dlodi.[4]
Gyrfa
golyguCafodd Robert ei addysgu yn Ysgol Frutanaidd, Abermaw a fe'i wnaed yn ddisgybl athro yno. Derbyniodd gwersi mewn Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg gan Auguste Guyard, athronydd oedd wedi ffoi i'r dref ar ôl Gwarchae Paris ym 1870.[5] Bwriad Robert oedd mynd i Goleg Normal, Bangor i hyfforddi i fod yn athro trwyddedig. Ym 1875 bu farw ei dad ac ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach bu farw ei fam. Roedd Mr a Mrs Owen wedi bod yn briod am 14 mlynedd cyn geni Robert ac wedi cael nifer o blant o'i blaen. Mewn un o'i gerdd mae'r bardd yn dweud:
Saith o'm brodyr a chwiorydd
Sydd yn gorwedd gyda'i gilydd
Ym mhriddellau mynwent lonydd
Ar fin y môr.[6]
Pan fu farw ei rieni, Robert oedd yr hynaf o'u plant dal ar dir y byw. Rhoddodd y gorau i'w gynlluniau colegol. Aeth i weithio fel isathro yn ysgol Jasper House, Aberystwyth, am ychydig; ac oddi yno i Bourne College, Birmingham. Ei gynllun oedd ennill digon i gadw ei chwiorydd, a gweithio am radd allanol ym mhrifysgol Llundain ar yr un pryd.[4]
Marwolaeth
golyguYn Hydref 1878 cafodd Robert y newyddion ei fod yn dioddef o’r diciâu a'i fod yn annhebygol y byddai'n byw am lawer gyda'r cyflwr. Penderfynodd ymfudo i Awstralia er mwyn cael hinsawdd fwy ffafriol i'w iechyd. Yn Awstralia cafodd ei benodi yn athro teuluol ar fferm ger Harrow, yn nhalaith Victoria.[7] Bu farw yno yn 27 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus y dref[8]
Gweithiau
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Daeth rhai o gerddi Robert Owen i Sylw Owen Morgan Edwards a chyhoeddodd rhai ohonynt yn ei gylchgrawn Cymru. Rhoddodd chwaer Robert, Mrs Margaret Vaughan Humphreys mynediad iddo i lawysgrifau Robert Owen ei hun, llawysgrifau Mary ei gariad, a llawysgrifau'r Parch Owen Parry Owen, ei frawd.[2] Defnyddiodd OME y llawysgrifau ac atgofion Mrs Vaughan Humphreys o'i frawd i greu cofiant a chasgliad o gerddi'r bardd fel rhan o Gyfres y Fil a gyhoeddwyd ym 1904. Mae'r gyfrol ar gael ar Wicidestun. Daeth y llawysgrifau i law y Prifardd W. D. Williams ac fe'i gymynroddodd ef hwynt i Archifdy Meirionnydd, Dolgellau.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "OWEN, ROBERT (1858 - 1885), athro a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-05-31.
- ↑ 2.0 2.1 Edwards, Owen Morgan, gol. (1904). . Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr). Llanuwchllyn: Llyfrau Ab Owen. t. 4.
- ↑ Cyfrifiad 1851 am Lanaber. Dosbarth: HO107/ 2511; Ffolio: 424; Tudalen: 8;
- ↑ 4.0 4.1 Edwards, Owen Morgan, gol. (1904). . Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr). Llanuwchllyn: Llyfrau Ab Owen. tt. 7–22.
- ↑ Ltd 20190108, Goholidays. "Frenchman's Grave, Barmouth". Stay in Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-31.
- ↑ Edwards, Owen Morgan, gol. (1904). . Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr). Llanuwchllyn: Llyfrau Ab Owen. t. 25.
- ↑ Public Record Office Victoria; North Melbourne, Victoria; Victorian Wills, Probate and Administration Records 1841-1925; Series: VPRS 7591
- ↑ The Victorian Registry of Births, Deaths, and Marriages; Melbourne, Victoria, Australia; Victoria, Australia, Death Records Rhif 12246
- ↑ Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Archifdy Meirionnydd. Cyf: GB 220 Z/DDF. Casgliad W. D. Williams