Robin Griffith

Actor o Gymro

Actor o Gymro oedd Robin Griffith (Medi 194618 Awst 2017)[1] a gafodd yrfa hir ar lwyfan, ffilm a theledu.[2]

Robin Griffith
Ganwyd1946 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 2017 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llais Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Llangoed ar Ynys Môn ond roedd wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd. Bu farw yn 70 mlwydd oed.[3]

Gyrfa golygu

Ymddangosodd ar nifer o raglenni plant yn y 1970au gan gynnwys Miri Mawr yn lleisio'r cymeriad 'Blodyn Tatws' a Siop Siafins (BBC Cymru) yn chwarae 'Y Barwn Coch'. Bu'n actio yn y rhaglen comedi Newydd Bob Nos ar S4C yn y 1980au (a'i fersiwn Saesneg Night Beat News).

Chwaraeodd Yncl Wil yn y ffilm Un Nos Ola Leuad. Yn y 2000au ymddangosodd yng nghyfresi teledu Mine All Mine a High Hopes, Torchwood ymysg eraill.

Yn 2012 perfformiodd ar lwyfan yn Sgint gan Bethan Marlow, a gyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd mewn cyd-cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru ac yn 2016 perfformiodd yn Chwalfa, addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwestai Penblwydd - Robin Griffith. BBC Cymru (18 Medi 2016).
  2. Marw’r actor Robin Griffith, llais Blodyn Tatws , Golwg360, 18 Awst 2017.
  3.  Hysbysiad marwolaeth. Western Mail (26 Awst 2017).

Dolenni allanol golygu