Sgwâr y Sgorpion

Ffilm gomedi Gymraeg yw Sgwâr y Sgorpion a ryddhawyd ym 1994 a'i dangos am y tro cyntaf ar S4C. Ffilmiwyd y cyfan yng Nghaernarfon. Mae'n adrodd hanes criw o ddynion busnes sy'n ceisio prynu holl fusnesau'r dref. Ond mae'r dynion yn dod wyneb yn wyneb â dwy newyddiadurwraig sy'n ceisio datrys y dirgelwch. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Tim Lyn i Ffilmiau Eryri. Ymysg y cast roedd Aneirin Hughes, Robin Griffith, Sian McLean, Eluned Jones, Bethan Dwyfor, Marged Esli, Robin Eiddior, Owen Garmon a chameo gan Elen Roger Jones.

Sgwâr Y Sgorpion
Cyfarwyddwr Tim Lyn
Cynhyrchydd Norman Williams
Ysgrifennwr Dafydd Huws
Addaswr Eluned Jones a Tim Lyn
Sinematograffeg Huw (Tregaron) Davies
Dylunio Ed Thomas
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau Eryri ac S4C
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Cynhyrchu

golygu
 
Llun o'r ffilm Sgwâr Y Sgorpion 1994

Syniad y cynhyrchydd Norman Williams oedd y cychwyn, ac fe ofynwyd i'r awdur Dafydd Huws gyfansoddi'r sgript. Yn anffodus, cododd nifer o anhawsterau tra'n ffilmio a bu'n rhaid atal y ffilmio er mwyn ail-sgwennu'r sgript. Gan bod yr actores a'r sgriptwraig Eluned Jones wedi cydweithio efo'r cyfarwyddwr Tim Lyn ar gyfresi fel Pris Y Farchnad a Treflan, bu'n rhaid i'r ddau geisio creu'r golygfeydd gyda'r nos, tra'n ffilmio yn y dydd.

 
Eluned Jones a Bethan Dwyfor yn y ffilm Sgwâr Y Sgorpion 1994

Defnyddwyd yr hen dwneli tanddaearol o dan Caernarfon fel pencadlys y dynion busnes, yn ogystal â nifer o leoliadau o gwmpas y Maes.

"Y Loj? Clwb golff? Na... Wrth chwilio am fan cyfarfod addas i bobol fusnes ddrwg ar gyfer y ffilm Sgwâr y Sgorpion, fe ddaeth y cynhyrchwyr ar draws rhwydwaith o dwneli o dan dre' Caernarfon", dywed erthygl yn Golwg [Rhagfyr 1994].[1]

" "Fe glywson ni am y lle yma dan y dre', doeddan ni ddim yn gwybod am eu bodolaeth o'r blaen," meddai'r cyfarwyddwr [cynhyrchydd] Norman Williams. "Ond mae'n debyg bod y twneli â chysylltiad uniongyrchol a rhannau o'r cei. Mae rhai o dan Y Maes ond y rhai oeddan ni'n eu defnyddio oedd y rhai o dan Stryd y Farchnad ger y castell. Roedd y lle yn hynod." Gyda sbwriel a baw wedi crynhoi yn y twneli, roedd hi'n llanast llwyr ond roedd yn berffaith ar gyfer ffilmio golygeydd or 'maffia' lleol. "Mae'n nhw mewn cyflwr ofnadwy ac roedd yr adran gelf yno am ddyddiau yn eu glanhau nhw ac roedd rhaid cael craen i ollwng yr offer i lawr yna. Petai rhywun eisiau cynnal gweithgarwch tan ddaear go iawn mae'n nhw'n ddelfrydol. Mae'n nhw'n arbennig o dda ar gyfer creu awyrgylch sinistr." "[1]

Cast a chriw

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Dirgewlch Tre'r Cofis". Golwg. Rhagfyr 1994.


Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.