Rothsay Castle
Roedd y Rothsay Castle (hefyd Rothesay Castle) yn llong stemar padl a longddrylliwyd ar Draeth Lafan ym mhen dwyreiniol Afon Menai, gogledd Cymru, yn 1831. Collwyd 130 o fywydau yn y trychineb.
Math o gyfrwng | stemar olwyn, llongddrylliad |
---|---|
Dechreuwyd | 1816 |
Daeth i ben | 1831 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adeiladwyd y llong yn 1816 i hwylio ar Afon Clud yng ngorllewin yr Alban, cyn iddi ddechrau gweithio o Lerpwl gan gludo teithwyr hamdden ar deithiau pleser i Ogledd Cymru.
Er mwyn ceisio osgoi damweiniau tebyg yn y dyfofol sefydlwyd gorsaf bad achub ym Mhenmon, ar Ynys Môn, yn 1832 a chodwyd goleudy rhwng y Trwyn Du ac Ynys Seiriol yn 1837.
Cyfansoddodd y bardd William Williams (Caledfryn) awdl am y drychineb a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Biwmares (1832); fe'i hystyrid yn un o gerddi mawr ei chyfnod.
Y digwyddiad
golyguTua canol dydd ar 17 Awst 1831 gadawodd Lerpwl gyda 150 o deithwyr ar ei bwrdd. Roedd yn hwyr yn cychwyn ei thaith, a chyn pen dim roedd yng ngafael gwynt cry. Aeth un o'r teithwyr at Gapten Atkinson i bledio iddo droi nôl i ddociau Lwrpwl, ond roedd y capten yn chwil gaib a gwrthododd wneud hynny. Erbyn 10yb roedd y llong wedi cyrraedd Pen y Gogarth ger Llandudno ac roedd dwy droedfedd o ddŵr hallt yn yr howld. 'Doedd y pympiau'n tycio dim a 'doedd dim sôn am fwced yn unman! Un cwch achub oedd ar gael, ac roedd ganddo glamp o dwll yn ei ochr, a dim sôn am rwyf yn unman.
Erbyn 1.00yp roedd y Rothsay Castle yn cael ei waldio yn erbyn y creigiau, gan dorri'n deilchion, nes yn y diwedd suddodd.
Achubwyd 23 yn y bore bach.