Rothsay Castle

paddle steamer

Roedd y Rothsay Castle (hefyd Rothesay Castle) yn llong stemar padl a longddrylliwyd ar Draeth Lafan ym mhen dwyreiniol Afon Menai, gogledd Cymru, yn 1831. Collwyd 130 o fywydau yn y trychineb.

Rothsay Castle
Enghraifft o'r canlynolstemar olwyn Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1816 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1831 Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adeiladwyd y llong yn 1816 i hwylio ar Afon Clud yng ngorllewin yr Alban, cyn iddi ddechrau gweithio o Lerpwl gan gludo teithwyr hamdden ar deithiau pleser i Ogledd Cymru.

Er mwyn ceisio osgoi damweiniau tebyg yn y dyfofol sefydlwyd gorsaf bad achub ym Mhenmon, ar Ynys Môn, yn 1832 a chodwyd goleudy rhwng y Trwyn Du ac Ynys Seiriol yn 1837.

Cyfansoddodd y bardd William Williams (Caledfryn) awdl am y drychineb a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Biwmares (1832); fe'i hystyrid yn un o gerddi mawr ei chyfnod.

Y digwyddiad golygu

Tua canol dydd ar 17 Awst 1831 gadawodd Lerpwl gyda 150 o deithwyr ar ei bwrdd. Roedd yn hwyr yn cychwyn ei thaith, a chyn pen dim roedd yng ngafael gwynt cry. Aeth un o'r teithwyr at Gapten Atkinson i bledio iddo droi nôl i ddociau Lwrpwl, ond roedd y capten yn chwil gaib a gwrthododd wneud hynny. Erbyn 10yb roedd y llong wedi cyrraedd Pen y Gogarth ger Llandudno ac roedd dwy droedfedd o ddŵr hallt yn yr howld. 'Doedd y pympiau'n tycio dim a 'doedd dim sôn am fwced yn unman! Un cwch achub oedd ar gael, ac roedd ganddo glamp o dwll yn ei ochr, a dim sôn am rwyf yn unman.

Erbyn 1.00yp roedd y Rothsay Castle yn cael ei waldio yn erbyn y creigiau, gan dorri'n deilchion, nes yn y diwedd suddodd.

Achubwyd 23 yn y bore bach.

 
Codwyd Goleudy Trwyn Du ar benrhyn Penmon ychydig wedi'r drychineb

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am long neu gwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.