Roxy Barton
Roedd Roxy Barton (8 Mai 1879 – 1 Mawrth 1962) yn actores o Awstralia a gafodd yrfa theatr yn Llundain.
Roxy Barton | |
---|---|
Barton yn chware rhan Titania | |
Ganwyd | 8 Mai 1879 Sydney |
Bu farw | 1 Mawrth 1962 Penarth |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | actor |
Cefndir
golyguGanwyd Barton yn Sydney Awstralia ym 1879 fel Roxane Claudia May Barton, yr ieuengaf o 11 o blant i Jane McCulloch née Davie (1833-1927) a Russell Barton (1830-1916).
Dechrau gyrfa
golyguDechreuodd ei gyrfa lwyfan yn Awstralia gyda'r Willoughby-Geach Company, gan ymddangos yn Robbery Under Arms (1898), Man to Man (1899) ac Othello (1899), i gyd yn y Criterion Theatr yn Sydney; The Power and the Glory (1899) yn Theatr y Lyceum, Sydney; Tom, Dick and Harry ac A Highland Legacy (1901) yn y Palace Theatre, Sydney ; ac yn A Stranger in a Strange Land (1904) yn y Princess Theatre Melbourne .[1]
Gyrfa yn Llundain
golyguAr ôl symud i Lundain i ddilyn gyrfa theatr ymunodd â Chwmni FR Benson, gan ymddangosodd iddi yn The Comedy of Errors (1904-1905) yn Theatr yr Adelphi ac fel Athena yn The Oresteia Trilogy yn y Coronet Theatre yn Notting Hill (1905).[2] Wedyn chwaraeodd Titania yng nghynhyrchiad Otho Stuart o A Midsummer Night's Dream yn Theatr yr Adelphi (1905) gyferbyn ag Oscar Asche fel Bottom a Beatrice Ferrar fel Puck.[3][4] Dychwelodd i Awstralia lle ymddangosodd yn The Message from Mars (1906) yn y Theatre Royal, Adelaide.[1]
Ar 14 Mehefin 1906 yn Eglwys Blwyf St Marylebone yn Marylebone, Llundain priododd yr actor Henry Stephenson Garraway (1871-1956) [5] - a gafodd yrfa lwyddiannus fel Henry Stephenson. Eu merch oedd yr actores Jean Harriet Garraway (1911-2004).
Barton oedd Helen ym Mharis and Oenone yn Theatr y Savoy (1906).[6] Chwaraeodd hi Lady Hampshire gyferbyn â Weedon Grossmith yn The Night of the Party yn Theatr yr Apollo (1908).[7] Ym 1910 chwaraeodd rhan Judy Alardy, yn The Little Damozel yn Theatr y Grand, Abertawe.[8]
Diddymwyd ei phriodas â Henry Stephenson rhywbryd cyn 1922, pan ailbriododd. Ym 1923 hwyliodd hi a'i merch Jean i Sydney yn Awstralia ar fwrdd yr Euripides . Mae cofrestr y llong yn ei chofnodi fel gwraig tŷ [9] Yn 1939 roedd hi'n byw yn St George's Road yn Stratford-upon-Avon.[10] Roedd hi'n dal i gael ei disgrifio fel gwraig tŷ ym 1948, pan ymwelodd â Sydney, Awstralia ar fwrdd y llong P&O Strathaird .[11]
Marwolaeth
golyguYn ei blynyddoedd diweddarach bu’n byw yn 79 Heol Isaf, Radur, Caerdydd.[12]
Rhestrwyd Roxy Barton Garraway fel 'gwraig weddw' pan fu farw yng Nghartref Nyrsio Plymouth ym Mhenarth ym mis Mawrth 1962.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Stage career of Roxy Barton - AusStage - National Library of Australia
- ↑ J. Michael Walton, Translating Classical Plays: Collected Papers, Routledge (2016) - Google Books p. 38
- ↑ Biography of Roxy Barton - Footlight Notes website
- ↑ Acting career of Roxy Barton - Theatricalia website
- ↑ London, England, Church of England Marriages and Banns, 1754-1932 for Roxy Claudia May Barton: Westminster, St Marylebone, 1900-1912 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
- ↑ J. P. Wearing, The London Stage 1900-1909: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel, Rowman & Littlefield (2014) - Google Books p. 282
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, p. 384
- ↑ "NEXT WEEK'S AMUSEMENTS - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-03-04. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ UK and Ireland, Incoming Passenger Lists, 1878-1960 for Roxane Stephenson: London, England, 1923 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
- ↑ 1939 England and Wales Register for Roxane Stephenson: Warwickshire, Stratford-on-Avon - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
- ↑ UK and Ireland, Outward Passenger Lists, 1890-1960 for Roxane Stephenson: London, 1948 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)
- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1995 for Roxy Claudia May Garraway: 1962 - Ancestry.com - (angen tanysgrifiad)