Agor y brif ddewislen
Mae'n bosibl fod gwasanaeth yn tarddu o ŵyl y Canhwyllau neu ŵyl gynharach.
Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn Eglwys Sant Crwst, Llanrwst; Rhagfyr 2015
Deffrown Deffrown
Gwrandawed Bob Enaid
Blant Adda 'Mbaratowch
Ar Fore Dydd Nadolig
Pa Beth yw'r Golau

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16g gydag elfennau llawer hŷn na hynny.

Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddys i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau hyn cyn y plygain, ac felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

CanhwyllauGolygu

Hyd at y 19g, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwisgwyd y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu lleoli fodfeddi ar wahân. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [1]

Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddys i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chwythu cyrn.

Dywed J. Lloyd Williams (1854‑1945) am blygain Eglwys Sant Doged yn Llanddoged ger Llanrwst: "Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."[3]

Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig y symbol o ddyfodiad 'Goleuni'r Byd'.

Y Gwasanaeth ei hunGolygu

 
Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[4]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.

Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n para oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb fod neb yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliad mewn rhai llefydd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol, a'r cwbl yn Gymraeg.

Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.

Caneuon y plygainGolygu

Prif erthygl: Carol plygain

Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli erioed. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion. Yn aml roedd yr alwad yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin boblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[5] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.

Enghraifft; Daeth Nadolig (ar hen alaw werin Deio Bach)
Daeth Nadolig fel Arferol
Daeth Nadolig fel arferol,
Daeth fel yn y dyddiau gynt,
Gyda’i eira, gyda’i oerni,
Gyda’i rew a’i ruol wynt.
Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
Gwisgr hi â hugan gwyn,
Ac mae miwsig pob aderyn
Wedi darfod yn y glyn.
Daeth Nadolig fel arferol,
Mewn tawelwch mae y byd,
Wrth i ninau gofio’r stori
Am y baban yn ei grud,
Cofio am y seren ddisglair,
Cofio am y preseb tlawd,
Cofio’r engyl yn cyhoeddi
Geni Duw mewn gwisg o gnawd.
Daeth Nadolig fel arferol
Ac mae miswig ym mhob man,
Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
Miwsig peraidd glychau’r llan,
Rhaid i ninnau gyda’r doethion
A’r bugeiliaid i gael trem
Ar yr hwn sydd wedi’i eni
Draw ym mhreseb Bethlehem.
Gorfoleddwn a moliannwn,
Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
Cyfaill pechaduriad mawrion
Ydyw Iesu Grist o hyd,
Brenin heddwch ydyw’r Iesu
A thangnefedd ar ei wedd,
Dyma frenin y brenhinoedd
Ddysgodd inni gladdu’r cledd.

Canu plygain heddiwGolygu

Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru ganrif yn ôl. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn ardaloedd Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.

Yn 2015/6 cafwyd 47 o wasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn:

Gofal; ychwanegir y dyddiadau heb eu gwiro, er mwyn rhoi syniad o ddyddiadau'r Plygain.
Lleoliad Noswaith Dyddiad Amser
Capel Bowydd, Bl Ffestiniog Sul 26/11/17 19.00
Llansilin Gwener 01/12/17 19.30
Eglwys Llanafan Sul 03/12/17 17.00
Llanbedr PS Llun 04/12/17 19.00
Capel Annibynwyr y Bala (Cyfundeb Meirion) Mawrth 05/12/17 19.30
Penygraig, Caerfyrddin Sul 10/12/17 18.30
Trallwm Mawrth 12/12/17 19.00
Llanidloes (China St) Gwener 15/12/17 19.00
Briw Sul 17/12/17 18.30
Penuel, Llangynyw (Neuadd Pontrobert) Sul 17/12/17 18.30
Parc Mawrth 19/12/17 19.00
Morlan, Aberystwyth Mercher 20/12/17 19.30
Llanfair Dyffryn Clwyd Iau 21/12/17 19.00
Penrhyn-coch Iau 21/12/17 19.00
Capel Towyn, Ceinewydd Sul 24/12/17 19.30
Yr Hen Gapel, Pontrobert Llun 25/12/17 6.00
Llanllyfni Llun 25/12/17 7.00
Lloc Llun 25/12/17 6.00
Llanarmon DC Mercher 27/12/17 19.00
Cefnblodwel Gwener 29/12/17 19.00
Nantgaredig (M.C.) Sul 31/12/17 18.00
Abergynolwyn Iau 04/01/18 19
Dinas Mawddwy (Ebeneser) Gwener 05/01/18 19.00
Llanerfyl Sul 07/01/18 19.00
Llanrhaeadr ym Mochnant Sul 07/01/18 19.00
Bethesda, Yr Wyddgrug Sul 07/01/18 19.00
Llanddarog (St Twrog) Sul 07/01/18 17.00
Capel Saron, Cwm Wysg Sul 07/01/18 16.00
Capel Jewin Llundain Sul 07/01/18 17.00
Eglwys Sant Teilo San Ffagan Sul 07/01/18 14.00
Darowen Llun 08/01/18 19.00
Llanfair, ger Harlech Mercher 10/01/18 19.00
Mallwyd Gwener 12/01/18 19.00
Ceri Sadwrn 13/01/18 7.00
Llanfihangel Sul 14/01/18 18.30
Llanwnda, Caernarfon Sul 14/01/18 ??
Llanrwst, ST crwst Iau 18/01/17 19.00
Cadeirlan Bangor Gwener 19/01/18 ??
Llanuwchllyn Sul 21/01/18 19.00
Llanelwy Gwener 26/01/18 19.15
Llandeilo Sul 28/01/18 18.00

Casgliadau o ganeuonGolygu

  • Welsh Folk Customs, Trefor M. Owen; 1959, tud. 28-33
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000; Enid R Morgan (Gol.)
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Rhiannon Ifans (Gol.); Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
  • Hen Garolau, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1987
  • Mwy o Garolau Plygain, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain
  3. [Atgofion Tri Chwarter Canrif, o'r detholiad, Y Flwyddyn yng Nghymru, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1943. J. Lloyd Williams (1854‑1945)
  4. gwefan Sain Ffagan
  5. Caneuon Gwerin; adalwyd 30 Tachwedd 2015