Royal National Institute of Blind People
Mae'r Royal National Institute of Blind People a adnebir hefyd yn Gymraeg fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (yn fwy cyffredin ar lafar wrth y talfyriad Saesneg wreiddiol, RNIB) gyda'i phencadlys yn Llundain ac yn elusen ar gyfer pobl ddall, rhannol ddall a nam ar y golwg.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol, sefydliad, disability rights organization |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1868 |
Aelod o'r canlynol | DAISY Consortium, International Federation of Library Associations and Institutions |
Gweithwyr | 1,412, 1,670, 1,802, 2,083, 2,335 |
Pencadlys | Judd Street, Great Portland Street |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | https://www.rnib.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer materol neu anfaterol ym maes hygyrchedd i'r rhai â nam ar eu golwg.[1] Mae'r sefydliad wedi bod drwy sawl man newid i'w henw ers ei sefydlu yn 1868.
Hanes
golyguSefydlwyd yr RNIB ei sefydlu gan Thomas Rhodes Armitage, meddyg oedd â phroblemau golwg.
Ym 1868, sefydlodd Armitage fudiad o'r enw y British and Foreign Society for Improving Embossed Literature for the Blind.[2] Daeth hon yn ddiweddarach yn British and Foreign Blind Association.[2]Ym 1875 daeth y Frenhines Fictoria yn noddwr cyntaf y mudiad.[2]
Derbyniodd y sefydliad Siarter Brenhinol ym 1948, a newidiodd ei enw i Royal National Institute for the Blind (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion) ym 1953.[2] Yn 2002, cyflwynwyd aelodaeth RNIB a newidiwyd enw'r sefydliad i Royal National Institute of the Blind.[2] Ym mis Mehefin 2007 newidiodd y sefydliad ei enw eto, i Royal National Institute of Blind People.[2]
Mae gwestai sy’n eiddo i RNIB yn y DU wedi’u haddasu ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg gan gynnwys The Century Hotel yn Blackpool ond cafodd y rhain eu cau neu eu gwerthu oherwydd costau rhedeg gormodol. Perchnogion hefyd oedd America Lodge yn Torquay, Dyfnaint a oedd yn ganolfan adsefydlu. Mae America Lodge bellach yn eiddo preifat ac wedi'i drawsnewid yn fflatiau.
Y Sefydliad
golyguMae'r RNIB yn sefydliad Brydeinig gyda changhennau a gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Gogledd Iwerddon.[2] Mae pencadlys yr elusen yn Llundai. Noddwr RNIB oedd y Frenhines Elizabeth II, gellir disgwyl i'r mab, Charles III, dilyn yn ei ôl traed.
Ym mis Hydref 2008, cytunodd RNIB ac Action for Blind People mewn egwyddor i gyfuno rhai gwasanaethau ledled Lloegr. Dechreuodd y trefniant newydd ym mis Ebrill 2009, gan arwain at Action for Blind People yn dod yn Elusen Gyswllt i RNIB.[3]
Cefnogir gwaith RNIB gan fwy na 3,000 o wirfoddolwyr ledled y DU.[4]
RNIB Cymru
golyguCeir strwthur Gymreig o fewn y corff Brydeinig (fel sydd i'r Alban a Gogledd Iwerddon) gyda swyddfa yng Nghaerdydd. Yn ôl y wefan mae oddeutu 110,000 o bobl yng Nghymru sy'n diodded o ddallineb neu anhawster gweld. Mae dros 4,000 o bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall neu rhanol dall Cymru yn mewn gwaith cyflogedig.[5]
Ceir hefyd gynllun iaith Gymraeg gan y sefydliad sy'n cydnabod bod yna bobl ddall sy'n siarad Cymraeg yn naturiol ac sy'n anelu i ddiwallu eu anghenion.[6]
Yr RNIB yw'r prif fudiad ar gyfer pobl ag anabledd gweledol yng Nghymru, ond ceir rhai eraill. Yn eu mysg mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru sydd â phencadlys ym Mangor[7] ac sydd wedi gwneud gwaith pwysig mewn sawl maes gan gynnwys darparu llyfrau llafar i bobl eu mwynhau. Mae Llyfrau Llafar Cymru a leolir yng Nghaerfyrddin hefyd yn gefn i'r gymuned ddall.
Gweithgareddau
golyguRhoddir yr RNIB fel gweithgareddau: Atal colli golwg y gellir ei osgoi, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl â nam ar eu golwg, gofal mewn cartrefi arbenigol neu mewn ysgolion, darparu cynhyrchion sy'n hyrwyddo hygyrchedd.
Codi arian
golyguAm bob punt a roddir, mae RNIB yn gwario 87c yn uniongyrchol ar helpu pobl ddall a rhannol ddall, 11c ar godi mwy o arian, a 2c ar weinyddu.[8] Mae RNIB yn trefnu digwyddiadau codi arian yn y DU a thramor, yn ogystal â rafflau, cynlluniau ailgylchu, rhoddion cymynroddion, codi arian ar-lein a phartneriaethau corfforaethol.[9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Welcome to RNIB". RNIB - See differently.[dolen farw]
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 "Our history". RNIB - See differently (yn Saesneg). 2014-02-24. Cyrchwyd 2020-06-26.
- ↑ "Association with Action for Blind People". Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 30, 2011.
- ↑ "Volunteering". 18 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-24. Cyrchwyd 2023-04-26.
- ↑ "More from Wales". Gwefan yr IRNB. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
- ↑ "Cynllun Iaith Cymraeg Grŵp yr RNIB". Gwefan RNIB. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
- ↑ "Elusennau a mudiadau sy'n darparu cymorth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-27. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023. Unknown parameter
|publiher=
ignored (|publisher=
suggested) (help) - ↑ "Annual review and report".
- ↑ "Donations and fundraising". RNIB - See differently (yn Saesneg). 2014-02-19. Cyrchwyd 2020-06-26.