S. O. Davies
Gwleidydd o Gymru oedd Stephen Owen Davies, a adwaenid fel rheol fel S. O. Davies (c. 9 Tachwedd 1886 – 25 Chwefror 1972). Bu'n aelod seneddol o 1934 hyd ei farwolaeth.
S. O. Davies | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1886 Abercwmboi |
Bu farw | 25 Chwefror 1972 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | undebwr llafur, gwleidydd, mwynwr |
Swydd | cynghorydd, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Ganed ef yn Abercwmboi, a dechreuodd weithio fel glowr yn 12 oed. Cyfunodd hyn a gweithio ar gyfer gradd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain.
Daeth yn is-lywydd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn 1933. Yn 1934, etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Merthyr Tudful. Roedd yn aml yn anghytuno â pholisïau swyddogol ei blaid, ac yn dilyn trychineb Aberfan, beirniadodd yn hallt y dull y triniwyd y teuluoedd.
Wrth baratoi am etholiad Cyffredinol 1970, teimlai'r Blaid Lafur yn yr etholaeth fod angen ymgeisydd iau, a dewiswyd ymgeisydd arall yn ei le. Safodd S. O. Davies fel ymgeisydd annibynnol, ac enillodd y sedd.
Bu farw ym 1972 yn yr Ysbyty Merthyr. Wedi iddo farw, enillodd y Blaid Lafur y sedd yn ôl mewn is-etholiad, er i bleidlais Plaid Cymru gynyddu yn sylweddol.
Llyfryddiaeth
golygu- Griffiths, Robert, S.O. Davies: A Socialist Faith (Llandysul: Gwasg Gomer, 1983)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Collingham Wallhead |
Aelod Seneddol dros Ferthyr 1934 – 1950 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful 1950 – 1972 |
Olynydd: Ted Rowlands |