Gwneuthurwr ceir Sbaenaidd ydy SEAT, a sefydlwyd ym 1950 gan yr Instituto Nacional de Industria (INI), gyda chymorth gan Fiat, mae erbyn hyn yn un o is-gwmniau Grŵp Volkswagen, sy'n grŵp Almaenig (gydag Audi a Lamborghini).[1] Lleolir pencadlys SEAT ym Martorell ger Barcelona, Catalwnia.[2] Mae'r enw SEAT yn acronym o Sociedad Española de Automóviles de Turismo (Cymraeg: Cwmni Ceir Teithiol Sbaenaidd).

Scaun
Math
cynhyrchydd cerbydau
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd9 Mai 1950
SefydlyddInstituto Nacional de Industria
PencadlysMartorell
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchcar
Refeniw8,784,000,000 Ewro (2020)
PerchnogionVolkswagen AG
Nifer a gyflogir
14,752 (2020)
Rhiant-gwmni
Volkswagen AG
Is gwmni/au
Cupra
Gwefanhttps://www.seat.com/ Edit this on Wikidata

Erbyn 2000 roedd SEAT yn cynhyrchu dros 500,000 uned y flwyddyn; hyd at 2006 roeddent wedi cynhyrchu cyfanswm o 16 miliwn o geir,[3] gan gynnwys dros 6 miliwn o'r ffatri ym Martorell, ac roedd tri-chwarter eu cynhyrchiad blynyddol yn cael ei allforio i saith gwlad dramor.[4]

Hanes golygu

Cychwynnodd SEAT gan gynhyrchu ceir o fodelau Fiat ond wedi eu hail-fathodynnu, gan amrywio ychydig yn weledol ar gynnyrch y rhiant-gwmni Eidalaidd. Roedd hyn yn cynnwys y SEAT Panda (a ailenwyd yn ddiweddarach yn SEAT Marbella), a oedd yn seiliedig ar y Fiat Panda. Daeth y SEAT 600, a oedd yn seiliedig ar y Fiat 600, yn gar cyntaf ar gyfer nifer o deuluoedd Sbaenaidd, gan ddod yn symbol o'r Gwyrth Sbaenaidd.

Erbyn 1967, SEAT oedd gwneuthurwr ceir mwyaf Sbaen. Yn ystod y flwyddyn honno, roedd Fiat wedi cynyddu eu cyfran yn y cwmni o 6% i 36%. Yr un adeg, lleihaodd cyfran yr Instituto Nacional de Industria eu cyfran rheoli - o 51%, i 32%. Prynwyd y cyfran a oedd yn weddill (32%) gan chwe phrif fanc. Er nad oedd Fiat yn berchennog gyda chyfran reoli, cysidrwyd mai hwy oedd yn rheoli'r cwmni: roedd y cytundeb hefyd yn cynnwys addewid gan Fiat i helpu twf SEAT, a datblygiad model newydd (y SEAT 133 o bosibl).[5]

Yn ystod y cyfnod a ddilynodd, parhaodd y gwneuthurwr i ddomeiddio'r farchnad ceir yn Sbaen, gan gynhyrchu dros 282,698 o geir, mwy na 58% o'r cyfanswm a gynhyrchwyd yn Sbaen, yn 1971 er gwaethaf yr aflonyddwch y flwyddyn honno a achoswyd gan streiciau a llifogydd difrifol yn y gwaith a leolwyd ar yr arfordir ym Marcelona.[6] Ond gyda dim ond 81 o geir i pob mil o bobl yn Sbaen, cysidrwyd fod digonedd o le i ymestyn ymhellach a bu SEAT yn wynebu'r bygythiad o gynnydd yn y gystadleuaeth, gan y bu gwneuthurwyr eraill mawr yn ystyried sefydlu neu ehangu eu cynhyrchiad yn y farchnad Sbaenaidd, a oedd yn parhau i gael ei amddiffyn yn gryf.[6]

Yn ystod yr 1980au cynnar, bu trafodaethau helaeth ynglŷn ag ariannu a rheolaeth y cwmni, rhwng y prif cyfranddaliwr, sef llywodraeth Sbaen, a Fiat: roedd SEAT angen buddsoddiad cyfalaf mawr ond nid oedd Fiat yn fodlon gwneud y buddsoddiad hwn. Ym 1982, daeth y berthynas rhwng Fiat a SEAT i ben wedi dros 30 mlynedd. Y SEAT Ronda oedd y car newydd cyntaf i gael ei gynhyrchu gyda bathodyn newydd SEAT heb ymglymiad Fiat ym 1982. Roed hwn yn fersiwn o'r Fiat Ritmo ond wedi ei ail-steilio, ac achosodd hyn i Fiat gychwynachos cyfreithiol yn erbyn SEAT, gan eu bod yn honni ei fod yn llawer rhy debyg i'r Ritmo. Er mwyn dod a'r ddadl i ben, dangosodd llywydd SEAT, Juan Miguel Antoñanzas, gar Ronda i'r wasg gyda'r holl ddarnau a oedd yn wahanol i'r Rimto wedi eu paentio mewn melyn llachar er mwyn tynnu sylw at y gwahaniaethau. Bu sôn ar y pryd mai'r rheswm fu Fiat mor flin, oedd gan fod dyluniad y Ronda yn debyg iawn i'r ail-steilio roeddent wedi bwriadu ei gynhyrchu ar gyfer y Fiat Ritmo, a bu'n rhaid iddynt ei sgrapio.

Ychydig flynyddoedd wedi i Fiat dynnu allan o'r cwmni, arwyddodd Audi AG, un o is-gwmnïau Grŵp Volkswagen, gytundeb i gydweithredu gyda SEAT, gan ddod yn gyfranddaliwr mawr ym 1986, ac yn berchennog ar 100% o'r cwmni ym 1990. Yn ystod canol y 2000au, trosglwyddwyd perchnogaeth SEAT o'r is-gwmni Audi AG, fel ei bod yn is-gwmni uniongyrchol i'r cwmni daliad Volkswagen AG.

Dewis modelau golygu

Modelau cynnar golygu

 
Y SEAT Marbella, un o fodelau cynharaf SEAT.
  • SEAT 600|600/800
  • SEAT 850|850
  • SEAT 1200 Sport|1200 Sport
  • SEAT 1400|1400
  • SEAT 1430|1430
  • SEAT 1500|1500
  • SEAT 124|124
  • SEAT 127|127
  • SEAT 128|128
  • SEAT 131|131
  • SEAT 132|132
  • SEAT 133|133
  • SEAT Fura|Fura
  • SEAT Panda|Panda
  • SEAT Ritmo|Ritmo
  • SEAT Ronda|Ronda
  • SEAT Terra|Terra
  • SEAT Inca|Inca
  • SEAT Málaga|Málaga
  • SEAT Marbella|Marbella
  • SEAT Arosa|Arosa
  • SEAT Córdoba|Córdoba
  • SEAT Toledo|Toledo

Modelau cyfredol golygu

 
Y SEAT Ibiza, y car SEAT sy'n gwerthu fwyaf.

Enwir y modelau cyfredol ar ôl enwau llefydd Sbaenaidd fel rheol.

Modelau cysyniadol golygu

  • SEAT Proto|Proto T (1989) & C , TL (1990)
  • SEAT Concepto T|Concepto T (1992) & Cabrio (1993)
  • SEAT Bolero|Bolero (1998)
  • SEAT Formula|Formula (2000)
  • SEAT Salsa|Salsa/Salsa Emoción (2000)
  • SEAT Tango|Tango/Tango Racer (2001)
  • Seat Cupra GT|Cupra GT (2003 )
  • SEAT Altea Freetrack|Altea Freetrack prototeip (2007)
  • SEAT Tribu|Tribu prototype (2007)
  • SEAT Bocanegra|Bocanegra (2008)
  • SEAT León Twin drive|León Twin drive 2009)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Company History 1979–1950". SEAT.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-06. Cyrchwyd 2010-03-09.
  2. "Volkswagen Group Audi Brand Group". Volkswagenag.com. Cyrchwyd 2012-02-05.[dolen marw]
  3. "SEAT produces car number 16 million since its beginnings". Media.seat.com. 2008-01-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 2010-03-08.
  4. "SEAT is exporting approximately 75% of its production to 72 countries". Seat.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-06. Cyrchwyd 2012-02-05.
  5. (26 Ionawr 1967) News and Views: Fiat control Seat, Cyfrol 126, Rhifyn 3702. Autocar, tud. 46
  6. 6.0 6.1 Charles Bulmer (gol.) (22 Ebrill 1972). Motorweek: Car losses hit SEAT, Rhifyn 3640. The Motor, tud. 56

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato