Gwneuthurwr ceir o'r Almaen yw Audi AG[1] (ynganiad Almaeneg: [ˈʔaʊ̯dɪ ʔaːˈgeː] (Ynghylch y sain ymagwrando)) sy'n cynllunio, peiriannu, marchnata a gwerthu ceir moethus. Mae ganddyn nhw naw ffatri a lleolir eu pencadlys yn Ingolstadt, Bafaria, yr Almaen.`Un o'u prif geir mwyaf moethus yw'r Audi R8.

Audi
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
Aktiengesellschaft
ISINDE0006757008
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1909
SefydlyddAugust Horch
PencadlysIngolstadt
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchcar
Refeniw48,800,000,000 Ewro (2019)
Incwm gweithredol
5,400,000,000 Ewro (2019)
Cyfanswm yr asedau16,800,000,000 Ewro (2019)
PerchnogionVolkswagen AG (0.9955)
Nifer a gyflogir
84,435 (31 Rhagfyr 2015)
Rhiant-gwmni
Volkswagen AG
Is gwmni/au
Ducati
Lle ffurfioZwickau
Gwefanhttps://www.audi.com/ Edit this on Wikidata

Mae gwreiddiau'r cwmni'n cordeddu'n gymhleth drwy'i gilydd a thrwy nifer o gwmniau Almaenig eraill. Yn syml: daeth pedwar cwmni at ei gilydd dan arweiniad August Horch: 'Cmwni Horch' ac Audiwerke yn 1932 ac yna DKW a Wanderer i greu un cwmni o'r enw Auto Union yn 1932. Ni welodd y brand 'Audi' (fel yr ystyrir ef heddiw) olau dydd tan y 1960au pan gymerwyd Volkswagen AG drosodd gan Auto Union (oddi wrth Daimler-Benz).[2] Ail-lansiwyd y brand Audi yn 1965 pan lansiwyd y gyfres o geir 'Audi F103'. Unwyd Volkswagen yn ffurfiol gydag Auto Union a NSU Motorenwerke yn 1969, gan greu Audi yn un o gwmniau ceir moethus mwyaf y byd.

Ystyr cyfenw sefydlydd y cwmni, "Horch", yn Almaeneg yw "gwrando", a'r gair Lladin am "wrando" ydy "audi". Mae'r pedwar cylch yn logo'r cwmni yn cynrychioli'r 4 cwmni gwreiddiol a ddaeth at ei gilydd i ffurfio 'Auto Union'. Slogan y cwmni ydy Vorsprung durch Technik, neu "Datblygiad Drwy Dechnoleg". Ers 2007, fodd bynnag, mae adran Unol Daleithiau America o Audi wedi defnyddio "Truth in Engineering" ("Gwirionedd mewn Technoleg").[3]

Rhai ceir nodedig golygu

 
Audi Typ E; 1923
Audi Typ E; 1923 
 
IFA F9; 1949 – Ebrill 1956
IFA F9; 1949 – Ebrill 1956 
 
Audi Quattro B2; 1980–1991
Audi Quattro B2; 1980–1991 
 
R8 (ail genhedlaeth), 2002-2009

Yn 1910 cynhyrchodd y cwmni ei gar cyntaf, sef yr Audi Math A 10/22 hp (16 kW) Sport-Phaeton a chyn diwedd y flwyddyn rhowliodd Math B 10/28PS allan o'r ffatri.[4] Cychwynodd Audi gydag injan 2,612 cc ac yna modelau 3,564 cc, 4,680 cc a 5,720 cc. Buont yn llwyddiannus iawn, yn enwedig mewn cystadleuau. 4-silindr oedd y rhain, ond yna yn 1924 cynhyrchodd Audi ei 6-silindr cyntaf: model Math M, 4,655 cc.[5]

Gadawodd Awst Horch y cmwni yn 1920 i lenwi un o brif swyddi Adran Gludiant Llywodraeth yr Almaen. Y car cyntaf yn yr Almaen i gael ei fas gynhyrchu ar linell gynhyrchu tebyg i'r hyn a welir heddiw oedd yr Audi Math K, a oedd yn yriant llaw chwith.[6]

Wedi'r Ail Ryfel Byd datgymalwyd pob ffatri yn Nwyrain yr Almaen, ond llwyddwyd i ail-sefydlu'r cwmni yng Ngorllewin yr Almaen yn Ingolstadt yn unswydd i greu darnau i'r ceir a oedd yn bodoli'n barod. Ail-lansiwyd y cwmni ar 3 Medi 1949 gan barhau i gynhyrchu ceir DKW 2-stroc, gyriant blaen.

Ceir trydan golygu

Yn 2016 nid oedd Audi wedi cynhyrchu'n fasnachol unrhyw gar trydan, er bod BMW wedi rhyddhau'r BMW i3 a'r i8, roedd Toyota wedi rhyddhau'r Toyota Prius a'r Toyota Mirai ac roedd 228,000 o'r Nissan Leaf wedi'u gwerthu ledled y byd erbyn Mehefin 2016. Fodd bynnag, mae Audi wedi partneru gyda'r cwmni electroneg Sanyo ers ddechrau'r 2010au i ddatblygu cerbydau trydan a fydd yn defnyddio batris Sanyo, a gyda'r Volkswagen Group bwriedir datblygu car heibrid.[7] Mae'n ymddangos mai'r Audi A1 Sportback Concept fydd y cyntaf allan o'r stabal,[8] Audi A4 TDI Concept E,[9] a char trydan-llawn, yr Audi e-tron Concept Supercar wrth ei sodlau.[10]

Nifer a gynhyrchwyd golygu

A1 A2 A3 A4 A5 A6 A7 A8 Q3 Q5 Q7 TT R8
1998[11] 143,974 271,152 174,867 15,355 13,682
1999[11] 143,505 252,514 162,573 14,636 52,579
2000[12] 32,164 136,141 231,869 180,715 12,894 56,776
2001[13] 49,369 131,082 308,778 186,467 11,708 39,349
2002[14] 37,578 125,538 360,267 178,773 10,942 34,711
2003[15] 27,323 159,417 353,836 168,612 21,748 32,337
2004[16] 19,745 181,274 345,231 195,529 22,429 23,605
2005[17] 10,026 224,961 337,705 215,437 21,515 1,185 12,307
2006[18] 231,752 341,110 487 229,021 22,468 72,169 23,675 164
2007[19] 231,117 289,806 25,549 243,842 22,182 162 77,395 56,766 4,125
2008[20] 222,164 378,885 57,650 214,074 20,140 20,324 59,008 41,789 5,656
2009[21] 206,747 282,033 84,883 182,090 8,599 105,074 27,929 22,821 2,101
2010[22] 51,937 198,974 306,291 111,270 211,256 8,496 22,435 154,604 48,937 26,217 3,485
2011[23] 117,566 189,068 321,045 111,758 241,862 37,301 38,542 19,613 183,678 53,703 25,508 3,551
2012[24] 123,111 164,666 329,759 103,357 284,888 28,950 35,932 106,918 209,799 54,558 21,880 2,241
  • Data o 1998 - 2010.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Satzung und Statuten der AUDI AG" (PDF). audi.com (yn German). Ingolstadt, Germany: AUDI AG. 20 Mai 2010. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-08-15. Cyrchwyd 15 Awst 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "List of Shareholdings in accordance with sections 285 and 313 of the HGB of Volkswagen AG and the Volkswagen Group as of 31 Rhagfyr 2009" (PDF). www.volkswagenag.com. Volkswagen AG. 31 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2010.
  3. "Audi Launches New Brand Campaign". AudiWorld. 7 Mai 2007. Cyrchwyd 20 Mawrth 2015.
  4. Baldwin, Nick; Laban, Brian (1987). The World guide to automobile manufacturers. Facts on File Publications. t. 43. ISBN 978-0-8160-1844-4.
  5. History, Audi (2010). The Audi Story. Audi AG. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-06. Cyrchwyd 2016-08-31.
  6. Audi chronicle 1915–1929. audi.com
  7. Audi Plans To Run On Sanyo Hybrid Batteries. lexisnexis.com (1 Mehefin 2008).
  8. "Audi A1 Sportback concept". Next Concept Cars. 2 Hydref 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mawrth 2009. Cyrchwyd 27 Ebrill 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Korzeniewski, Jeremy (2 Hydref 2008). "Audi unveils A4 TDI concept e". Autobloggreen.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2009. Cyrchwyd 27 Ebrill 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Audi e-Tron Electric Supercar Concept Unveiled". Audisite.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-29. Cyrchwyd 2016-08-31.
  11. 11.0 11.1 Volkswagen AG Annual Report 1999 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback. (Including 1998) p. 50 volkswagenag.com
  12. Volkswagen AG Annual Report 2000 Archifwyd 2011-01-11 yn y Peiriant Wayback.. p. 53 volkswagenag.com
  13. Volkswagen AG Annual Report 2001 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 41 volkswagenag.com
  14. Volkswagen AG Annual Report 2002 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 77 volkswagenag.com
  15. Volkswagen AG Annual Report 2003 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 97 volkswagenag.com
  16. Volkswagen AG Annual Report 2004 Archifwyd 2011-01-12 yn y Peiriant Wayback.. p. 91 volkswagenag.com
  17. Volkswagen AG Annual Report 2005 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 41 volkswagenag.com
  18. Volkswagen AG Annual Report 2006 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 45 volkswagenag.com
  19. Volkswagen AG Annual Report 2007 Archifwyd 2011-10-01 yn y Peiriant Wayback.. p. 83 volkswagenag.com
  20. Volkswagen AG Annual Report 2008 Archifwyd 2011-10-01 yn y Peiriant Wayback.. p. 83 volkswagenag.com
  21. Volkswagen AG Annual Report 2009 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 93 volkswagenag.com
  22. Volkswagen AG Annual Report 2010 Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback.. p. 111 volkswagenag.com
  23. "VWAG FY2011" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-05-26. Cyrchwyd 2016-08-31.
  24. "Audi Annual Report 2012" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-08-18. Cyrchwyd 2016-08-31.

Gweler hefyd golygu