Samuel Smith
Roedd Samuel Smith (11 Ionawr 1836 – 29 Rhagfyr 1906) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Lerpwl o 1882 i 1885 ac Aelod Seneddol Sir y Fflint rhwng 1886 a 1906.
Samuel Smith | |
---|---|
Ganwyd | 1836 Dumfries a Galloway |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1906 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Smith yn fab hynaf James Smith, amaethwr o South Carleton, Borgue, Swydd Kirkcudbright (Dumfries and Galloway heddiw), yr Alban.
Cafodd ei addysgu yn Academi Brouge a Phrifysgol Caeredin, gyda'r bwriad o ymuno a'r weinidogaeth.
Ym 1864 priododd Melville, merch y Parch John Christionson o Biggar, Swydd Gaerhirfryn [1] bu iddynt un mab, James Gordon, bu farw ym 1898; sefydlodd Smith y Gordon Smith Institute for Seamen, yn Lerpwl er cof amdano.[2].
Gyrfa
golyguGan roi'r gorau i'w fwriad o fynd i'r weinidogaeth aeth Smith i weithio fel prentis i gwmni broceri cotwm Logan & Co yn Lerpwl tua 1854, gan godi i fod yn awdurdod ar safon cotwm ac yn arbenigwr yn y busnes o'i brynu a'i werthu. O ganlyniad i Ryfel Cartref America bu anawsterau mewnforio cotwm o'r UDA i'w drin ym melinau Caerhirfryn ond fe lwyddodd Smith i greu ffynhonnell o gotwm newydd trwy sicrhau cychwyniad nifer o blanhigfeydd cotwm newydd yn yr India.[3]
Ym 1864 sefydlodd Smith a James, ei frawd, eu cwmni brocer cotwm eu hunain yn Lerpwl, daeth hefyd yn bartner mewn cwmni cotwm o Glasgow, gan ennill ffortiwn fawr iddo'i hyn.
Gwaith dyngarol
golyguRoedd Smith yn gefnogwr brwd i achos ledaenu addysg ymysg plant y tlodion, yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas i Atal Creulondeb i Blant (NSPCC bellach) ac yn un o'r ymgyrchwyr cyntaf yn erbyn bywddifyniad (arbrofi ar anifeiliaid byw S: vivisection); roedd hefyd yn un o'r dynion cyntaf i dynnu sylw at anghyfiawnder deddfau oedd yn amddiffyn dynion rhag cael eu herlyn am drais yn y cartref yn erbyn eu gwragedd a'u plant.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYm 1878 cafodd Smith ei ethol fel aelod Annibynnol o gyngor tref Lerpwl, gan gael ei ail ethol ym 1882, gan annog y cyngor i roi sylw arbennig i achos cyfradd marwolaethau isel y dref. Ym 1882 cafodd, hefyd, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf fel un o dri AS etholaeth Lerpwl mewn isetholiad a achoswyd gan ddyrchafiad un o'r cyn aelodau Ceidwadol i Dy'r Arglwyddi. Diddymwyd sedd Lerpwl ym 1885 a chredwyd naw sedd un aelod yn ei le. Safodd Smith yn aflwyddiannus yn etholaeth newydd Abercromby[4].
Wedi colli ei le yn y senedd aeth ar un o'i deithiau mynych i'r India, tra yno fe glywodd am isetholiad oedd i'w cynnal yn Sir y Fflint a achoswyd trwy ddyrchafiad Richard Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge i'r bendefigaeth, cafodd Smith ei enwebu fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol a thrwy ymgyrch a gynhaliodd trwy yrru telegramau o'r India llwyddodd i gael ei ethol gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1906.
Cafodd ei godi i'r Cyfrin Gyngor ym Mis Tachwedd 1906.[5]
Marwolaeth
golyguAr 23in Tachwedd arweiniodd Smith ddirprwyaeth i'r India er mwyn ymweld â Chyngres Cenedlaethol India a 'r Mudiad Dirwest Eing-Indiaidd [6]; tra ar y daith bu farw o drawiad ar y galon yn ninas Calcuta.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EX WELSH MPS DEATH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-12-31. Cyrchwyd 2015-07-03.
- ↑ Mersyside Maritime Museum Gordon Smith Institute [1] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
- ↑ "MR SAMUEL SMITH - The Chester Courant and Advertiser for North Wales". James Albert Birchall. 1907-01-02. Cyrchwyd 2015-07-03.
- ↑ "MRSAMUELSMITH - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1907-01-05. Cyrchwyd 2015-07-03.
- ↑ Y Goleuad 14 Tachwedd 1906 Y Gwir Anrhydeddus Samuel Smith [2] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
- ↑ Yr Herald Gymraeg 20 Tachwedd 1906 Y Gogledd [3] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
- ↑ Evening Express 31 Rhagfyr 1906 Ex Welsh MP's Death [4] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Is Iarll Sandon Edward Whitley Claud Hamilton |
Aelod Seneddol Lerpwl 1882 – 1885 gyda: Edward Whitley Claud Hamilton |
Olynydd: Dileu'r etholaeth |
Rhagflaenydd: Richard Grosvener |
Aelod Seneddol Sir y Fflint 1886 – 1906 |
Olynydd: John Herbert Lewis |