Sant Cennydd

sant Cymreig o'r 6g

Roedd Sant Cennydd (Saesneg: Cenydd neu Kenneth; Ffrangeg: Kinède; bl tua'r 6g), yn feudwy Cristnogol ar Benrhyn Gŵyr, lle y'i cysylltir â sefydlu'r eglwys yn Llangynydd. Yn Llydaw, caiff ei gysylltu'n bennaf â Langedig, ond mae capel wedi ei gysegru iddo yn Ploveilh hefyd.

Sant Cennydd
GanwydCasllwchwr Edit this on Wikidata
Bu farwArmorica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeudwy Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlangynydd, Langedig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Gorffennaf Edit this on Wikidata

Chwedl

golygu

Mae calendrau litwrgaidd ac enwau lleoedd yn tystio i fodolaeth hanesyddol gŵr sanctaidd o'r enw Cennydd yn y 6g, ond am fod yr hanesion amdano mor hwyr ac mor amlwg ddeilliadol, ni fedrir dibynnu ar y rhain. Yn ôl y ffynonellau Cymreig a gasglwyd yn y 15g gan John Capgrave ac a gyhoeddwyd yn y Nova Legenda Angliae, roedd Cennydd yn dywysog o Lydaw, yn fab i'r "Brenin Dihoc" (yn ôl pob tebyg Deroch II Domnonée), a aned o losgach yng Nghasllwchwr, Morgannwg tra oedd ei dad yn ymweld â'r Brenin Arthur.

Ganed Cennydd yn anabl, a chan yr ystyrid hynny'n warth ar deulu brenhinol, ceisiwyd cael gwared arno drwy ei roi mewn crud o helyg a'i ollwng i ddŵr Afon Llwchwr. Glaniodd y crud ar Ben Pyrod. Cafodd ei fagu gan wylanod ac angylion a oedd yn meddu ar gloch wyrthiol o siâp y fron: sicrhawyd felly ei fod yn goroesi a chael addysg Gristnogol.

Daeth yn feudwy gan dreulio ei ddyddiau yn gweddïo ar Benrhyn Gŵyr. Ym 545 cafodd ei anabledd ei wella gan Dewi Sant wrth deithio i synod Llanddewibrefi ond penderfynodd y byddai'n well ganddo aros fel y cafodd ei eni, a gweddïodd am i'w wendid cael ei hadfer.

Dygwyl

golygu

Dethlir dydd gŵyl Cenydd yn Llangynydd ar 5 Gorffennaf. Hyd at ddechrau'r 20g roedd yr ŵyl yn cael ei nodi yn draddodiadol trwy arddangos delw o aderyn ar dŵr yr eglwys, yn symbol o'r adar chwedlonol a ofalai am Gennydd yn ei fabandod, a chan fwyta pwdin teth Cennydd, sef cymysgedd o flawd, llaeth, siwgr a ffrwythau i gynrychioli'r bwyd a roddid iddo gan yr angylion.

Cyfeiriadau

golygu