Meugan
Credir fod Meugan (hefyd Mawgan; Lladin: Maucannus) yn ŵr Cristnogol a oedd yn byw rywdro rhwng y 6ed a'r 7g. Cyfeiriodd Iolo Morganwg at Meugan ap Goronw a astudiodd gyda Beuno yng Nghlynnog Fawr. Yn ôl eraill roedd yn ddisgybl i Sant Briog.[1] Dywedir a'i fod fel Cristoffer yn nawddsant teithwyr.[2] Mae ei ddydd Gŵyl ar 24 Ebrill a 25 Medi.[3]
Meugan | |
---|---|
Ganwyd | Iwerddon |
Bu farw | 5 g Ynys Manaw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 27 Ebrill |
Mam | Gwenonwy ach Meurig |
Credir iddo fod yn bennaeth ar gymuned Cristnogol, ond ni wyddys ym mhle mae hwnnw: Mae ei eglwysi'n cynnwys Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, sef mam-eglwys tref Rhuthun, Sir Ddinbych, a Chapel Meugan a chwalwyd er mwyn codi Castell Biwmares ar y safle.[4] Ger ffermdy Pistyll Meugan ger Cemais bu capel a dinistrwyd yn 1592 dan orchymyn awdurdodau eglwysig i atal pererindota ofergoelus a llenwyd y ffynnon i rhwystro'r werin rhag gwneud offrymau yno.
Ni wyddom yn union pa bryd y trigodd, dywed Sieffre o Fynwy ei fod yn gyfoeswr i Fyrddin a Gwrtheyrn, ac iddo fod yn Esgob ar 'Fudi' (o bosibl Woodchester heddiw) ond mae'n ymddangos fod sant arall oedd yn cael ei chyfeirio ato.
Rhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Sant Meugan | 53°06′36″N 3°17′10″W / 53.1101°N 3.28616°W | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Q17737112 | |
2 | Eglwys Sant Meugan | 51°54′42″N 3°19′45″W / 51.9118°N 3.32911°W | Tal-y-bont ar Wysg | Q17742683 |
Gweler hefyd
golygu- Eglwyswen, Eglwys a phlwyf yng ngogledd Sir Benfro yw 'Eglwyswen'; yr hen enw i'r eglwys oedd Sant Meugan.
- Croes Sant Meugan
- Rhestr o seintiau Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.earlybritishkingdoms.com; adalwyd 2015
- ↑ The Church of Saint Meugan, Llanrhydd, Ruthin gan Williams, Rheithor y Plwyf, 1988
- ↑ Lives of the British Saints
- ↑ The Cambrian traveller's guide, and pocket companion gan G. Nicholson; adalwyd 2015