Harry Greene

Personoliaeth teledu o Gymro (1923-2013)

Cyflwynydd teledu ac awdur o Gymro oedd Harry Greene (21 Tachwedd 19234 Mawrth 2013), oedd yn adnabyddus am fod yr arbenigwr DIY cyntaf ar deledu.[1][2] Yn ystod ei fywyd, ysgrifennodd Greene dros 23 llyfr, cyflwynodd dros 2,000 o raglenni DIY, a trwy ei gwmni adeiladu darparodd wasanaethau adeiladu i dros 32 sêr llwyfan a theledu.[3]

Harry Greene
Ganwyd21 Tachwedd 1923 Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
Man preswylStratford, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodMarjie Lawrence Edit this on Wikidata
PlantSarah Greene, Laura Greene Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Henry Howard Greenhouse[3] yn Rhymni, ger Caerffili (yn Sir Fynwy ar y pryd), i Jack Greenhouse a'i wraig Una.[2][3] Roedd ei dad, a ddychwelodd o ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dioddef o wenwyno nwy mwstard, a'i fam yn ymddiddori yn y celfyddydau, barddoniaeth a cherddoriaeth ac yn adlonni yn gyson yn ei thŷ yn Colenso Terrace.[3] Ers oedd yn 10 mlwydd oed, byddai Greene yn treulio amser ar benwythnosau gyda'i ewythr, oedd yn beiriannydd trydanol a dyn cynnal a chadw ym mhwll glo Bargoed, lle dysgodd Greene i ddefnyddio offer yn gywir.[3]

Ar ôl pasio'r arholiad 11 plws, fe'i derbyniwyd i Ysgol Ramadeg Rhymni, lle yn 1936, enillodd wobr arlunio o dan 17 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[3] Dysgwyd chwaraeon iddo gan y nofiwr Olympaidd C.B. Thomas, ac o dan ei adain daeth Greene yn rhedwr a thorrodd record ar lefel Sirol, yn chwaraewr rygbi'r undeb dawnus a phencampwr iau Cymreig ar y naid hir.[3]

Wrth hyfforddi fel drafftsmon peirianneg ym Mhrifysgol Celf Casnewydd (nawr yn Brifysgol De Cymru) yn 1939, enillodd ysgoloriaeth i astudio Pensaernïaeth, Dylunio Mewnol a Enghreifftiol yng Ngholeg Celf Caerdydd,[4] gyda blwyddyn derfynol ym Mhrifysgol Caerdydd.[3] Fodd bynnag, wrth i'r Ail Ryfel Byd dorri allan, roedd yn rhaid iddo ohirio dechrau'r cwrs, ac yn ddiweddarach roedd ynghlwm a'r Royal Electrical and Mechanical Engineers fel drafftsmon, lle weithiodd ar ddyluniad tanc cyfrinachol ar gyfer y ffrynt Rwsiaidd.[2] Yn 1943 bu farw ei dad o sgîl-effeithiau cynharach ei wenwyno gan nwy mwstard.[3]

Gyrfa golygu

Ar ôl y rhyfel, cymerodd Greene ei le yng Ngholeg Caerdydd, gan hyfforddi fel cynorthwwydd drafftsmon a phensaer. Yn ystod yr amser yma daeth yn ffrindiau gyda'i gyd-fyfyriwr Terry Nation a ddaeth yn sgriptiwr Doctor Who yn hwyrach ymlaen. Gweithiodd y ddau ar gynyrchiadau myfyrwyr gyda'i gilydd ac yna ar benwythnosau yn y Theatr Newydd, Caerdydd fel dyn llwyfan.[2] Arweiniodd hyn at actio amatur gyda chwmni Unity Theatre ac fel cynorthwwydd gwirfoddol yn y Cory Hall ar sioe radio wythnosol Eynon Evans ar BBC Wales lle cyfarfu Harry Secombe.[3]

Tra oedd yn hyfforddi i ddod yn athro, meddyliodd am syniad i wneud arian i brynu beic modur 350cc Royal Enfield cyn-WD. Yn defnyddio dalennau gwastraff o laminad tyllog wedi ei adael ar ôl gwneud secwins, fe wnaeth addurniadau Nadolig yn ei lety myfyriwr. Ar ôl graddio, prynodd ei ffrind Henry Curly feic hefyd, a theithiodd y pâr 6,000 milltir drwy Ffrainc, Y Swistir a'r Eidal.[3] Wedi dychwelyd o'r daith, cymerodd Greene swydd athro Celf a Drama yn Ysgol Ramadeg Tredegar, gan ennill £20 yr wythnos.[2][3] Wrth gymryd dosbarth i weld perfformiad o Uranium 235 yn serennu Joan Littlewood, cyflwynwyd y ddau gan ei ffrind a chynhyrchydd Unity Theatre. Roedd Littlewood yn edrych am Gymro ifanc i chwarae cymeriad Shakespeare, Owen Glendower, a Taffy yn Paradise Street gan Ewan MacColl. Yn ogystal fel perchennog/cynhyrchydd y cwmni teithiol Theatre Workshop, roedd eisiau rhywun oedd yn gallu adeiladu setiau theatr a gyrru'r lori.

Ymddiswyddodd Greene o'i swydd fel athro y diwrnod canlynol, a symudodd i Fanceinion i ymuno a'r Theatre Workshop, yn aml yn ennill llai na £5 yr wythnos o incwm y cwmni.[2][3] Yn 1949, newidiodd ei enw Harry Greene yn gyfreithiol.[3] Ar ôl dwy flynedd, symudodd y cwmni i safle newydd yn neuadd gerddoriaeth adfeiliedig y Theatr Royal yn Stratford, Llundain. Wedi i Greene ddylunio a threfnu'r rhaglen ail-adeiladu, y cynhyrchiad cyntaf oedd Twelfth Night yn hwyr yn 1953; yn ogystal fe adeiladodd Greene y setiau a actiodd yn y ddrama.[3]

Ar Ddydd Calan 1954, cafodd y cwmni 200 o geisiadau am eu cynhyrchiad nesaf, yn cynnwys yr actores Marjie Lawrence. Daeth Greene a Lawrence yn gwpl ymhen dim, a fe'i priodwyd yn 1955.[2][3] Daeth Theatre Workshop yn gymaint o lwyddiant, y byddai cynyrchiadau yn trosglwyddo yn ddiweddarach i theatr West End Llundain, gan ddod a Greene a Lawrence i sylw cenedlaethol. Yn ystod ei yrfa actio, fe serennodd Greene mewn dros 40 ffilm, gyferbyn actorion fel Sean Connery, Sir John Gielgud, Melina Mercouri, Lana Turner a Jean Seberg.[1][2][3]

Arbennigwr DIY golygu

Ar lansiad y darlledwr annibynnol Associated Rediffusion, serennodd y cwpl yn yr opera sebon Round the Redways, ynglŷn â chwpl oedd yn rhedeg siop DIY, gyda Greene yn chwarae dyn trwsio di-glem.[1][2]

Yn awyddus i lenwi'r amserlen, cymerodd Associated Rediffusion gynnig Marjie i ffilmio sioe DIY wedi ei seilio arno yn diwygio ei fflat yn Primrose Hill, Gogledd Llundain. Fe ddangoswyd Handy Round the Home gyntaf ar 4 Ionawr 1957,[2] yn rhoi'r pwyslais ar ddangos gwaith ymarferol y gallai gwylwyr ei ddilyn gartref, gyda'i ymadrodd, "Safety first; DIY second" gan ei wneud yn enw cyfarwydd.[1][2][3]

Yn y 1980au cyflogwyd Greene gan Greg Dyke yn TV-AM, yn dyfeisio, ysgrifennu a chynhyrchu Dream Home, lle'r oedd Greene yn cyd-gyflwyno gyda'i ferch Sarah.[2] Perswadiodd Greene y cwmni i brynu bwthyn adfeiliedig yn Hampshire, a fe'i ffilmiwyd yn ei adfer a'i addasu gyda gwaith adeiladu.[3] Ar ddiwedd y prosiect, gwobrwywyd y tŷ mewn cystadleuaeth. Yna fe ymunodd â rhaglen Pebble Mill at One ar y BBC, lle adeiladodd dŷ newydd o'r cychwyn gyda thîm o bobl.[1]

Wedi hyn sefydlodd gwmni adeiladu, oedd yn arbenigo mewn darparu tai newydd, estyniadau a gwasanaethau adeiladu i actorion a phersonoliaethau teledu. Erbyn 2000, roedd y cwmni wedi darparu gwasanaethau i dros 32 o sêr, yn cynnwys Barbara Windsor, Siân Lloyd, Paul McKenna a Neil Morrissey.[3]

Yn y 1990au cynnar, er yn dal i gyflwyno, bu Greene yn gweithio fel ymgynghorydd ar fath newydd o raglenni DIY, yn cynnwys DIY SOS, Changing Rooms, House Doctor a DIY Challenge.[3] Ymddangosodd yn rheolaidd ar sianeli daearol y DU hyd y 1990au hwyr, ac yna ar amryw o sianeli siopa ar loeren yn cynnwys QVC UK.[1]

Bywyd personol golygu

Roedd gan Greene a'i wraig tri o blant, actores a chyflwynydd teledu Sarah Greene, cyflwynydd teledu Laura; a dyn busnes Robin sy'n rhedeg cwmni yn Y Swistir.[5]

Bu farw Greene ychydig ddyddiau ar ôl dychwelyd o wyliau yn Mawrth 2013 gyda'i ferch Sarah a'i gŵr, y cyflwynydd Mike Smith.[1][2][6]

Cyhoeddiadau golygu

  • Harry Greene (19 Tachwedd 2003). Harry Greene's Complete DIY Problem Solver.
  • Harry Greene (Awst 1990). Do-it-yourself Problem Solver.
  • Harry Greene (2 Ebrill 1987). On the House: Harry Greene's Do-it-yourself Handbook.

Cyfeiriadau golygu