Sarah Jones
chwaraewr hoci
Mae Sarah Louise Jones (ganwyd 25 Mehefin 1990) yn chwaraewr hoci maes o Gaerdydd sy'n chwarae fel chwaraewr canol cae neu ymlaen. Mae hi'n chwarae i Gymru a Phrydain Fawr. Enillodd hi 96 cap dros Gymru.
Sarah Jones | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1990 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr hoci maes |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cafodd Jones ei geni yng Nghaerdydd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Howell's, Llandaf, ynghyd â Hannah Mills.[1] Mae ei phartner yn chwaraewr hoci arall, Leah Wilkinson.[2]
Cynrychiolodd Jones Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 a Ngemau'r Gymanwlad 2018. Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020.[1][3] Chwaraeodd hi a'i chariad, Leah Wilkinson, i dîm Prydain a enillodd fedal efydd yng Gemau Olympaidd yr Haf 2020.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Tom Brown (15 Gorffennaf 2021). "Meet the Welsh athletes competing at the Tokyo 2020 Olympics". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Awst 2021.
- ↑ "Our Story: Sarah Jones and Leah Wilkinson". Team GB. Cyrchwyd 3 Awst 2021.
- ↑ "Y Cymry fydd yn mynd am aur yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 22 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 3 Awst 2021.
- ↑ "Two Welsh women win hockey bronze at Olympic Games". ITV News (yn Saesneg). 6 Awst 2021. Cyrchwyd 6 Awst 2021.