Saws neu surop a wneir o siocled i gyd-fynd â melysfwyd neu bwdin yw saws siocled neu surop siocled. Gwneir y saws siocled gorau o siocled lled-felys neu siocled chwerw, gydag ychydig o fenyn a fanila.[1]

Powlen o hufen iâ a surop siocled.

Gellir ei arllwys ar hufen iâ fanila i gael Dame blanche, neu ar ellyg wedi eu potsio mewn surop siwgr, a hufen iâ i wneud Poire belle Hélène. Wrth gwrdd â'r hufen iâ mae saws siocled yn oeri mor gyflym mae'n soledu gan roi blas ac ansawdd sy'n cyferbynnu â'r hufen iâ.[1]

Mae rhai sawsiau eraill yn cynnwys siocled, er enghraifft saws mole ym Mecsico neu saws cimwch coch yn Sbaen.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 182.