Sendero Luminoso

(Ailgyfeiriad o Sendero luminoso)

Mudiad chwyldroadol herwfilwrol ym Mheriw yw Sendero Luminoso (Sbaeneg am "[y] Llwybr Disglair"),[1] yn swyddogol Plaid Gomiwnyddol Periw (Partido Comunista del Perú, PCP) sydd yn arddel Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth a Pensamiento Gonzalo ("Meddwl Gonzalo"). Cyfeirir ati yn aml gan ysgolheigion fel Plaid Gomiwnyddol Periw – Sendero Luminoso (PCP-SL) i'w gwahaniaethu oddi ar bleidiau comiwnyddol eraill yn y wlad. Fe'i sefydlwyd gan Abimael Guzmán ym 1969, a lansiodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth Periw ym 1980, gwrthdaro sydd yn parhau ar raddfa isel hyd heddiw.

Sendero Luminoso
Y morthwyl a'r cryman, arwyddlun Sendero Luminoso.
Enghraifft o'r canlynolcommunist party, mudiad terfysgol Edit this on Wikidata
IdiolegMarcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth, comiwnyddiaeth, anti-capitalism, anti-revisionism, Meddwl Gonzalo, sosialaeth chwyldroadol, Seciwlariaeth, social conservatism Edit this on Wikidata
Daeth i benMehefin 2018 Edit this on Wikidata
Label brodorolPartido Comunista del Perú — Sendero Luminoso Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1969 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganMilitarized Communist Party of Peru Edit this on Wikidata
SylfaenyddAbimael Guzmán, Augusta La Torre Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInternational Communist League, Revolutionary Internationalist Movement Edit this on Wikidata
Enw brodorolPartido Comunista del Perú — Sendero Luminoso Edit this on Wikidata
GwladwriaethPeriw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Athro ym Mhrifysgol Genedlaethol San Cristóbal del Huamanga, yn Ayacucho, oedd Guzmán, a ddaeth i'r amlwg fel arweinydd ar garfan o Faöyddion a oedd yn cynnal trafodaethau wythnosol rhwng myfyrwyr ac academyddion ynglŷn â sut i ddwyn ymwybyddiaeth o ddosbarth i feddwl y gwerinwyr ym Mheriw. Datblygodd y cyfarfodydd yn fudiad dan yr enw Plaid Gomiwnyddol Periw—yn wahanol i'r blaid gomiwnyddol swyddogol—a honnodd Guzmán ei fod yn olynydd i Marx, Lenin, a Mao. Gadawodd Guzmán y brifysgol yn Ayacucho yng nghanol y 1970au, wrth i'w blaid ddatblygu'n fyddin herwfilwrol. Mabwysiadwyd yr enw ar sail disgrifiad José Carlos Mariátegui o Farcsiaeth, sendero luminoso al futuro ("llwybr disglair i'r dyfodol"). Aeth Guzmán a'i ddilynwyr, y Senderistas, ar herw yn y cefn gwlad, i gynllunio'u gwrthryfel yn ddirgel. Datblygodd Sendero Luminoso yn fudiad herwfilwrol hynod o ddisgybledig, ffanatigaidd, ac hierarchaidd, ac yn llym yn ei ymgyrchoedd yn erbyn yr awdurdodau, yr adain chwith a oedd yn gwyro oddi ar Faoaeth, ac unrhyw un arall a ystyriwyd yn rhan o'r fwrdeisiaeth neu yn elyn i'r chwyldro.

Cyhoeddwyd dechrau'r gwrthryfel yn ystod etholiad cyffredinol Mai 1980, ac un o weithredoedd cychwynnol y Senderistas oedd llosgi blychau pleidleisio. Ymhen fawr o dro, llwyddasai Sendero Luminoso i gipio rhannau mawr o diriogaeth Periw, a throdd yn wrthdaro gwaedlyd gan gynnwys terfysgaeth yn erbyn y bobl gan y Senderistas a lluoedd diogelwch y llywodraeth. Ar y cychwyn cafodd Guzmán gefnogaeth nifer o'r gwerinwyr, am iddo ddisodli a lladd nifer o swyddogion llygredig a gormesol. Yn y pen draw, trodd trwch y boblogaeth yn erbyn Sendero Luminoso wrth i Guzmán orfodi trefn biwritanaidd newydd yn ei diriogaeth, gan gynnwys dirwest gorfodol. Mae'r mudiad yn gyfrifol am nifer o droseddau ac ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys cyflafan Lucanamarca ym 1983 a ffrwydrad Lima ym 1992. Yn ôl comisiwn llywodraethol yn 2003, Sendero Luminoso sydd ar fai am 54 y cant o'r 50,000–70,000 o farwolaethau treisiol yn y rhyfel yn y cyfnod o 1980 i 2003.[2]

Cafwyd hyd i Guzmán gan lu gwrth-derfysgaeth ym 1992, a fe'i olynwyd yn arweinydd y Sendero luminoso gan Óscar Ramírez. Cafodd Ramírez ei arestio ym 1999, ac enciliodd olion Sendero Luminoso i Ddyffryn Afonydd Apurímac, Ene a Mantaro (VRAEM). Bu cyfnod o heddwch i raddau nes i'r Senderistas ailddechrau'r gwrthryfel yn 2002.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, "shining > the Shining Path".
  2. (Saesneg) "Profile: Peru's Shining Path", BBC (5 Tachwedd 2004). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Gorffennaf 2012.