Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Machynlleth

adeilad ym Machynlleth, Powys
(Ailgyfeiriad o Senedd-dy Owain Glyn Dŵr)

Adeilad o'r 15g yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Machynlleth, Gwynedd, a adeiladwyd ar safle pwysigiawn yn hanes Cymru, sef y fan lle y cyfarfu Senedd Cymru yn ystod teyrnasiad y Tywysog Owain Glyn Dŵr. Gwyddom yn sicr iddo gynnal ei Senedd cyntaf yma wedi iddo gael ei goronni yn Pennal, ychydig filltiroedd i'r gogledd-orllewin. Mae'n bosib fod rhan o'r adeilad yn wreiddiol, ac wedi'i wneud o ddefnydd yr hen senedd-dy, sef carreg lleol. Mae'n ddigon posibl, hefyd, mai i'r fan hon y teithiodd Harri Tudur ar ei daith drwy Gymru yn cywain byddin, cyn troi i'r dwyrain tua Maes Bosworth ac erwau breision Lloegr.[1]

Senedd-dy Owain Glyn Dŵr
Mathadeilad, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMachynlleth Edit this on Wikidata
SirMachynlleth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr16 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5909°N 3.84939°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Y Senedd-dy; ysgythriad gan Edward Pugh, 1813.

Prynnwyd y tir a'r adeilad gan David Davies (Llandinam), un o ddiwydiannwyr mwyaf llwyddiannus Cymru yng nghanrif 19 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd ar 20 Chwefror 1812, fel canolfan gymdeithasol y dref.[2]

Ar draws y ffordd i'r senedd-dy, saif 'Sefydliad Glyn Dŵr', adeilad arall a luniwyd yn y 15C, o bosib gan yr un pensaer, sef Frank Shayler.[3] Ceir gatiau a mynedfa cywain Plas Machynlleth wrth ei ochr. Heol Maengwyn yw enw'r ffordd rhwng y senedd-dy a'r sefydliad, ffordd sy'n arwain o ganol tref Machynlleth tua'r dwyrain.[4]

Tua 1813 ymwelodd yr arlunydd Edward Pugh â Machynlleth ac yn 1816 cyhoeddodd lithograff lliw o'r senedd-dy.[5] Gyda'r darlun hwn, dywedodd: 'Dyma'r fan lle y cynhaliodd Glyn Dŵr ei Senedd: ac mae'r tŷ lle y daeth ef a'i ymlynwyr at ei gilydd yn dal i fodoli. Mae'r lle o'r tu allan yn edrych yn debyg i ysgubor, a bellach caiff ei ddefnyddio fel granar (i ddal grawn) ayb, ar wahân i'r rhan ar y pen a gaiff ei ddefnyddio fel preswylfa tlawd. Mae'r tu fewn yn hen, hen iawn: yn y cefn ceir grisiau carreg, sydd wedi dechrau dadfeilio, ac sy'n arwain i'r neuadd anferthol, ble ceir asennau pren cerfiedig.'[6]

Dyddio dendrocronolegol golygu

Mae dyddio drwy gyfri modrwyau'r pren sy'n ffurffio asgwrn cefn yr adeilad yn dangos i'r coed gael eu torri yn 1470 [7] sef dwy genhedlaeth wedi cyfarfodydd seneddol Cymru. Er hyn, credir fod rhanau carreg yr adeilad gryn dipyn yn hŷn na'r dyddiad hwn.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. canolfanglyndwr.org; Archifwyd 2016-04-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Ebrill 2016
  2. canolfanglyndwr.org; Archifwyd 2016-04-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 27 Ebrill 2016
  3. Scourfield R. a Haslam R. (2013), The Buildings of Wales: Powys; Montgomeryshire, Radnorshire and Breconshire, Yale University Press.
  4. 4.0 4.1 “Scourfield a Haslam”. (2013), t. 195
  5. Edward Pugh (1816), ‘‘Cambria Depicta’’, tud. 222
  6. Cyfieithwyd o: Owen Glyndwr held his parliament here: and the house is still in being in which he and his adherents assembled. Its exterior appearance is barn like, and it is now used as a granary, etc, with the exception of one end, which is occupied as a miserable dwelling-house. Its interior exhibits great age: at the back is a flight of stone stairs in ruins, leading into the great room, in which there are carved ribs etc, in timber Gweler Google Books: books.google.co.uk Cambria Depicta: a Tour Through North Wales: Illustrated with Picturesque Views]; adalwyd 16 Ebrill 2016.
  7. Dendrochronology

Llenyddiaeth golygu

  • Scourfield R. a Haslam R. (2013), The Buildings of Wales: Powys; Montgomeryshire, Radnorshire and Breconshire, Yale University Press.

Dolennau allanol golygu