Setswana
Un o'r ieithoedd Bantŵ a siaredir yn Neheudir Affrica gan tua 8.2 miliwn o bobl yw Setswana, (yr enw yn yr iaith ei hun) a adnabyddir hefyd wrth ei henw Tswana, ac a sillafwyd yn flaenorol Secoana yn Saesneg.[1] Mae'n perthyn i'r teulu iaith Bantw o fewn cangen Sotho-Tswana Parth S (S.30), ac mae'n perthyn yn agos i'r ieithoedd Sotho Gogleddol a De Sotho (Sesotho), yn ogystal â'r iaith Kgalagadi a'r iaith Lozi.[2]
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Sotho–Tswana |
Enw brodorol | seTswana |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | tn |
cod ISO 639-2 | tsn |
cod ISO 639-3 | tsn |
Gwladwriaeth | Botswana, Namibia, De Affrica, Simbabwe |
Rhanbarth | North West |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Pan South African Language Board |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Setswana yn iaith swyddogol ac yn lingua franca yn Botswana ac yn Ne Affrica. Mae llwythau Tswana i'w cael mewn mwy na dwy dalaith yn Ne Affrica, yn bennaf yn y Gogledd Orllewin, lle mae tua phedair miliwn o bobl yn siarad yr iaith. Mae amrywiad trefol ar yr iaith, o'r enw Pretoria Sotho, sy'n cynnwys bratiaith ac yn wahanol i Setswana ffurfiol: dyma brif iaith unigryw dinas Pretoria. Y tair talaith yn Ne Affrica sydd â'r nifer fwyaf o siaradwyr yw Gauteng (tua 11%), Northern Cape, a Gogledd Orllewin (dros 70%). Hyd at 1994, roedd pobl Tswana De Affrica yn ddinasyddion tybiannol o Bophuthatswana, un o bantustaniaid y gyfundrefn apartheid. Mae gan yr iaith Setswana yn Nhalaith y Gogledd-orllewin amrywiadau lle mae'n cael ei siarad yn ôl y llwythau a geir yn niwylliant Tswana (Bakgatla, Barolong, Bakwena, Batlhaping, Bahurutshe, Bafokeng, Batlokwa, Bataung, a Bapo, ymhlith eraill); mae'r iaith ysgrifenedig yn aros yr un fath. Mae nifer fechan o siaradwyr hefyd i'w cael yn Simbabwe (nifer anhysbys) a Namibia (tua 10,000 o bobl).[1]
Hanes
golyguYr Ewropead cyntaf i ddisgrifio'r iaith oedd y teithiwr Almaeneg Hinrich Lichtenstein , a drigai ymhlith y bobl Tswana Batlhaping ym 1806 er na chyhoeddwyd ei waith tan 1930. Roedd yn ystyried Tswana ar gam fel tafodiaith y Xhosa , a'r enw a ddefnyddiodd am mae'n bosibl bod yr iaith "Beetjuana" hefyd wedi cwmpasu'r ieithoedd Sotho Gogleddol a Deheuol.
Gwnaed y gwaith mawr cyntaf ar Tswana gan y cenhadwr Prydeinig, Robert Moffat, yr hwn hefyd oedd wedi byw yn mysg y Batlhaping, ac a gyhoeddodd Bechuana Spelling Book ac A Bechuana Catechism yn 1826. Yn y blynyddoedd dilynol, cyhoeddodd amryw lyfrau ereill o'r Bibl, ac yn 1857, llwyddodd i gyhoeddi cyfieithiad cyflawn o'r Beibl.[3]
Cyhoeddwyd gramadeg cyntaf Tswana ym 1833 gan y cenhadwr, James Archbell, er ei fod wedi'i fodelu ar ramadeg Xhosa. Cyhoeddwyd gramadeg cyntaf Tswana a oedd yn ei hystyried yn iaith ar wahân i Xhosa (ond nid yn iaith ar wahân i'r ieithoedd Sotho Gogleddol a Deheuol o hyd) gan y cenhadwr Ffrengig, E. Casalis yn 1841. Newidiodd ei feddwl yn ddiweddarach, a mewn cyhoeddiad o 1882, nododd fod ieithoedd Sotho Gogleddol a Deheuol yn wahanol i Tswana.[4]
Roedd Sol Plaatje, dealluswr ac ieithydd o Dde Affrica, yn un o'r awduron cyntaf i ysgrifennu'n helaeth yn ac am yr iaith Tswana.[3]
Orgraff
golyguMae'r llythrennau yn cael eu ynganu fwy neu lai fel Cymraeg, ac eithrio g , sy'n swnio fel ch yn bach a j, sy'n cael ei ynganu yr un peth â'r Saesneg. Mae'r llythyren š yn cael ei ynganu fel sh . Mae'r seiniau clic c , q ac x a'r llythrennau v a z yn digwydd mewn geiriau estron yn unig, fel y rhai o De Ndebele neu isiZulu. Mae gan yr iaith hefyd sŵn sy'n debyg i'r 'll' Gymraeg ond ag 't' cyn yr ll, gelwir yn Affricate ochrol alfeolaidd di-lais (Voiceless alveolar lateral affricate).
Geirfa elfennol
golyguEnghreifftiau o eiriau a dywediadau:
Cymraeg | Tswana |
---|---|
Croeso | Kamogelo (enw) / Amogela (berf) |
Diolch | Ke itumetse (ffurfiol) Ke a leboga (anffurfiol) |
Shwmae / helo | Dumela (unigol) / Dumelang (lluosog) |
Hwyl fawr | Sala sentle (cadwch mewn cyswllt) / Tsamaya sentle (ewch yn dda) |
Plîs | Tswee tswee |
Dim ysmygu | Ga go tsubiwe |
Dim mynediad | Ga go tsenwe |
Gwyliwch rhag y grisiau | Tlhokomela fa o gatang teng |
Gwyliwch! | Ela tlhoko |
Penblwydd Hapus i chi | Masego a Letsatsi la Matsalo |
Cyfarchion y tymor | Ditumediso tsa setlha |
Nadolig Llawen | Masego a Keresemose |
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda | Masego a Keresemose le Boitumelo mo Ngwageng o Mošwa |
Rwy'n dod o Gymru | Ke tswa kwa Wales |
Dolenni
golygu- Peace Corps Botswana: An Introduction to the Setswana Language
- Setswana: Grammar Handbook. Peace Corps Language Handbook Series
- "E-books for children with narration in Setswana". Unite for Literacy library. Cyrchwyd 2014-06-21.
- "The languages of South Africa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2011. Cyrchwyd 21 Mehefin 2014.
- About Setswana
- Ke ya o rata ("Dw i'n mynd i dy garu di") cân pop gan Thabo Kane
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Neidio i: 1.0 1.1 "Setswana". Ethnologue. Cyrchwyd 2022-04-22.
- ↑ Makalela, Leketi (2009). "Harmonizing South African Sotho Language Varieties: Lessons From Reading Proficiency Assessment" (yn en). International Multilingual Research Journal 3 (2): 120–133. doi:10.1080/19313150903073489.
- ↑ Neidio i: 3.0 3.1 Janson & Tsonope 1991, tt. 36–37
- ↑ Janson & Tsonope 1991, tt. 38–39