Slefren fôr
Slefrod môr Amrediad amseryddol: 505–0 Miliwn o fl. CP Cambriaidd – Holosen | |
---|---|
Olindias formosa, yn Osaka, Japan | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Cnidaria |
Is-ffylwm: | Medusozoa Petersen, 1979 |
Dosbarthiadau | |
Mae'r slefren fôr (neu ar lafar gwlad: cont fôr) yn perthyn i'r ffylwm Cnidariad ac yn greaduriaid di-asgwrn cefn. Maent yn nofio drwy symud eu siap tebyg i gloch neu ymbarel o jeli. Mae ganddynt tentacles y defnyddiant i frathu neu bigo eu hysglyfaeth.
Maent i'w canfod ym mhob cefnfor - o wyneb y dŵr i'r dyfnder eithaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n gallu byw mewn dŵr croyw, fodd bynnag. Maent wedi nofio'r moroedd ers o leiaf 500 miliwn o flynyddoedd,[1] ac o bosib 700 miliwn o flynyddoedd neu ragor, sy'n eu gwneud yn un o'r mathau hynaf o anifail aml-organ ar wyneb y Ddaear.
Defnyddir y gair jellyfish yn y Saesneg ers 1796,[2] ond mae'r gair Cymraeg yn llawer hŷn.
Terminoleg
golyguCysylltwyd y gair "Medusa" (Hen Roeg: Μέδουσα) gyda'r slefren fôr yn 1752 gan Linnaeus oherwydd tebygrwydd y dduwies Groegaidd o'r un enw, a'i gwallt nadreddog.
Mathau o slefren yng Nghymru
golygu-
Slefren loerol
Aurelia aurita -
Slefren mwng llew
Cyanea capillata -
Sglefren fôr baril
Rhizostoma pulmo
Sylwadau unigolion
golyguWelsoch chi'r sglefrod môr ar y traethau eleni, ar draethau fel Harlech (7 Gorffennaf 2013, Twm Elias), a Dinas Dinlle (17 Gorffennaf, DB). Slefrod lloerol Aurelia aurita oedd y rhan fwyaf, ond ambell i slefren mwng llew Cyanea capillata hefyd (llun). Cafwyd rhywbeth tebyg ddiwedd Mehefin 2005: "Mae pla o sglefrod môr ym Mae Tremadog. Arwydd o dywydd terfysg medda' nhw".[www.cimwch.com].[3]
Sglefren Harri Morgan yw enw Sion Roberts ar y slefren mwng llew. Meddai Sion: "Fe'i gwelir yn aml mewn heigiau yn yr hâf. Mae'r tentaclau yn hir iawn, ac mae'r pigiad sydd ganddi yn boenus. Mae'n ymddangos mewn stori Sherlock Holmes o'r enw 'The Adventure Of The Lion's Mane' ".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Public Library of Science. "Fossil Record Reveals Elusive Jellyfish More Than 500 Million Years Old." ScienceDaily, 2 Tach. 2007. Web. 16 Ebrill 2011.[1]
- ↑ Online Etymology Dictionary
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 66