Sgwrs:Deep Cut (drama)
Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Adda'r Yw ym mhwnc categorïau dramâu Cymreig yn Saesneg
categorïau dramâu Cymreig yn Saesneg
golygugyfeillion, @Llywelyn2000 @Llygadebrill - cymorth a chyngor os gwelwch yn dda! Mae angen trefn ar y categorïau amrywiol ar gyfer dramâu Cymreig yn yr iaith Saesneg. Dwi wedi cael rhyw fath o drefn ar y dramâu Cymraeg ac wedi llwyddo i'w categorïo mewn casgliadau taclus o dan Theatr Gymraeg 1980au, 1990au a.y.y.b Hoffwn wneud yr un modd gyda'r dramâu Saesneg, drwy greu Categori Theatr Gymreig 1980au, 1990au a.y.y.b, OND, dwi'n gweld mai pair y categori Cymraeg ydi Dramâu Cymraeg, felly beth yw'r pair craidd ar gyfer dramâu Cymreig? Mae'n ddryslyd imi ar y funud, heb wybod yn iawn pa rai ydi'r gorau / mwyaf defnyddiol. Sut ma cysylltu'r pair canolog i'r Categori? Diolch. Paulpesda (sgwrs) 14:35, 1 Hydref 2024 (UTC)
- Mae @Craigysgafn, Adda'r Yw: yn giamstars ar y categoriau, ond dwi'n gwybod eu bod ill dau yn ddiawch o brysur efo cenedligrwydd / gwledydd ar hyn o bryd. Yn gyffredinol: mae cadw'r drefn fel sydd ar en-wiki'n golygu fod popeth yn iawn ar Wicidata. Dylai pob cateori gysylltu gyda Wicidata, er mwyn i ni gael y gwybodlenni i weithio ac er mwyn holi'r db i greu graffiau a ballu. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:28, 2 Hydref 2024 (UTC)
- Mae angen tipyn o feddwl ar dy gwestiwn, a bydd angen i mi edrych ar batrwm mawr yr erthyglau gwych rwyt ti wedi'u cyfrannu yn ogystal â chyd-destun ehangach yr holl erthyglau drama. Ond am y tro, dyma gwpl o sylwadau sydyn ar y categorïau rwyt ti wedi'u defnyddio ar gyfer yr erthygl hon, sef
- Dramâu gan ddramodwyr o Gymru
- Dramâu 2008
- Theatr Gymreig 2000au
- Dramâu Saesneg gan ddramodwyr o Gymru
- Byddwn i'n defnyddio y categorïau canlynol:
- Dramâu 2008
- Theatr y 2000au yng Nghymru
- Dramâu Saesneg gan ddramodwyr o Gymru
- (1) Os oes gennym ni " Dramâu Saesneg gan ddramodwyr o Gymru" does dim angen "Dramâu gan ddramodwyr o Gymru" mewn gwirionedd, gan fod y cyntaf yn is-gategori o'r ail.
- (2) Mae "Theatr yng Nghymru" yn gliriach na "Theatr Cymreig", a dwi'n credu bod "Theatr y 2000au" yn gyson â’r hyn a wnawn mewn mannau eraill. Ond efallai y gallai @Adda'r Yw: roi ei farn ar hyn.
- Cytuno gyda Craigysgafn, byddai "Theatr y 2000au", "Theatr yn ..." ac ati yn gyson â'r drefn sydd ohoni. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:27, 2 Hydref 2024 (UTC)