Deep Cut (drama)
Drama a gomisiynwyd ac a lwyfannwyd gan Sherman Cymru [1] yw Deep Cut ac a ysgrifennwyd gan Philip Ralph. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman Caerdydd, cyn ei theithio i Gŵyl Ymylol Caeredin yn 2008 ac enillodd Wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol yr un flwyddyn [2] yn ogystal â gwobrau'r Actor Gorau i (Ciaran McIntyre) a'r Actores Orau (Rhian Blythe) gyda gwobr pellach gan The Stage am Ragoriaeth mewn Actio. [3]
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 2008 |
Awdur | Philip Ralph |
Cyhoeddwr | Oberon Drama |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Gorffennaf 2008 |
Cysylltir gyda | Theatr y Sherman |
Lleoliad y perff. 1af | Caeredin |
Dyddiad y perff. 1af | 2008 |
Lleoliad y gwaith | Princess Royal Barracks, Deepcut |
Gwerthwyd hawliau'r ddrama yn 2009 i Revolution Films am gyfnod amhenodol. [4]
Cefndir
golyguMae'r ddrama yn ymdrin â marwolaeth pedwar milwr o sgil effeithiau ergydion gwn, tra'n hyfforddi ar gyfer y Fyddin yn Marics Deepcut yn Surrey (1995–2002). [5]
Un o'r pedwar milwr ifanc a fu farw oedd y Preifat Cheryl James, 18 oed o Langollen. Roedd ei rhieni am gael atebion gan y bobol oedd yn gyfrifol am ofal eu merch.
"Ond sut mae dechrau galaru pan nad oes eglurhad call gan neb? Beth fyddai'n eich hysgogi i ddal ymlaen i ofyn y cwestiynau anodd ond penderfynol? Wedi'i seilio ar ddeunydd crai a thystiolaeth dirdynol y rhai oedd yno, mae'r ddrama yn adrodd brwydr un teulu drwy amser erchyll".[6]
Trosglwyddwyd y ddrama i'r Tricycle Theatre am rediad o bedair wythnos yn 2009. [7]
Cymeriadau
golygu- Des James (tad Cheryl)
- Doreen James (mam Cheryl)
- Brian Cathcart
- Lieutenant
- Colonel Nigel Josling
- Nicholas Blake QC
- Frank Swann
- Bruce George MP
- Jonsey - milwr
Cynyrchiadau nodedig
golygu2000au
golyguLlwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2008 yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Cyfarwyddwr Mick Gordon; cynllunydd Igor Vasiljev; goleuo Andrew Jones; sain Mike Furness; cyfarwyddwr cynorthwyol Juliane Von Sivers; cast:
- Des James - Ciaran McIntyre
- Doreen James - Rhian Morgan
- Brian Cathcart - Robert Bowman
- Lieutenant - Robert Bowman
- Colonel Nigel Josling - Robert Bowman
- Nicholas Blake QC - Simon Molloy
- Frank Swann - Robert Blythe
- Bruce George MP - Robert Blythe
- Jonsey - Rhian Blythe
Ar ôl y cyfnod yng Ngaerdydd, bu'r cynhyrchiad ar daith gan ymweld â Theatr Traverse, Caeredin; Clwyd Theatr Cymru; Theatr y Sherman, Caerdydd a Theatr y Tricycle yn Llundain.
Un fu'n gweld y cynhyrchiad yn Llundain oedd adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths a nododd bod y cynhyrchiad "...yn ddirdynnol, yn emosiynol ac yn hynod o bwerus - un o’r darnau theatr fwya' pwerus imi’i weld ers tro"[8]
"...Wrth i’r cymeriad ‘Des James’ (Ciaran McIntyre) ddechrau hel atgofion am ei ferch ‘Cheryl James’ a fu farw yng ngwersyll milwrol Deepcut, Surrey ym mis Tachwedd 1995 [...] daeth ‘Doreen James’ (Rhian Morgan) i’r llwyfan [ac fe gyflwynodd] ei wraig i’r gynulleidfa, fel cyd-actor yn eu stori. Buan iawn, cawsom ein cyflwyno i gyfaill Cheryl, y cymeriad lliwgar ‘Jonesy’ (Rhian Blythe) o’r Rhyl, ac acen Ogleddol angerddol Rhian yn ategu hynny i’r dim. I’r pair storïol, cyflwynwyd inni’r newyddiadurwr ‘Brian Cathcart’ (Robert Bowman) oedd hefyd yn portreadu’r cymeriad ‘Lieutenant Colonel Nigel Josling’. ‘Nicholas Blake QC’ (Simon Molloy) a ‘Frank Swann’ (Robert Blythe) oedd hefyd yn dyblu fel yr aelod seneddol ‘Bruce George’. Roedd cyfan fel llys barn, gyda phawb yn cyflwyno’i bwt er mwyn rhoi inni ddarlun cyflawn o’r hyn a ddigwyddodd yn y gwersyll erchyll hwn, gan geisio egluro sut y bu farw Cheryl, er gwaetha’r dyfarniad swyddogol ei bod hi wedi cyflawni hunanladdiad."[8]
"Cryfder y gwaith ydi’r arddull llys-barn slic, sy’n plymio’r drwy’r pentyrrau o bapurau a thystiolaethau'r swyddogion a’r cyfeillion. Roedd portread Rhian Morgan o’r fam drallodus yn hynod o effeithiol ac emosiynol, a Rhian yn amlwg, unwaith yn rhagor, wedi mynd ymhell o dan groen y cymeriad, gan roi inni bortread cofiadwy am sawl rheswm. Felly hefyd gyda Ciaran McIntyre fel y tad rhwystredig, sy’n cynnal rhan helaeth o’r stori, drwy ei atgofion am gannwyll ei lygad. Clod hefyd i Rhian Blythe, a enillodd Wobr actores orau’r ŵyl ymylol yng Nghaeredin am ei phortread o’r ‘Jonesy’ lliwgar"[8].
Ail-deithwyd y ddrama yn Hydref 2009 gyda'r cast canlynol :
- Des James - Pip Donaghy
- Doreen James - Janice Cramer
- Brian Cathcart - Derek Hutchinson
- Lieutenant - Derek Hutchinson
- Colonel Nigel Josling - Derek Hutchinson
- Nicholas Blake QC - Simon Molloy
- Frank Swann - Robert Willox
- Bruce George MP - Robert Willox
- Jonsey - Amy Morgan
Ymwelwyd â Theatr y Sherman; The Lowry, Manceinion a'r Oxford Playhouse; Theatr Frenhinol Caerfaddon; Canolfan Gelf Warwicks, Coventry; Theatr Frenhinol Caerwynt; The Brewhouse, Taunton a West Yorkshire Playhouse.
2010au
golyguCafodd y ddrama ei darlledu ar BBC Radio 4 yn 2011.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brown, Angie (2008-08-07). "UK | Scotland | Edinburgh, East and Fife | Parents inspired by Deepcut play". BBC News. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ "AIUK: Scotland: 'Deep Cut' wins 2008 Freedom of Expression Award". Amnesty.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-03. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ "News - Wales News - Deepcut play wins more awards". WalesOnline. 2008-08-28. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ "Sherman Cymru's DEEP CUT Comes To The Tricycle Theater (UK / West End)". Westend.broadwayworld.com. 2009-04-04. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ Spencer, Charles (2009-03-17). "Deep Cut at the Tricycle Theatre - review". Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-04. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ "Gwefan Amazon".
- ↑ Nightingale, Benedict (March 13, 2009). "Deep Cut at the Tricycle Theatre, London". The Times. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-15. Cyrchwyd 2024-10-01.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-01.