Sgwrs:Eileen Beasley

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Dyfrig

Tybed a ddylid newid enw'r erthygl/ei symud fel ei bod teitl yr erthygl cyfeirio at Eileen a Trefor Beasley yn hytrach na dim ond Eileen Beasley? Jac y jwc (sgwrs) 22:25, 12 Awst 2012 (UTC)Ateb

Rydw i wedi bod yn anghysurus gyda'r teitl fel ag y mae hefyd. Roedd yn bartneriaeth ac yn amlwg roe4dd Trefor yn gwneud ei ran hefyd. Dyna oedd y teitl cyn i mi ychwanegu ato Dyfrig (sgwrs) 22:38, 12 Awst 2012 (UTC)Ateb
Dw i'n deall eich rhesymeg, ond baswn i'n cynnig rhanu'n ddwy erthygl, gan greu un ar gyfer Trefor hefyd, a gallwn ailadrodd llawer o'r cynnwys, a dim ond newid rhai manylion (dyddiad geni, dyddiad marw, yn brioad a...). --Ben Bore (sgwrs) 20:04, 13 Awst 2012 (UTC)Ateb
Efallai fod dwy erthygl yn gwneud synwyr Dyfrig (sgwrs) 20:25, 13 Awst 2012 (UTC)Ateb
Iawn, byddwn i'n hapus gyda hynny, a gobeithio bydd hynny hefyd yn ysgogiad i bobl ychwanegu ychydig mwy amdanynt fel unigolion yn ddiweddarach Jac y jwc (sgwrs) 23:54, 14 Awst 2012 (UTC)Ateb
Diolch. Dyfrig (sgwrs) 00:36, 15 Awst 2012 (UTC)Ateb
Gan i'r ddau wrthod talu'r dreth, a gan eu bônt yn cael eu hadnabod gan Dafydd Iwan fel "Teulu'r Beasleys" beth am uno'r ddau berson mewn un erthygl i'r teulu? Ac arallgyfeirio'r enwau i'r erthygl hon? Os nad yw hyn yn welliant yna dw i'n cytuno gyda dwy erthygl. Be sy'n bwysig yn y diwedd ydy eu bodd nhw'n cael eu haeddiant! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:15, 15 Awst 2012 (UTC)Ateb
"Teulu'r Beasleys" Gwell fyth yn fy marn i er fy mod yn barod i dderbyn dwy erthygl os oes yna deimladau cryf dros hynny Dyfrig (sgwrs) 14:59, 15 Awst 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Eileen Beasley".