Sgwrs:Gwyddbwyll
Termau
golyguEr bod "Chess" yn cael ei gyfieithu fel "Gwyddbwyll" yn Gymraeg, mae'r Gwyddbwyll hanesyddol go iawn yn gem sydd yn hollol wahanol i Chess. Bydd rhaid ehangu'r erthygl i esbonio hynny a chynnwys manylion am y Gwyddbwyll go iawn. Sanddef 21:51, 4 Chwefror 2007 (UTC)
- Mae'r erthygl yn crybwyll y ffaith fod ystyr gwreiddiol y gair yn wahanol (ond mae gwyddbwyll yn y Gymraeg fodern yn gyfystyr â 'chess' dwi'n meddwl). Fe fasai'n ddiddorol iawn cael mwy o fanylion o'r hen gem(au) - oes gen ti wybodaeth amdanynt? --Llygad Ebrill 13:49, 5 Chwefror 2007 (UTC)
- Dim ond yr hyn sydd ar gael ar Google. Roedd un chwaraewr yn cymryd rhan y brenin a'i garfan oedd yn sefyll yng nghanol bwrdd crwn. Roedd y chwaraewr arall yn cymryd rhan gelynion y brenin oedd yn sefyll ar gyrion y bwrdd. Dw'i'n credu bod y gem yn cael ei alw "Celtic Chess" yn Saesneg. Sanddef 14:04, 5 Chwefror 2007 (UTC)
- Wedi adio gwyddbwyll Celtaidd Sanddef 21:42, 7 Chwefror 2007 (UTC)
- Diddorol, ond wyt ti'n siwr am hyn? Mae 'na gyfeiriadau at wyddbwyll yn llenyddiaeth y Celtiaid, wrth gwrs, ac maen' nhw'n cyfeirio at y gêm Geltaidd yn hytrach na'r wyddbwyll fodern, ond hyd y gwn i does dim sôn yn y llawysgrifau am y rheolau a.y.y.b. (yn sicr ddim yn y llawysgrifau Cymraeg). Roedd y wyddbwyll Indiaidd hynafol yn bur wahanol i'r hyn sy gennym heddiw, o ran hynny. Oes gen ti ffynhonnell ddibynadwy? Anatiomaros 22:19, 7 Chwefror 2007 (UTC)
- Nag oes. Mae "Celtic Chess" heddiw yn dilyn yr un rheolau ag yn yr erthygl yma. Newydd edrych ar "Fidchell" ar Wikipedia. Mae'n rhoi gwybodaeth hanesyddol ar y mater. Sanddef 23:42, 7 Chwefror 2007 (UTC)
Tacluso Gwyddbwyll
golyguRwy wedi rhoi deunydd ar sut i symud darnau - diolch yn fawr i bwy bynnag sy'n ei dacluso. Eisiau rhoi peth gwybodaeth am dactegau elfennol. Ble ddyliwn i roi hwn? Owen 19:32, 10 Chwefror 2007
- Gallwch chi ei rhoi ar y dudalen hon mewn adran ar ben ei hun, neu os oes llawer o wybodaeth gennych gallwch creu tudalen newydd. Mae gan y Wicipediau mwy erthyglau gwahanol ar tacteg gwyddbwyll (tactegau byr-dymor) a strategaeth gwyddbwyll (tactegau hir-dymor). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:40, 10 Chwefror 2007 (UTC)
- Diolch am hyn. Rwy am greu esboniad o sut i ddefnyddio darnau sydd ddim ar yr un Saesneg i geisio esbonio cryfder a gwendid bob darn ee. defnyddio castell ar y dudalen Castell, a defnyddio marchog ar y dudalen marchog, a cheisio datblygu peth o'r Tactegau Gwyddbwyll drwy gyfieithu o wicipedia Saesneg (yn y tymor hir). Owen 11:51, 11 Chwefror 2007
Diagramau safonol
golyguAll rywun helpu fi i gynnwys y diagram gwyddbwyll safonol sydd fan hyn http://commons.wikimedia.org/wiki/Standard_chess_diagram yn lle'r un sydd ar y dudalen - wedi trio a methu. Diolch. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Owen (sgwrs • cyfraniadau) 11:45, 19 Ebrill 2009
- Ddim yn siwr iawn sut i gael delweddau o'r Comins. Yn y cyfamser, beth am gopio'r ddelwedd ar dy gyfrifiadu'r a'i uwchlwytho yma? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Ben Bore (sgwrs • cyfraniadau) 12:02, 19 Ebrill 2009
- Wedi rhoi cynnig arni: Fel hyn mae'n edrych Mae'n siwr bod angen codio rhywbeth i Wicipedia Cymraeg cyn ei fod yn deall y cod yma? Neu efallai mod i'n gwneud rhywbeth amlwg o'i le? Mi roia i gwestiwn ar y dudalen ble ges i'r cod.
Standard diagram
golygu- Owen 12:40, 19 Ebrill 2009
Is this two articles?
golyguShould we separate this out into two articles - Gwyddbwyll and Gwyddbwyll Celtaidd - as suggested by SunCreator? Deb 17:39, 8 Tachwedd 2009 (UTC)
- I think your right we need two if not three! Take a look at the Tawlbwrdd bit I've just added, and compare to the info on Wiki-en: whaw! If only I had time! I'll draw Sanddef's attention to the update, maybe he knows more about this. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:45, 15 Mai 2012 (UTC)
- I'd say yes to separating chess from the Tafl games/Tawlbwrdd, but keeping a mention in the etymology of gwyddbwyll that the name was originally associated with Tafl. I'd ditch the term Celtic Chess altogether. simondyda (sgwrs) 07:40, 19 Mai 2012 (UTC)