Sgwrs:Rhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn Lloegr

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Enwau'r siroedd etc....

Os nad oes gwrthwynebiad, mi symuda i'r erthygl hon i'r parth cyhoeddus. Eto i gyd, dw i'n cofio gweld erthygl debyg yn rhywle! Y byd mawr efallai. Llywelyn2000 07:01, 28 Awst 2011 (UTC)Ateb

Rhestr diddorol. Rydw i'n meddwl mae "L" mawr yn "Lloegr"! (Or should it be LLoegr if the "LL" is one letter? I guess the answer is no - just like places with Llan rather than LLan - and Ffestiniog I guess - but I don't quite get the logic here. If a capital ll is Ll then in block capitals would it be LlOEGR?) Oxford 12:59, 10 Medi 2011 (UTC)Ateb
Eto i gyd, dw i'n cofio gweld erthygl debyg yn rhywle!
Erthygl 'Welsh exonyms' ar Wikipedia falle? Beth ydy'r rhesymeg dros restru llefydd ble nad oes enw Cymraeg iddyng (e.e. Southamplton)? Hefyd, hwn yn restr defnyddiol, ond ddim yn siwr ble i'w gynnwys yma.--Ben Bore 19:41, 10 Medi 2011 (UTC)Ateb
Dyna ddiddorol, ond mae'n amlwg mai cyffwrdd a'r pwnc mae nhw yn erthygl En Exonyms. Dw i'n derbyn dy bwynt am yr enwau (Saesneg) heb gyfieithiad; ceisio hybu'r darllenydd i fynd ati i ychwanegu neu i'w gwbwlhau oeddwn i! Mi wna i ddileu'r enwau uniaith hynny, rwan. Diolch Ben. Llywelyn2000 05:10, 25 Medi 2011 (UTC)Ateb

Enw golygu

Pam "Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr"? Ble mae'r llefydd "cyntaf" er mwyn cael gwahaniaethu? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:37, 25 Medi 2011 (UTC)Ateb

Ha ha! Da iawn. 'Llefydd eraill ar wahan i drefi', oedd y bwriad; ond fel y crybwylli, mae braidd yn niwlog.' Nid est trefi sydd yn y rhestr. Unrhyw syniadau erill? Llywelyn2000 05:04, 26 Medi 2011 (UTC)Ateb
Awctiwli, wedi darllen y teitl eto, mae'n neud sens - darllennais "...ar drefi eraill" yn hytrach na ".. ar drefi a llefydd eraill." Haha. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:50, 26 Medi 2011 (UTC)Ateb

Ymhelaethu golygu

A ydy'r wybodaeth yn y dair erthygl isod gennym yma (neu mewn man arall) ar Wici?

  1. Welsh Placenames
  2. w:en:Welsh place names in other countries
  3. w:en:Welsh exonyms

Beth am fynd drwyddyn nhw, gan rhoi tic ar eu hol ar ol gorffen y gwaith? Gallwn hefyd ychwanegu at y rhestr fer uchod, er mwyn cadw cownt o'r ffynonellau rydym wedi'u harchwilio. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:11, 26 Mawrth 2013 (UTC)Ateb

Dw i ddim yn meddwl bod yna rai cyfatebol. Dw i ddim yn gweld lot o werth copio'r trydedd un - mae o o fwy o ddidordeb i'r di-gymraeg/dysgwyr (mond chydig wythnosau'n ol defnyddiais i addasiad ohono ar gyfer gwers!). --Ben Bore (sgwrs) 11:49, 26 Mawrth 2013 (UTC)Ateb

Enwau'r siroedd etc.... golygu

Dwi wedi cywiro enwau'r siroedd. Caint ydy Caint, nid "Swydd Caint" neu "Swydd Gaergaint", a Dyfnaint yw Dyfnaint, nid "Swydd Dyfnaint", er enghraifft. Dwi'n amheus am ambell un o'r enwau lleoedd a nodir hefyd. Mae rhai ohonynt yn enwau hanesyddol yn unig a ddylem wneud hynny'n glir yn y rhestr. Hefyd, sylwaf mai 'Rheged neu Cymbria' a roddir am Cumbria - go brin byddai neb heddiw yn sôn am "fynd i fyny i Reged dros y Pasg i ymweld ag Ardal y Llynnoedd"! Anatiomaros (sgwrs) 22:39, 17 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Mae'r tabl yn wych! Bendigedig.Llywelyn2000 (sgwrs) 05:57, 18 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Yndi, mae'n rhestr wych yn sicr, ond mae angen nodi enwau hynafiaethol/hanesyddol neu fe allai fod yn gamarweiniol. Dwi'n meddwl bod Rheged am Cumbria yn enghraifft dda ond mae 'na eraill hefyd. Dwi'n cynnig rhoi rhywbeth fel (H) ar ôl enwau sy ddim yn cael eu harfer heddiw (neu eu rhoi mewn italics) gyda nodyn yn esbonio hynny. Anatiomaros (sgwrs) 21:54, 18 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Y defnydd o'r dudalen gan wefan arall golygu

Y peth gwych am Wicipedia ydy fod hawl gan eraill i'w ddefnyddio o fewn eu gwefanau. Mae'r erthgl hon, er enghraifft, yn cael ei mewnforio yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:01, 18 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Rhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn Lloegr".