Shwmae, Ciwcymbr! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,475 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 13:27, 30 Rhagfyr 2015 (UTC)Ateb

Mor hoff o'r erthygl [The Theory of Everything (ffilm 2014)]] gen ti, mi ruthrais i greu Gwybodlen, heb ddisgwyl awr wedi dy olygiad dwaetha! Sori am hyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:00, 1 Ionawr 2016 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig

golygu

Helo 'na Ciwcymbr. A hoffech chi gymryd rhan yng nghystadeluaeth Deffro'r Ddraig, ar gyfer creu a gwella erthyglau am Gymru, ym mis Ebrill? Mae cyfle i ennill tocynnau rhodd gwerth hyd at £200 oddi wrth Amazon. Mae llwyth o erthyglau posib i'w creu o'r newydd ar y rhestr o erthyglau hanfodol. Gallwch gofrestru fan hyn. Ham II (sgwrs) 15:49, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

delweddau Comin a Wici

golygu

Haia! Mae gan wledydd gwahanol ddeddfau gwahanol o ran hawlfraint. Yng ngwledydd Prydain cawn uwchlwytho a defnyddio delweddau o gloriau llyfrau dan drwydded a elwir gennym yn 'Ddefnydd Teg'. Ond nid yw pob gwlad felly! Oherwydd hynny, ni cheir uwchlwytho cloriau llyfrau i Comin (sy'n dir cyffredin i ffeiliau a ellir eu defnyddio ym mhob gwlad dan haul). Mi wneith rhywun dynnu'r llun o Comin, oherwydd hyn, ond paid a phoeni - dw i newydd uwchlwyth fo ar Wicipedia ni (botwm ar y chwith yn y Blwch Offer. Wedyn dewis 'Defnydd Teg: llyfr'. Moelys moes mwy rhen gyfaill! Ymlaen a gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:39, 2 Ebrill 2018 (UTC)Ateb