Shwmae, OsianLlwyd1! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,412 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Deb 16:19, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Croeso! golygu

Croeso i ti Osian! Mae'r erthyglau yma'n datblygu'n dda gen ti. Wnei di gymryd cip ar Sgwrs:Caerdydd Heol Y Frenhines os gweli di'n dda. Dw i'n awgrymu Heol y Frenhines, Caerdydd - os ydy fy nghof i'n iawn; ond dw i'n siwr mai ti sy'n gywir! Llywelyn2000 20:04, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Pethau a ddileuwyd golygu

Sut mae, OsianLlwyd1, a chroeso i'r Wicipedia a diolch am eich cyfraniadau diweddar. Gair o esboniad am ddau ddileuad. Dileuwyd 'Chūgoku region' am fod yr erthygl 'Rhanbarth Chūgoku' wedi ei chreu gennych. Gyda llaw, mae symud erthygl yn well na chreu un newydd mewn achosion fel hyn. Dileuais 'Mochamed' am fod neb yn debyg o sgwennu hynny - sef yr ynganiad - yn lle ffurf fel 'Muhammad' neu 'Mohamed', boed hynny mewn erthygl neu er mwyn chwilio am yr erthygl. Os ydych angen cymorth unrhyw bryd gadewch neges i mi neu yn y Caffi. Diolch i chi eto, Anatiomaros 20:41, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

ON Gyda llaw, mae gennym y categori:Rhanbarthau Japan (dim byd llawer yno ar hyn o bryd!). Anatiomaros 20:54, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Croeso golygu

Newydd sylwi ar dy neges ar dudalen sgwrs Anatiomaros. Os oes gyda ti gwestiwn cyffredinol, Y Caffi yw'r lle gorau i holi. Dw i'n siwr i mi ddarllen fy flog am dy siwrnai i Japan. defnyddiwry xxglennxx a Paul-L yw'r arbennigwyr infoboxes, felly os osoda di neges yn y Caffi, byddant ynsiwr o'u gweld. Ychydig iawn o dudalennau tutorials sydd gyda ni yma a'i gymharu ar wiki Saesneg hyd yma.--Ben Bore 14:50, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Blwch llywio ayyb golygu

Helo Osian, sut mae? Dwi newydd weld dy sylwad ar sgwrs Anatiomaros gan ofyn am gymorth ar sut i greu blychau llywio (navboxes/navigation boxes yn Saesneg). Mae'r nodyn ar gael yma (gyda llaw, does dim "Templed/i" neu "Template/s" yma fel y ceir ar y Wicipedia Saesneg, dim ond Nodyn/Nodiadau. Mae'r blwch llywio yn ddigon hawdd i'w ddefnyddio - jyst cer ato, a chopïo a phastio'r cod i mewn i'r erthygl, a llenwi'r manylion. Cer i Nodyn:Gwyliau Celtaidd am enghraifft syml. Gobeithio bod hwn o gymorth iti. Mae'r gweinyddwyr o gwmpas (gweinyddwr dwi hefyd), felly hola os wyt ti am gymorth ychwanegol :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:04, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Categoriau golygu

Dwi wedi creu Categori:Kyūshū ond mae'n hwyr braidd i fynd ati i wneud y lleill heno (dwi wedi blino ar ôl diwrnod prysur hefyd). Gyda lwc byddaf yn creu'r lleill dros y dyddiau nesaf. Anatiomaros 23:22, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Ewrotrashserch golygu

(Sorri am y teitl od, ni allwn feddwl am unrhybe gwell!) Heia Osian, diolch am eich neges, mae'n wastod neis i glywed gan ffan hoyw Eurovision arall a ti'n gywir - rhaid fod golygu Wicipedia yn denu math arbennig o berson! Eniwes, byddai'n neis cael mwy help gyda'r erthyglau Eurovision (os nid dych chi'n rhy brysur gyda erthyglau Siapan wrth gwrs) Gwaith fi'n randym, stwff fel Eurovision, Twilight, cantorion, caneuon, ayb. Wnes i stwff trici fyd fel infobox Eurovision, senglau, ffilmyddiaeth felly oes unrhyw cwestiynau imi, dw i'n hapus i helpu :)

Diolch 'to, swsws EwroTrashFreak 20:57, 5 Awst 2010 (UTC)Ateb

Dwi newydd weld dy erthyglau ar Eurovision 2009/10 - gwych! Hynod o lliwgar a diddorol...bron megis Eurovision ei hun. Nes i newid chydig o erthygl 2010 i fod yn y gorffennol yn hytrach na'r dyfodol.Osian Llwyd 22:41, 5 Awst 2010 (UTC)Ateb

Delwedd di-iaith golygu

Gofynaist [yma] "Beth fyddai'n dda hefyd fyddai gallu cyfieithu y map amryliw o daleithiau Japan yn yr erthygl Taleithiau Japan a Japan." Dw i wedi ailwampio'r ddelwedd [yma] fel ei fod yn ddi-iaith; gelli dithau wedyn ychwanegu dy gyfieithiad o'r teitl oddi tano. Os mai gwell gen ti fyddai ychwanegu'r teitl Cymraeg ar dop y ddelwedd (fel yr ieithoedd eraill) yna mi wna i hynny, jest dwed. Llywelyn2000 05:47, 15 Awst 2010 (UTC)Ateb

Diolch yn fawr am hyn - gwnaiff delwedd di-iaith y tro dwi'n siwr.Osian Llwyd 06:10, 16 Awst 2010 (UTC)Ateb