Sgwrs Wicipedia:Ar y dydd hwn

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Meini prawf ac awgrymiadau

Dwi wedi creu y dudalen yma er mwyn ychwanegu rhywbeth defnyddiol/diddorol i'r dudalen flaen, fel yn y fersiwn Saesneg. Mae'n well na beth sydd gennym ni ar y funud, beth bynnag... ;-) Os ydych chi'n dod ar draws cofnod o ddigwyddiad sy'n berthnasol i ddiwylliant neu hanes Cymru, cofnodwch hi ar y dudalen prosiect os gwelwch yn dda! Diolch. Gareth 23:20, 18 Ionawr 2006 (UTC)Ateb

Datblygu 'Ar y dydd hwn' golygu

Syniad ardderchog gan Defnyddiwr:Ham II ydy ychwanegu lluniau. Dyna ychwanegiad da fyddai llun a brawddeg 'Ar y dydd hwn...' - ar yr Hafan. Byddai'n cael ei agor gan filoedd o athrawon! Mae na ffresni hgefyd i'r syniad o gael rhywbeth dyddiol, gwahanol ar yr Hafan. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:02, 31 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Hafan golygu

Yn Abertawe trafododd Defnyddiwr:Ham II a minnau sut i wella'r Hafan, gan ddod ag elfen 'byw' a 'chyfoes' iddo. Carwn awgrymu roi 'Ar y dydd hwn...' ar Hafan, dros fis Mawrth ac Ebrill, fel project peilot. Yna'i dynnu i lawr, gwerthuso a dod i benderfyniad - ymlaen neu ei hepgor. Mae Defnyddiwr:Ham II wedi dod ag ail elfen i'r dudalen hon - delweddau addas ar gyfer pob diwrnod, a fyddai'n ychwanegiad ffres, dyddiol, ond mae na lot o waith yma. Mae'r math yma o beth yn cael ei wneud gan y rhan fwyaf o wicis dw i wedi ymweld a nhw.

Bu Defnyddiwr:Deb yn hynod o brysur dros y blynyddoedd yn crynhoi digwyddiadau'r dydd ar un dudalen (pob dydd o'r flwyddyn) ee 6 Chwefror ac efallai y gellid dod a hyn i fewn i 'Ar y dydd hwn...' fel is-ran (nifer cyfyngedig).

Ble i'w roi? Awgrymaf yr Hafan - o dan neu uwch ben 'Erthyglau Newydd'. Maint: tua dwy gentimetr. Heb lun ar y cychwyn.

Yn gyfochrog a hyn mae Defnyddiwr:Rhyswynne, Defnyddiwr:Cymrodor a minnau'n trafod ar hyn o bryd Drydariadau ychwanegol i'r hyn rhai presennol (llif @Wicipedia Cymraeg), yn bennaf - creu ffrwd ychwanegol o luniau o Comin ac efallai y gellir cyfuno'r ddau prosiect drwy syniad HAM.

Sylwadau isod os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:27, 6 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

I agree but I don't know how much use I will be with my limited Welsh. Deb (sgwrs) 08:58, 7 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
What you have done to Wicipedia Cymraeg is unpresedented; there's one word that comes to mind when I see you editing day in day out - dyfalbarhad! Unthanked and forgotton by most, yet your daily toil admired by many of us. Keep an eye open Deb, and keep us in line! Dyfalnarhad! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:05, 7 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Yn fy marn i buasai uwchben "Erthyglau Newydd" yn le da i roi "Ar y dydd hwn...", ond gall oddi tano weithio hefyd. Mae'r lluniau i fod yn ffordd o roi llun i un o'r ffeithiau yn "Yn y dydd hwn...", yn hytrach na rhywbeth tebyg i "Today's featured picture" ar en-wiki. Byddai'r lluniau'n fychan ar y dudalen -- dim mwy na'u maint yn y galeri ar hyn o bryd -- ac ni fydd capsiynau a.y.y.b., felly dylai ddim fod yn ormod o waith. Ham II (sgwrs) 15:20, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Rwyf wedi dechrau ychwanegu at y cofnod. Dwi ddim yn siwr sut byddai gosod rhain yn otomatig ar yr hafan gan fod my ngwybodaeth o codio wiki wedi ei gyfyngu, ond rwy'n berffaith fodlon ycvhwanegu toreth o ddigwyddiadau gan fod hynny'n rhywbeth sydd gennyf mewn llyfr mawr ers fy nyddiau fel ymchwilydd ar Radio Cymru! Blogdroed (sgwrs) 16:14, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Arddull golygu

Beth yw'r arddull i'w ddefnyddio ar gyfer dyddiau sydd â mwy nag un digwyddiad ... gan bod fy ngolygiad i gysoni pethau wedi ei ddadwneud, mae'n siwr sa hi'n haws gofyn ... Blogdroed (sgwrs) 17:58, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

@Blogdroed: Y syniad sydd gen i yw cael rhyw dri ddigwyddiad ar gyfer pob diwrnod, efallai mwy. Byddai gan pob diwrnod dudalen i'w hun, siwr o fod â chyfeiriad yn dilyn y patrwm Wicipedia:Ar y dydd hwn/Mawrth/1, a fyddai'n ymddangos ar yr Hafan ar y diwrnod priodol. Yn adran mis Mawrth rwy wedi creu is-adran ar gyfer pob diwrnod yn y mis; pan maent i gyd wedi'u gorffen gallwn droi pob un yn dudalen. Yn y pen draw bydd un o'r rhain ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn. Dyna pam newidiais dy olygiad a oedd yn aduno'r rhestr am fis Mawrth. Diolch am dy olygiadau diweddar, gyda llaw! Ham II (sgwrs) 19:33, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Grêt! Wedi ychwanegu sawl digwyddiad ac wrthi'n ychwanegu erthyglau fel nad oes gormod o goch! Blogdroed (sgwrs) 21:16, 12 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Y codio / modus operandi golygu

@Defnyddiwr:Blogdroed Paid a phoeni am y codio, mae sicrhau cynnwys da, amrywiol ar gyfer Mawrth ac Ebrill yn bwysicach. Wedi dweud hynny, mi fydd fwy neu lai yr un dull a ddefnyddir ar gyfer y 'Pigion'.

  1. Mae na demplad / cragen wag lle gosodir y wybodaeth
  2. Dyma'r cynnwys sy'n cael ei dynnu i fewn i'r gragen
  3. Cesglir y cyfan ar un dudalen (y broblem ydy fod hwn a'r rhai unigol 'allan o sinc', bellach!)

Cymer olwg ar y côd hefyd sy'n ei alw yn yr Hafan: templad syml: {{Pigion}} Efallai mai'r gair pwysicaf wrth ddewis y digwyddiad ydy 'Amrywiaeth'. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:10, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Efallai y byddai'n syniad da treialu 4 - 5 diwrnod olaf o Chwefror. ;-) - Llywelyn2000 (sgwrs) 22:47, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Syniad da. Oes tudalen hafan "prawf" er mwyn treialu hyn am y dyddiau hynny yn hytrach na gwneud ar yr hafan go iawn? A phwy sy'n mynd i gynllunio'r bocs? Ham II (sgwrs) 10:36, 17 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
@Ham II: oes rwan! Fy awgrym i ydy dy fod di'n ei wneud, os nad oes cynnig arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:29, 17 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

@Ham II: Gallem greu'r tudalennau newydd yn otomatig, cofia. Agor y misoedd a ddewisir (Mawrth, Ebrill a Mai?) yn OfficeCalc, ei safio fel csv, ac agor hwnnw yn ei dro yn AWB. Ti'n awyddus i wneud hyn, Marc neu ti isio i mi wneud? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:46, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Ffrwd otomatig i Trydar golygu

Wedi i ni gwbwlhau un llun i bob diwrnod, efallai y medrem ei drydaru'n otomatig (Dolen y Dydd!). Mwy o reswm felly i fynd ati! Mae na feddalwedd ar gael i ychwanegu pob dydd ar y tro ar Twitter, ond a wyr rhywun am feddalwedda all ddarllen cronfa ddata? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:31, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Cynllunio ac arddull golygu

Gweler y dudalen prawf am fy ymgais gyntaf i gynnwys blwch "Ar y dydd hwn..." ar yr Hafan. Byddwn yn croesawu'n sylwadau neu syniadau. Rwy o'r farn mai amser y gorffennol ("Cyhoeddodd", "Ganwyd"...) sydd orau ar gyfer y cofnodion, ond beth ydy pawb arall yn meddwl? Ham II (sgwrs) 16:25, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Mae'n edrych yn wych iawn! Bendigedig! Un neu ddau o bethau'n chwyrlio drwy'r meddwl:
  1. Mae na fwlch rwan ar y chwith (o dan Pigion)
  2. Mae angen 4 digwyddiad, oherwydd maint y llun - ac mae hwnnw'n gwneud diawl o wahaniaeth!
  3. Mae sicrhau o leia un digwyddiad Cymraeg/Cymreig yn hanfodol
Gwych iawn! Diolch am dy waith caled! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:33, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: (1) Dwy ddim yn siwr beth i wneud am hynny; o bosib gellid cael AYDH o dan y pigion – ond wedyn buaswn ni'n colli'r llun ar dde y dudalen sy'n cyd-fynd â'r un ar y chwith. (2) Cytuno'n llwyr. (3) Dim problem, ond wna i ganolbwyntio fy ymdrechion ar y rhai o 1 Mawrth ymlaen, am mai nhw yw'r rhai sy'n cyfri. Ham II (sgwrs) 18:09, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Y bwlch: problem i'w chroesawu! Fe'i llanwn wrth gwrs! Neu wahanu'r ochr / colofn chwith o'r un dde fel ar en a de. Dw i'n meddwl hefyd y gall y digwyddiadau / brawddegau fod ychydig yn hirach, fel ar ieithoedd eraill. A lleihau'r pynciau ar y top! Ond gadewch i ni orffen AyDH yn gyntaf, ac yna i'r gweddill! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:33, 18 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Wrth sgwennu erthygl, mae dyn yn trio cofio defnyddio'r arddull [.[24 Medi ].], [.[1654].], ond yn anghofio weithiau. O gofio'r arddull dydy'r cofnod ddim yn cael ei gadw ar y tudalen dyddiad / blwyddyn; dim ond ar Beth sy'n cysylltu yma'r tudalen, gan hynny bydd llawer ddigwyddiad o bwys yn cael ei golli o'r tudalen dyddiad, oni bai bod rhywun yn ei wirio'n barhaus. A dyna sy'n peri pryder i mi am y prosiect hwn: gyda chyn lleied yn y winllan, i gymharu ag ieithoedd Wici eraill, yn yr amser mae'n cymryd i un o'r ffyddloniaid i wirio be sy'n cysylltu yma er mwyn creu blwch ar wib, onid gwell defnydd o’i amser byddid creu pwt o erthygl newydd parhaol? (Ymddiheuraf os ydwyf wedi cam ddeall y prosiect) AlwynapHuw (sgwrs) 04:13, 23 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Problem oesol! Y ddau, dw i'n meddwl - creu, gwiro, cywiro, diweddaru erthyglau ydy'r pwysicaf, yn fy marn bach i. Ond mae hwn ('Ar y dydd hwn...') ar frig yr Hafan yn gwneud y fynediad i Wici'n fwy deniadol, yn fyw, yn gyfoes ac yn berthnasol. Efallai y gwnaiff ddenu ychwaneg o adeiladwyr i drwsio'r hen wal na, a meichiad i gadw'r moch allan. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 23 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Gwaith gwych i fot byddai gwirio bod yr arddull 24 Medi, 1654 mewn erthyglau, ac yna ychwanegu y rhai sydd ar goll i dudalennau fel 24 Medi. Â dweud y gwir, gwell fyth fyddai cynhyrchu'r tudalennau fel 24 Medi o Wiciddata, gan ddangos dim ond y pobl sydd ag erthyglau yn Gymraeg; gall yr un fot ychwanegu erthyglau bywgraffiadol newydd atynt hefyd. Byddai unrhyw un o'r rhain yn rhoi rhagor o amser i ni ganolbwyntio ar ysgrifennu erthyglau (yn ogystal ag Ar y dydd hwn, sydd yn ymwneud â dewis a ddethol gwybodaeth, ac felly'n gwaith i fod dynol).
"Efallai y gwnaiff ddenu ychwaneg o adeiladwyr i drwsio'r hen wal na"– I fi, dyma'r sgil-effaith pwysicaf rwy'n gobeithio gweld o Ar y dydd hwn: codi ymwybyddiaeth o erthyglau y gellid eu gwella (ac o ganlyniad – gobeithio – fydd pobl yn eu gwella wedyn). Byddai'n dda gallu mesur y newidiadau i'r tudalennau a'u hamlygir ar bob dydd rhywfford, i weld a yw'r prosiect yn cyflawni'r nod hwn yn llwyddiannus ai peidio. Ham II (sgwrs) 11:19, 23 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Dyn sy'n edrych ymhellach na'i drwyn! Mae'r gwaith da ni'n ei wneud rwan ar y Bywgraffiadur / Wiciddata (Mix'N'Match) yn hynod allweddol, a chyn hir gallwn greu rhestr o erthyglau / bobl nad ydynt ar Wici. Mae LlGC yn cefnogi'r Prosiect bach yma, a siawns y gorffenir y gwaith yn eitha sydyn. Yn yr un modd, fel yr awgrymi, gallwn lunio rhestr o bobl sydd ar wiciddata, nad ydynt ar wici. Gallwn wneud yr un peth i'r Bywgraffiadur a chyflwyno i'r golygyddion restr o Gymry sydd ar wiciddata/wicpedia nad ydynt yn y bywgraffiadur! Mi fedrwn fonitro effaith AyDH: drwy ddefnyddio meddalwedd fel hwn. Gan na chafwyd gwrthwynebiad i'r cais i roi YyDH ymlaen asap, ti'n hapus i wnued hynny @Ham II:? Dw i'n cytuno'n llwyr efo ti mai cynnig dolennau cyfoes ar y dudalen flaen sy'n ei gwneud hi'n ddeniadol, ac nid rhestr boring o bynciau ysgol: Daearyddiaeth, Gwyddor gwleidyddiaeth, Economeg ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:42, 27 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

┌───────────────────────┘
@Llywelyn2000: 'Sdim problem gen i gyda cyflwyno AyDH yn gynnar ond does dim modd i fi olygu'r Hafan; dwy ddim yn weinyddwr! Yn y fersiwn diweddaraf o Wicipedia:Hafan/Prawf rwy wedi cymryd y rhestr pynicau oddi ar yr Hafan. Yn ogystal â rhestr o bynciau mae pennawd "Pori'r cynnwys" yno hefyd. Triais i ychwanegu'r cynnwys hynny i'r bwlch islaw "Pigion" ond dwy ddim wedi cael y codio'n gywir hyd yn hyn.

Does dim OfficeCalc gen i, felly allwch chi greu tudalennau mis Mawrth, Llywelyn2000? Rwy 'di creu Nodyn:Ar y dydd hwn er mwyn ei wneud yn haws i weld pa ddyddiau sydd â tudalennau, a golygu'r rheiny. Mae hefyd yn ei wneud yn haws i olygu'r tudalennau hynny. Ham II (sgwrs) 12:41, 27 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Ar y dydd hwn yn fyw; ond angen llenwi'r gap golygu

Mae 'Ar y dydd hwn...' wedi profi ei hun - mewn chydig ddyddiau - yn llwyddiant! Dw i wedi ei drydaru fel ciplun yn ddyddiol; mae'r ail-drydaru yn wych, ac yn dangos ei fod yn boblogaidd tu hwnt. YSYWAETH, mae'r gofod hyll o dan 'Pigion' angen ei lenwi asap! Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:00, 5 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Oes 'na sgôp i greu "Erthygl y Dydd"? Dwn i ddim os oes 'na system graddio erthyglau (fel sydd draw ar en.) ond byddai'r erthyglau 'gorau' mwyaf swmpus i gyd yn gallu ymddangos yn eu tro. Bydda'i hyn yn ein galluogi i rhoi 'showcase' i'r erthyglau gorau ac hefyd rhoi esiampl o'r erthyglau rydym yn anelu tuag atynt? Blogdroed (sgwrs) 09:14, 5 Mawrth 2015 (UTC)Ateb
Whopar o waith! Cytuno'n llwyr o ran egwyddor. Cymer olwg yn yr hafan ar y Pigion wythnosol. Dim ond yr erthyglau gorau ddylai fod yma, ond dros y blynyddoedd ychydig iawn o chwynu a newid sydd wedi bod. Byddai hyn hefyd yn llenwi'r bwlch. 52 sydd yna, a gellid eu gwneud wrth fynd ymlaen (Mawrth, yna Ebrill...) Ond i'w newid yn ddyddiol!!! Mam bach, ble mae cychwyn. Byddai'n well gen i orffen 'Ar y dydd hwn...' yn iawn yn gyntaf, ac yna mynd i'r afael efo dy syniad di. Dull haws fyddai llenwi'r bwlch efo diawl o lun da 'Llun y Dydd', wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:34, 5 Mawrth 2015 (UTC)Ateb
@Blogdroed: System graddio erthyglau. Mae na fframwaith - ac mae gennym ni ddwy erthygl! Fe weli fedal ar frig dde'r erthygl: Diwydiant llechi Cymru - yn tarddu o Nodyn:erthygl ddethol. Rho glic ar y fedal a mi ddeu i di i Wicipedia:Erthyglau dethol. Gelli hefyd gynnig erthygl yn Wicipedia:Cynnig erthyglau dethol. Awgrymodd Deb, hefyd y dylai Nantclwyd y Dre fod yn erthygl ddethol, ond doedd hi ddim digon da ar y pryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:51, 5 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

API gan Dafydd Elfryn i dynnu llif i wefanau allanol golygu

Datblygwyd côd gan Dafydd Elfryn sy'n caniatau i drydydd person dynnu'r wybodaeth o 'Ar y dydd hwn...' i fewn i wefanau allanol. Dewin o foi! Unrhyw syniadau sut i'w farchnata am ddim! neu ei ddatblygu ymhellach? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:22, 25 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Mehefin golygu

Wedi i rywun wiro Mehefin, mi dria i gael amser i greu'r Nodion unigol; ond mae'n anodd, ar hyn o bryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:24, 26 Mai 2015 (UTC)Ateb

Angen llun gwell na'r Magna Carta! Oherwydd ei faint, does dim i'w weld namyn un lliw! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:09, 27 Mai 2015 (UTC)Ateb

Delweddau - pob dydd - ar Comin golygu

Dw i di uwchlwytho ciplun o bob dydd i Comin - er mwyn eu Trydaru'n otomatig. Mae nhw yn fama. Angen uwchlwytho fersiwn newydd o'r llun i Comin pob tro da ni'n newid / ychwanegu at ADH. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:46, 11 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Meini prawf ac awgrymiadau golygu

Mae 'Ar y dydd hwn' yn hynod o boblogaidd ac yn ddull da o werthu Wicipedia Cymraeg. Mae ar ein Hafan ac yn ffrwd Trydar, dyddiol. Aawgrymaf fod yr hyn a ddewisiwn yn dilyn y meini prawf isod:

  1. Anelu at rhwng 6 ac 8 eitem
  2. Amrywiaeth o eitemau, gyda dros eu hanner am Gymru
  3. Fod y ddelwedd yn cael ei dewis am yr eitem mwyaf perthnasol, ffasiynol a deniadol
  4. Mae eitemau am ddigwyddiadau yn brin ac yn apelio
  5. Mae penblwyddi'n bwysicach na marwolaethau
  6. Dileu eitemau'n unig ar ol trafodaeth.

Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 02:49, 25 Rhagfyr 2016 (UTC)Ateb

Return to the project page "Ar y dydd hwn".