Stori asgwrn pen llo
Stori wirion sy'n afresymol ei chredu yw stori asgwrn pen llo.[1][2] Fel rheol natur ddigrif ond hir ac ailadroddus sydd i'r stori. Y flwyddyn 1887 yw'r dyddiad cynharaf a noder Geiriadur Prifysgol Cymru am yr ymadrodd hwn,[3] ond cyhoeddwyd y term mewn rhifyn o gylchgrawn Yr Haul ym 1852:
“ | Gan fod y Golygydd mor hoff o storïau, a chan fod pobl Salem yn eu derbyn fel seigiau ysprydol iachus, y mae gennyf finnau un i'w thaflu i'w trysorfa ysprydol. Mewn ysgol yn y wlad, dywedai un crwltyn wrth y llall: 'Mae gennyf stori, am asgwrn pen llo; os wyt ti am i mi i'w dweud, mi a'i dywedaf; os wyt ti am i mi beidio, mi beidiaf.' 'Dwed hi.' 'Nid matter dwed hi ydyw y peth, ond stori am asgwrn pen llo,' &c. 'Taw.' 'Nid matter taw ydyw y peth, ond stori am asgwrn pen llo,' &c.[4] | ” |
Termau tebyg mewn ieithoedd eraill
golyguShaggy dog story (Saesneg)
golyguYn y Saesneg mae dwy idiom sy'n debyg i'r stori asgwrn pen llo, ond mae eu hystyron ychydig yn wahanol i'w gilydd. Jôc hir wirion yw'r shaggy dog story, ac fel rheol mae'r llinell glo yn ddibwynt, ond weithiau ceir tro sy'n wirioneddol ddoniol. Honnir i ffurf wreiddiol o'r jôc gael ei hadrodd yn y 19g. Noder un fersiwn o'r cyfnod a adroddwyd mewn cylchoedd uchaf cymdeithas Llundain:
“ | Apparently a wealthy gentleman, who owned a grand residence in Park Lane, lost his beloved shaggy dog during a walk across Hyde Park, opposite his home. The man was heartbroken and advertised extensively in The Times for the return of his valuable companion. Meanwhile, an American living in New York had heard the news and taken great pity on the dog's owner. He vowed he would search for a pet matching the description of the lost hound and deliver it to London on his next business visit, which he duly did. But when the New Yorker presented himself at the palatial London mansion, he was met by a po-faced butler who, the story goes, looked down at the dog, bowed, winced and then exclaimed: 'But not as shaggy as that, sir!'[5] | ” |
Datblygodd ystyr yr ymadrodd i gynnwys unrhyw stori ddigrif hir, sy'n aml yn fwy o hwyl i'r person sy'n gweu'r chwedl ac yn ei actio nag i'r grandäwr. Dychwelodd y ci blewog i'r stori mewn cylch o jôcs yn y 1940au. Cofnodir enghraifft gan y geiriadurwr Eric Patridge ym 1960:
“ | Travelling by train to london from one of its outer dormitories, a businessman got into a compartment and was amazed to see a middle-aged passenger playing chess with a handsome Newfoundland. The players moved the pieces swiftly and surely. Just before the train pulled in at the London terminus, the game ended, with the dog victorious. 'That's an extraordinary dog, beating you like that – and obviously you're pretty good yourself.' – 'Oh, I don't think he's so hot; I beat him in the two games before that.'[6] | ” |
Cock and bull story (Saesneg)
golyguStori liwgar, anhygoel yw'r cock and bull story, ond nid peri chwerthin yw amcan y stori hon ond i foli'r storïwr ei hun neu i hel esgusion am ryw drwg a wnaeth.[7]
Tarddiad posib yw hen straeon moes am anifeiliaid, megis chwedlau Esop. Yn ôl y ffug-darddiad poblogaidd, dwy dafarn, y Cock a'r Bull, ar yr un stryd yn Stony Stratford, Swydd Buckingham, sy'n rhoi eu henwau i'r ymadrodd. Dywed, yn ystod dyddiau'r goetsh fawr, y Cock oedd man newid ceffylau'r goetsh o Lundain a'r Bull oedd arhosfan y goetsh o Birmingham. Tra'r oedd teithwyr y ddwy goetsh yn aros, buont yn storïa a chellweirio ymysg ei gilydd.[8]
Cynigid hefyd stori o 1660 gan Samuel Fisher am geiliog a tharw sy'n newid yn anifail newydd. Dibrofir y dybiaeth honno gan Eiriadur Diarhebion Apperson, sy'n dyfynnu'r defnydd cynharaf o 1608 yn y ddrama Law Trickes or who would have thought it gan John Day: "What a tale of a cock and a bull he tolde my father". Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen, y cofnod cyntaf o'r ffurf union yw'r Gazette of the United States (Philadelphia, 1795): "a long cock-and-bull story about the Columbianum". Ysgrifennid yr idiom hon, neu ffurfiau ohoni, yng nghyfieithiad Motteux (1700) o Don Quixote ac yn y nofel Tristram Shandy (1760–7) gan Laurence Sterne.[9]
coq à l'âne (Ffrangeg)
golyguYmadrodd sy'n debyg i'r cock and bull Saesneg yw'r coq à l'âne ("ceiliog ac asyn") Ffrangeg, sydd o bosib yn awgrymu bod y ddwy ohonynt yn tarddu o hen straeon am anifeiliaid sy'n siarad.[9] Techneg lenyddol yw coq à l'âne sy'n perthyn i ddrama fer y 15g a elwir yn sotie: ffars ddychanol. Ei ystyr yw tro sydyn mewn sgwrs sy'n newid y pwnc yn llwyr.[10]
Lügengeschichte (Almaeneg)
golyguTraddodiad llenyddol yw'r Lügengeschichte ("straeon celwydd") Almaeneg. Anturiaethau'r Barwn Münchhausen yw enghreifftiau enwocaf y genre hon.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ C. P. Cule. Cymraeg Idiomatig: Priod-ddulliau Byw (Y Bontfaen, D. Brown a'i Feibion, 1971), t. 27.
- ↑ Alun Rhys Cownie. Geiriadur Idiomau (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2001),t. 111.
- ↑ ystori. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Mai 2016.
- ↑ HANESION, &c.. Yr Haul. Cylchgronau Cymru Ar-lein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) (Hydref 1852). Adalwyd ar 3 Mai 2016.
- ↑ Albert Jack. Shaggy Dogs and Black Sheep (Llundain, Penguin, 2005), tt. 154–155.
- ↑ Camilla Rockwood (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1202.
- ↑ Daphne M. Gulland a David Hinds-Howell. The Penguin Dictionary of English Idioms (Llundain, Penguin, 1994), t. 68.
- ↑ Rockwood, Brewer's (2009), tt. 278–79.
- ↑ 9.0 9.1 Nigel Rees. A Word in Your Shell-like (Glasgow, Collins, 2004), t. 139.
- ↑ (Ffrangeg) coq-à-l'âne. Dictionnaire de français. Larousse. Adalwyd ar 3 Mai 2016.