Chwarel y Penrhyn
Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda, Gwynedd, oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd yn ail hanner y 19g. Mae'r chwarel yn parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa lawer llai bellach. Saif ar lechweddau gogleddol Carnedd y Filiast.
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.167°N 4.067°W |
Perchnogaeth | Welsh Slate Limited |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Blynyddoedd Cynnar
golyguCeir y cofnod cyntaf o weithio llechi yn yr ardal yn 1413, pan dalwyd 10 ceiniog yr un i rai o denantiaid Gwilym ap Gruffudd am gynhyrchu 5,000 o lechi. Mae cerdd gan Guto'r Glyn yn y 15g yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar do tŷ yn Henllan ger Dinbych.
Cofnodir allforio llechi o Ystad y Penrhyn o 1713, pan yrrwyd 14 llwyth llong, 415,000 o lechi i gyd, i Ddulyn. Yr adeg yma roedd y llechi yn cael eu cario i’r porthladd ar gefnau ceffylau, ac yn nes ymlaen ar droliau. Hyd diwedd y 18g roedd chwareli bychain yn cael eu gweithio gan bartneriaethau o bobl leol, oedd yn talu rhent i’r tirfeddiannwr. Mae llythyr gan asiant Ystad y Penrhyn, John Paynter, yn 1738 yn cwyno fod cystadleuaeth oddi wrth lechi Chwarel y Cilgwyn yn effeithio ar werthiant llechi o Ystad y Penrhyn. Nid oedd chwarelwyr y Cilgwyn yn gorfod talu rhent i feistr tir, felly gallent werthu’r cynnyrch yn rhatach. Rhwng 1730 a 1740 dechreuodd y Penrhyn gynhyrchu llechi mwy, a rhoddasant enwau iddynt a ddaeth yn gyffredin trwy’r diwydiant, o’r Duchesses, 24 modfedd wrth 12 modfedd, trwy’r Countesses, Ladies a Doubles i’r lleiaf, y Singles.
Datblygiad Chwarel y Penrhyn
golyguRichard Pennant, yn ddiweddarach Arglwydd Penrhyn oedd y tirfeddiannwr cyntaf yng Nghymru i ddechrau gweithio’r chwareli ei hun. Yn 1782 cafwyd gwared ar y partneriaethau annibynnol ac apwyntiwyd James Greenfield fel asiant. Yr un flwyddyn agorodd Pennant chwarel newydd yng Nghaebraichycafn ger Bethesda, a gafodd yr enw Chwarel y Penrhyn yn nes ymlaen. Erbyn 1792, roedd y chwarel yn cyflogi 500 o ddynion ac yn cynhyrchu 15,000 tunnell o lechi y flwyddyn.
Yn 1799 dechreuodd Greenfield system y "galeriau", terasau enfawr rhwng 9 medr a 21 medr o ddyfnder. Yn 1798 roedd Arglwydd Penrhyn wedi agor Tramffordd Llandegai, oedd yn defnyddio ceffylau i dynnu’r wagenni, i gario llechi o’r chwarel i’r porthladd, ac yn 1801 agorwyd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf. Datblygwyd porthladd yn Abercegin ger Bangor dan yr enw Porth Penrhyn.
Yn 1859 amcangyfrifodd y Mining Journal fod Chwarel y Penrhyn yn gwneud elw o £100,000 y flwyddyn.
Anghydfod diwydiannol
golyguFfurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, a’r un flwyddyn bu anghydfod diwydiannol yn Chwarel y Penrhyn, a ddiweddodd mewn buddugoliaeth i’r gweithwyr. Yn 1885 cymerodd George Sholto Gordon Douglas-Pennant yr awenau yn lle ei dad, a’r flwyddyn wedyn apwyntiwyd E. A. Young yn rheolwr. Gwaethygodd y berthynas â’r gweithwyr, ac ym mis Medi 1896 dechreuodd anghydfod a ddisgrifid gan y rheolwyr fel streic, tra dywedai’r gweithwyr eu bod wedi eu cloi allan o’r chwarel. Aeth y gweithwyr yn ôl i’r chwarel yn Awst 1897, fwy neu lai ar delerau Arglwydd Penrhyn. Ar 22 Tachwedd 1900 dechreuodd ail streic (neu ail gloi-allan), a barhaodd am dair blynedd. Roedd yr achosion yn gymhleth, ond roeddynt yn cynnwys cynnydd yn yr arfer o osod rhannau o’r chwarel i gontractwyr. Yn hytrach na chytuno ar eu bargeinion eu hunain, roedd y chwarelwyr wedyn yn gweithio am gyflog i’r contractwyr. Nid oedd gan yr undeb ddigon o arian i dalu tâl streic digonol, a bu cyni mawr ymysg y 2,800 o weithwyr. Ail agorodd Arglwydd Penrhyn y chwarel ym mis Mehefin 1901, a dychwelodd tua 500 o weithwyr iddi. Ystyrid hwy yn “Fradwyr” gan y gweddill. Yn y diwedd bu raid i’r gweithwyr ddychwelyd i’r chwarel ym mis Tachwedd 1903 ar delerau Arglwydd Penrhyn. Gwrthodwyd ail-gyflogi llawer o’r gweithwyr oedd wedi bod yn amlwg yn yr undeb, a gadawodd llawer o weithwyr yr ardal yn barhaol. Gadawodd yr anghydfod etifeddiaeth o chwerwder yn ardal Bethesda. Mae haneswyr yn ceisio ehangu y drafodaeth am hanes y streic y tu hwnt i'r dynion, y chwarelwyr, undebau llafur, a rheolaeth y chwarel; i ganolbwyntio ar naratifau sydd heb fynnu cymaint o sylw, yn enwedig menywod a'r effaith y mae'r streic wedi ei chael ar y gymuned ehangach.[1]
Mae Chwarel y Penrhyn y parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa llawer llai nag yn ystod oes aur y diwydiant. Yn 1995, cynhyrchai bron 50% o gynnyrch llechi y Deyrnas Unedig. Eiddo Welsh Slate Ltd, isgwmni Grŵp Lagan, yw’r chwarel bellach.
Llyfryddiaeth
golygu- Hughes, J. Elwyn a Bryn Hughes, Chwarel y Penrhyn: ddoe a heddiw (Chwarel y Penrhyn, 1979)
- Jones, R. Merfyn, The North Wales quarrymen, 1874-1922, Studies in Welsh History 4 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1981)
- Lindsay, Jean, A history of the North Wales slate industry (David and Charles, 1974)
- Richards, Alun John, Slate quarrying in Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
- Richards, Alun John, The slate regions of north and mid Wales and their railways (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
- Roberts, T. Theodore, Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn): ei hanes a'i rhamant (Gwasg Gee, 1999)
- ↑ Owen, Teleri (2019-2020). ""Yn Ddirgel ac yn Gyhoeddus": Rôl, Effaith, a Phortreadaeth Merched yn ystod Streic Fawr y Penrhyn, 1900–1903". Llafur 12 (4): 146–166.