Susanna Agnelli
Awdures a gwleidydd o'r Eidal oedd Susanna Agnelli (24 Ebrill 1922 - 15 Mai 2009) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel entrepreneur a diplomydd. Mae hefyd yn cael ei chofio fel y fenyw gyntaf i fod yn Weinidog dros Faterion Tramor yr Eidal. Roedd yn aelod o Blaid Weriniaethol yr Eidal. Daeth ei hunangofiant Vestivamo alla marinara ("Wastad yn Gwisgo Siwtiai Morwyr", 1983) yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd yr Eidal.
Susanna Agnelli | |
---|---|
Ganwyd | Susanna Agnelli 24 Ebrill 1922 Torino |
Bu farw | 15 Mai 2009 Rhufain |
Man preswyl | Rhufain |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur, gwleidydd, llenor, diplomydd, bywgraffydd, dyngarwr |
Swydd | Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Gweinidog Tramor yr Eidal, Gweinidog heb Bortffolio (yr Eidal), Aelod Senedd Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, mayor of Monte Argentario, llywydd corfforaeth, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal |
Adnabyddus am | Vestivamo alla marinara |
Plaid Wleidyddol | Plaid Weriniaethol yr Eidal |
Tad | Edoardo Agnelli |
Mam | Virginia Bourbon del Monte |
Priod | Urbano Rattazzi |
Plant | Samaritana Rattazzi, Ilaria dei conti Rattazzi, Cristiano Rattazzi, Delfina dei conti Rattazzi, Lupo dei conti Rattazzi, Priscilla Rattazzi |
Gwobr/au | Acqui Award of History, Urdd Teilyngdod ar gyfer Gwasanaethau Arbennig, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Tribute to the Republic, Premio Bancarella |
Fe'i ganed yn Torino (Piemonteg: Turin) a bu farw yn Rhufain. [1][2]
Magwraeth
golyguEdoardo Agnelli a Donna Virginia Bourbon del Monte, merch Tywysog San Faustino a'i wraig Jane Campbell oedd ei rhieni. Roedd ei brawd, Gianni Agnelli (1921 – 2003), yn bennaeth cwmni ceir Fiat hyd at 1996 ac mae'r teulu Agnelli yn parhau hyd heddiw (2019) i ddal mwyafrif cyfranddaliadau'r cwmni. [3][4]
Gwleidyddiaeth
golyguYn 1974, penodwyd Agnelli i swydd wleidyddol, pan ddaeth yn faer Monte Argentario. Roedd ei thad-cu a'i hen dad-cu wedi bod yn feiri hefyd. Gwasanaethodd Agnelli fel maer am ddegawd, o 1974-1984. Fe ysbrydolodd y profiad hi i fynd yn ddyfnach i fyd gwleidyddiaeth genedlaethol. Ac yn 1976 etholwyd Agnelli i Senedd yr Eidal fel aelod o'r Blaid Weriniaethol (PRI). Yn 1979 (hyd at 1981), daeth yn ASE yn Senedd Ewrop. Yn 1983 dychwelodd i Senedd yr Eidal, gan ddod yn seneddwr.
Teulu
golyguYn 1945 priododd hi yr iarll Urbano Rattazzi (1918-2012) a chawsant chwech o blant; roedd yr ieuengaf ohonynt yn ffotograffydd, sef Priscilla Rattazzi. Roedd yr entrepreneur Samaritana Rattazz hefyd yn blentyn iddi. Fodd bynnag, diddymwyd y briodas ym 1975 a rhannodd ei hamser rhwng Dinas Efrog Newydd a'r Eidal; bu'n gefnogwr ffyddlon o Robert Denning o'r cwmni "Denning & Fourcade", a gynlluniodd dros 15 o gartrefi iddi yn Manhattan, De America a'r Eidal.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Acqui Award of History, Urdd Teilyngdod ar gyfer Gwasanaethau Arbennig, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Tribute to the Republic, Premio Bancarella (1975)[5] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: http://www.nytimes.com/2009/05/17/world/europe/17agnelli.html?_r=1&ref=obituaries. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Swydd: http://www.europarl.europa.eu/meps/en/943. http://www.assembly.coe.int/nw/xml/AssemblyList/MP-Details-EN.asp?MemberID=1821.
- ↑ Anrhydeddau: https://premiobancarella.it/site/?page_id=588.
- ↑ https://premiobancarella.it/site/?page_id=588.