Agor y brif ddewislen

Newyddiadurwraig a llenores ffeithiol o Felarws yn yr ieithoedd Belarwseg a Rwseg yw Svetlana Alexandrovna Alexievich (ganwyd 31 Mai 1948). Traddodai ei rhyddiaith newyddiadurol drychinebau, trobwyntiau a thranc yr Undeb Sofietaidd, a nodir y cronicladau hyn gan leisiau a phrofiadau'r werin, yn enwedig merched. Enillodd Gwobr Lenyddol Nobel yn 2015 am "ei hysgrifau amrysain, cofgolofn i ddioddefaint a dewrder ein hoes".[1]

Svetlana Alexievich
Світлана Алексієвич (Київ, 2016) 08 (cropped).JPG
Ganwyd 31 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Ivano-Frankivsk Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Belarws, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Q56314886 Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Zinky Boys: Soviet Voices from a Forgotten War, Voices from Chernobyl, War's Unwomanly Face, Second-Hand Time, The Last Witnesses Edit this on Wikidata
Arddull narrative, powest Edit this on Wikidata
Mudiad non-fiction literature Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Herder, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Gwobr Lenin Komsomol, Gwobr Lenyddol Ewrop Ganolog "Angelus", Gwobr lenyddol Nikolay Ostrovsky, Undeb Ysgrifenwyr yr Undeb Sofietaidd., Gwobr lyfryddol Undeb Ysgrifenwyr yr Undeb Sofietaidd a enwir ar ôl Konstantin Fedin, Gwobr Kurt Tucholsky, Andrei Sinyavsky prize, Triumph, Gwobr Llyfr Leipzig am Gyfraniad i Dealltwriaeth Ewropeaidd, Gwobr y llyfr gwleidyddol, Gwobr Oxfam Novib/PEN, Ryszard Kapuściński Award for literary reportage, Gwobr Lenyddol Nobel, Officier des Arts et des Lettres‎, Prix Médicis essai, Belarusian Democratic Republic 100th Jubilee Medal Edit this on Wikidata
Gwefan http://alexievich.info Edit this on Wikidata
Llofnod
Svetlana Alexijevich Autograph.jpg

Ganwyd yn nhref Stanislav, Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin, yn ferch i filwr Belarwsiaidd a mam Wcreinaidd. Wedi i'w dad gael ei ryddháu o'r Fyddin Goch, symudodd y teulu i bentref yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belorwsia a gweithiodd y ddau riant fel athrawon. Gadawodd Svetlana'r ysgol i weithio'n ohebydd ar gyfer papur newydd lleol Narovl.[2] Enillodd ei gradd yn newyddiaduraeth o Brifysgol Minsk ym 1972. Fe'i hanfonwyd i bapur newydd lleol Brest, ger y ffin rhwng Belarws a Gwlad Pwyl. Gweithiodd hefyd fel athrawes a golygydd. Yn hwyrach dychwelodd hi i Minsk a gweithiodd i'r papur newydd Sel'skaja Gazeta. Trwy gydol ei gyrfa, ennai dicter am iddi herio'r hanes swyddogol a gwrthwynebu unbennaeth ac awdurdodyddiaeth. Cyhuddai o farnau'n groes i'r awdurdodau o ganlyniad i "heddychaeth a naturoliaeth" ei gwaith. Gwrthododd i ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol, a chafodd ei llyfr cyntaf ei ddinistrio ar orchymyn y Pwyllgor Canolog.[3] Bu'n rhaid iddi adael Belarws yn 2000 gan iddi feirniadu llywodraeth yr Arlywydd Alexander Lukashenko. Symudodd i Baris, Göteborg, a Berlin cyn iddi allu dychwelyd i Minsk yn 2011.

Yn ogystal â'i gyrfa newyddiadurol hir, ysgrifennai Alexievich cronicladau a straeon byrion ar sail ei gohebiaeth a chyfweliadau. Ymhlith pynciau ei gwaith mae trychineb Chernobyl, y rhyfel Sofietaidd yn Affganistan, a chwymp yr Undeb Sofietaidd. Mae hi'n hefyd awdures tair drama a sgriptiau ar gyfer 21 o ffilmiau dogfen.[4] Cyhoeddid pedair cyfrol yn ei chylch "Lleisiau Iwtopia", sy'n traddodi hanes yr Undeb Sofietaidd drwy lygad yr unigolyn: Nid Wyneb Fenyw sydd i Ryfel (1985), straeon merched Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd; Bois Sinc (1991), adroddiadau'r milwyr yn Affganistan a'u teuluoedd gartref; Gweddi Chernobyl (1997), hanes llafar y drychineb niwclear honno; ac Amser Ail-law (2013), marwnad i'r Undeb Sofietaidd sy'n dilyn hynt ei gwymp ac yn synio dyfodol ei weddillion.

Newyddiadurwraig yw swydd Alexievich, ond rhyddiaith ffeithiol yw ffurf ei llyfrau s'n rhywfaint mwy na'r ohebiaeth draddodiadol. Arddull idiosyncratig sydd i'w gwaith, a ddylanwadir yn gryf gan ei chydwladwr Ales Adamovich a ddatblygodd genre'r "nofel gyfunol", "nofel-oratorio" neu'r "corws epig". Gosoda'r llenores adroddiadau'r tystion mewn brith ysgrifenedig: "côr o leisiau unigol a gludwaith o fanylion pob dydd", yng ngeiriau Alexievich. Cynnyrch y dull hwn yw croniclad sydd hefyd yn gampwaith llenyddol, adroddiad cymdeithasegol, a phregeth.[2] Er bod ambell o'i "nofelau dogfen" yn meddiannu'r ffin rhwng ffaith a ffuglen,[1] honna Alexievich taw efelychiad o draddodiad llafar Rwsia yw ei newyddiaduraeth lenyddol.[5] Cymharir ei gwaith hefyd i lyfrau ffeithiol traethiadol sy'n benthyca dyfeisiadau'r nofel, megis llyfryddiaeth Truman Capote, Norman Mailer, a Joan Didion.[6] Ansawdd delynegol sydd i'w rhyddiaith yn ôl y beirniaid, ac arddull wreiddiol sy'n cyfuno "craffter gwleidyddol a gweledigaeth drasig".[7] Wrth ddatgan taw Alexievich oedd enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ar gyfer y flwyddyn 2015, dywedodd Sara Danius, ysgrifennydd Academi Sweden: "Mae hi'n rhagori ar fformat newyddiaduraeth ac mae hi wedi datblygu genre llenyddol newydd sy’n dwyn ei harwyddnod."[4]

LlyfryddiaethGolygu

  • У войны не женское лицо (U voyny ne zhenskoe litso, "Nid Wyneb Fenyw sydd i Ryfel"), Minsk: Mastatskaya litaratura, 1985.
  • Цинковые мальчики (Tsinkovye malchiki, "Bechgyn Sinc"), Moscfa: Molodaya Gvardiya, 1991.
  • Зачарованные смертью (Zacharovannye Smertyu, "Dan Gyfaredd yr Angau") (Belarwseg: 1993, Rwseg: 1994).
  • Чернобыльская молитва (Chernobylskaya molitva, "Gweddi Chernobyl"), Moscfa: Ostozhye, 1997.
  • Последние свидетели: сто недетских колыбельных (Poslednie svideteli: sto nedetskikh kolybelnykh, "Y Tystion Olaf: Cant o Hwiangerddi Amhlentynaidd"), Moscfa, Palmira, 2004.
  • Время секонд хэнд (Vremya sekond khend, "Amser Ail-law"), Moscfa: Vremia, 2013.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Svetlana Alexievich, Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Everything you need to know about Svetlana Alexievich, winner of the Nobel prize in literature, The Guardian (8 Hydref 2015). Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  3. (Saesneg) Svetlana Alexievich - Biographical, Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  4. 4.0 4.1 Awdures o Felarws yn cipio Gwobr Lenyddol Nobel, Golwg360 (8 Hydref 2015). Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  5. (Saesneg) A Conversation with Svetlana Alexievich By Ana Lucic, Dalkey Archive Press. Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  6. (Saesneg) Svetlana Alexievich, Belarussian Voice of Survivors, Wins Nobel Prize in Literature, The New York Times (8 Hydref 2015). Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.
  7. (Saesneg) Nonfiction Deserves a Nobel, The New Yorker (9 Hydref 2014). Adalwyd ar 6 Ebrill 2017.

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: