Awdures llyfrau ffeithiol o'r Almaen a sgwennai'n Saesneg oedd Sybille Bedford (16 Mawrth 1911 - 17 Chwefror 2006) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, cofiannydd a newyddiadurwr. Anrhydeddwyd hi gyda gwobr y Golden PEN.

Sybille Bedford
GanwydSybille Von Schoeneback Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1911 Edit this on Wikidata
Charlottenburg Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 2006 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethllenor, nofelydd, cofiannydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAldous Huxley Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sybillebedford.com/ Edit this on Wikidata

Ganed Sybille Aleid Elsa von Schoenebeck yn Charlottenburg, Gorllewin yr Almaen a bu farw yn Llundain.[1][2][3][4][5][6]

Almaenes-Iddewig oedd ei mam, Elisabeth Bernhardt (1888–1937) a'i thad oedd Maximilian Josef von Schoenebeck (1853–1925), uchelwr Almaenig, milwr a chasglwr gwaith celf.[7] Fe'i magwyd mewn teulu Catholig yn Schloss Feldkirch yn Baden. Roedd ganddi hanner chwaer, drwy briodas cyntaf ei thad, sef Maximiliane Henriette von Schoenebeck (yna Nielsen, aka Jacko neu Catsy). Ysgarodd ei rhieni yn 1918, ac arhosodd gyda'i thad a bu e farw yn 1925 pan oedd Sybille yn 14 oed. Aeth i fyw i'r Eidal at ei mam a'i llysdad a oedd yn fyfyriwr yn adran bensaerniol y brifysgol. Symudodd i goleg yn Lloegr, gan fyw yn Hampstead.[8][9]

Yn y 1920au cynnar, roedd Sybille yn aml yn teithio rhwng Lloegr a'r Eidal. Gyda thwf ffasgiaeth yn yr Eidal, fodd bynnag, ymsefydlodd ei mam a'i llys-dad yn Sanary-sur-Mer, pentref pysgota arfordirol yn Provence yn ne Ffrainc, ger Toulon a Marseilles. Ymsefydlodd Sybille ei hun yno (a hithau yn ei harddegau), gan fyw ger Aldous Huxley, a daeth yn ffrindiau â hi. Bu Sybille yn rhyngweithio â llawer o awduron yr Almaen a ymsefydlodd yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys Thomas Mann a Bertolt Brecht. Yn y cyfamser, daeth ei mam yn gaeth i forffin, a roddwyd iddi gan feddyg lleol.[9]

Yn 1933, cyhoeddodd Sybille erthygl yn beirniadu'r gyfundrefn Natsïaidd yn Die Sammlung, cylchgrawn llenyddol Klaus Mann, mab Thomas Mann. Pan ddarganfuwyd ei hachau Iddewig gan y Natsïaid, rhewyd ei chyfrifon banc. Sylweddolodd enbydrwydd y sefyllfa a phriododd Sais er mwyn cael dinasyddiaeth Prydeinig, Walter "Terry" Bedford. Daeth y briodas i ben yn fuan wedi hynny, ond cymerodd Sybille gyfenw ei gŵr, gan gyhoeddi ei holl waith fel "Sybille Bedford".

Gyda chymorth Aldous a Maria Huxley, gadawodd Bedford Ffrainc i America cyn goresgyniad yr Almaen ym 1940. Dilynodd Aldous a Maria Huxleys i Galiffornia a threuliodd weddill yr Ail Ryfel Byd yn yr Unol Daleithiau.

Ar ôl y rhyfel, treuliodd Bedford flwyddyn yn teithio ym Mecsico. Byddai ei phrofiadau ar y daith honno yn sail i'w llyfr cyntaf, sef deialog o'r enw The Sudden View: a Mexican Journey, a gyhoeddwyd yn 1953. Treuliodd Bedford weddill y 1940au yn byw yn Ffrainc a'r Eidal. Yn ystod y cyfnod syrthiodd mewn cariad â menyw Americanaidd, Evelyn W. Gendel, a adawodd ei gŵr am Bedford a daeth yn awdur a golygydd ei hun.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sybille Bedford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sybille Bedford". "Sybille Bedford". "Sybille Bedford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: http://news.independent.co.uk/people/obituaries/article346535.ece. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sybille Bedford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sybille Bedford". "Sybille Bedford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014 http://archive.spectator.co.uk/article/17th-march-2001/42/the-sphinx-of-sanary.
  6. Enw genedigol: The New York Review of Books.
  7. Feldkirch in literarischen Zeugnissen
  8. Obituary for Sybille Bedford in The Telegraph, 21 Chwefror 2006.
  9. 9.0 9.1 Jane Jakeman: "Funerals in Berlin (and Sussex)", in The Independent on Sunday, 18 Chwefror 2000, http://arts.independent.co.uk/books/features/article286592.ece, adalwyd 25 Chwefror 2018.