System resbiradu
System resbiradu mewn organebau ydy'r system hwnnw sy'n caniatáu cyfnewid nwyon. Mae'n cynnwys yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r argeg), y tracea (neu'r bibell wynt), y bronci, yr ysgyfaint a'r llengig (neu'r diaffram thorasig). Pwrpas hyn ydyw sicrhau fod y corff yn derbyn moleciwlau o ocsigen ac yn rhyddhau carbon deuocsid yn ôl i'r atmosffer. Mewn meddygaeth, mae'r astudiaeth o'r system resbiradu yn rhan o anatomeg, sydd yn ei dro'n rhan o fioleg.
Mae gan anifeiliaid eraill megis pryfed, adar a mamaliaid sytem resbiradu: defnyddia amffibiaid eu crwyn i gyfnewid y nwyon ocsigen a charbon deuocsid a thagell sydd gan y pysgodyn. Dim ond drwy'r trwyn y gall ceffyl anadlu, bwyta yn unig yw amcan y geg. Mae amffibiaid yn defnyddio ysgyfaint a'u crwyn i anadlu. Does gan ymlusgiaid ddim llengig, felly mae eu system resbiradu'n tipyn symlach na mamaliaid. Sbiraglau (neu dyllau bychan) sydd gan bryfed, a'r rheiny wedi'u lleoli ar eu sgerbwd allanol - mae hyn yn debyg i system y pysgod o ddefnyddio tegyll i anadlu. Mae ambell bryfyn, fel y Collembola yn defnyddio system o anadlu drwy'r croen yn unig ac nid oes ganddo sbiraglau na thracea.[1]
Mae gan blanhigion hwythau systemau resbiradu er fod y cyfnewid nwyon yn gwbwl groes i gyfeiriad y nwyon mewn anifeiliaid: carbon deocsid i mewn ac ocsigen allan; mae'n cynnwys nodweddion anatomegol unigryw megis y tyllau a geir ar wyneb isaf deilen, sef y stomata.
Datblygiad mewn pobolGolygu
Yn ystod beichiogrwydd, mae'r system resbiradu'r ffetws ynghwsg. Ar yr enedigaeth, fodd bynnag, daw'n weithredol - y sbardyn yw aer. Mae'n datblygu rhyw ychydig yn ystod oes y person, gan dyfu o ran maint wrth i'r corff dyfu.[2] Mae genedigaethau cynamserol, fodd bynnag, yn aml yn golygu nad yw'r system resbiradu wedi datblygu'n llawn: nid yw celloedd math II yr alfeolws pwlmonaidd wedi datblygu'n llwyr ac yn methu a chynhyrchu gwlychwr (surfactant) ac oherwydd hynny gall llawer o'r alfeoli fethu cyfnewid nwyon yn rhai rhanau o'r ysgyfaint.[3] Ceisir datrud hyn drwy ohirio'r enedigaeth cymaint â phosib a thrwy rhoi brechiadau o steroids i'r fam.[4]
Gweler hefydGolygu
Swyddogaeth y system resbiradolGolygu
1.mae'n darparu ocsigen i'r gwaed.
2.tynnu carbon deuocsid or gwaed..
MewnanadluGolygu
Pan rydych yn anadlu i mewn, mae'r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu, tra fydd y gawell asennau yn symyd i fyny a thuag allan. Bydd gwasgedd y thoracs yn lleihau, tra fydd cyfaint y thoracs yn cynyddu. Yn ystod mewnanadliad, mae'r ysgyfaint yn enchywthu ac yn tynnu aer i mewn i'r ysgyfaint, ac mae'r llengig yn cyfangu.[5]
AllananadluGolygu
Wrth anadlu allan, bydd cyhyrau rhyngasennol yn llaesu ar gawell asennau yn symud i lawr a thuag i mewn. Mae'n gwthio aer allan o'r ysgyfaint, ac mae'r llengig yn llaesu ac yn symyd i fyny. Yn ystod allananadliad mae gwasgedd yn y thoracs yn cynyddu, a chyfaint y thoracs yn lleihau.[5]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ The Earth Life Web, Insect Morphology and Anatomy. Earthlife.net. Adalwyd 2013-04-21.
- ↑ Michelle, Julia (March 7, 2011). "How Do Babies Breathe in the Womb?".
- ↑ Sullivan, LC; Orgeig, S (2001). "Dexamethasone and epinephrine stimulate surfactant secretion in type II cells of embryonic chickens". American Journal of Physiology. Regulatory, Integrative and Comparative Physiology 281 (3): R770–7. PMID 11506991. http://ajpregu.physiology.org/cgi/content/full/281/3/R770.
- ↑ Premature Babies, Lung Development & Respiratory Distress Syndrome. Pregnancy-facts.com.
- ↑ 5.0 5.1 "Adolygu - Revision". App Store (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-28. no-break space character in
|website=
at position 4 (help)