Cwpan Pêl-droed Asia

Twrnamaint pêl-droed gwledydd Asia sy'n aelod o'r AFC

Mae Cwpan Pêl-droed Asia AFC yn cael ei gynnal bob 4 blynedd gan Gydffederasiwn Pêl-droed Asia - yr AFC. Ar ôl 2004, penderfynwyd symud y bencampwriaeth i osgoi gwrthdrawiad â thwrnameintiau eraill. Felly gohiriwyd y digwyddiad nesaf tan 2011.

Cwpan Pêl-droed Asia
Founded1956; 68 blynedd yn ôl (1956)
RegionAsia (Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia)
Number of teams24 (finals)
46 (eligible to enter qualification)
Current champions Qatar
(1st title)
Most successful team(s) Japan (4 titles)
Websitewww.the-afc.com
2023 AFC Asian Cup
Tlws y Cwpan hyd nes 2015

Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf ym 1956. Mae Siapan, Iran a Arabia Sawdi i gyd wedi ennill deirgwaith yr un. Yn ogystal â'r cenhedloedd Asiaidd, mae Awstralia hefyd yn y twrnamaint. Mae Israel wedi cymryd rhan yn y gorffennol, ond wedi ymuno ag UEFA.

Y pencampwyr cyfredol yw Qatar wedi budduoliaeth o 3-1 dros Japan yn 2019.

Sefydlu golygu

Cynigiwyd cystadleuaeth pan-Asiaidd gyntaf ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ni chafodd ei gweithredu tan y 1950au. Ddwy flynedd ar ôl i Gydffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) ddod i fodolaeth ym 1954, cynhaliwyd y Cwpan Asiaidd AFC cyntaf erioed yn Hong Kong gyda saith o'r deuddeg aelod sefydlu yn cymryd rhan, gan wneud y twrnamaint yr ail hynaf yn y byd. Roedd y broses gymhwyso yn cynnwys y gwesteiwyr ynghyd ag enillwyr y gwahanol barthau (Canol, Dwyrain a Gorllewin). Twrnamaint pedwar tîm yn unig ydoedd, fformat a oedd hefyd yn bodoli ar gyfer 1960 a 1964. Mae pob is-gydffederasiwn eisoes yn cynnal eu pencampwriaeth bob dwy flynedd eu hunain, pob un â graddau amrywiol o ddiddordeb.[1]

Dangosodd De Corea ei rhagoriaeth ym mlynyddoedd cynnar y gystadleuaeth wrth i'r wlad orchfygu 1956 a 1960; mae hyn yn parhau i fod fel cyflawniadau gorau De Corea yn y twrnamaint.[2]

Crynodeb o'r enillwyr golygu

Mae Cwpan Asia wedi ei ddominyddu gan lond dwrn o brif dimau. Y gwledydd cychwynnol llwyddiannus oedd De Corea ac Iran (tair waill ill dau). Er 1984 mae Siapan a Arabia Sawdi wedi bod y timau mwyaf llwyddiannus, gan ennill saith o'r deg ffeinal ddiwethaf. Y gwledydd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Qatar (enillwyr 2015) ac Awstralia (enillwyr 2015). Irac (2007) a Cowait (1980). Bu i Israel ennill yn 1964 ond fe'i diarddelwyr o'r AFC gan ymuno ag UEFA (corff pêl-droed Ewrop).

Datblygiadau diweddar golygu

Ymunodd Awstralia yr AFC yn 2007 gan gynnal twrnament Cwpan Asia yn 2015. Ehangwyd twrnament 2019 o 16 tîm i 24 gyda'r broses gymwyso yn dyblu hefyd fel ran o broses cymwyso ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[3][4] Yn y twrnamaint yn 2019 defnyddiwyd cynorthwy-ydd dyfarnu fideo (VAR) am y tro cyntaf.[5]

Enillwyr y Cwpan golygu

Blwyddyn Enillydd Ffeinalist arall Gwlad cynnar
1956   De Corea De Corea   Israel Israel   Hong Cong
1960   De Corea De Corea   Israel Israel   De Corea
1964   Israel Israel   India India   Israel
1968   Iran Iran   Myanmar Myanmar   Iran
1972   Iran   De Corea De Corea   Gwlad Thai
1976   Iran Iran   Coweit Cowait   Iran
1980   Coweit Cowait   Israel Israel   Coweit Kuwait
1984   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Tsieina G.P. China   Singapôr
1988   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   De Corea De Corea   Qatar Qatar
1992   Japan Japan   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Japan
1996   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
2000   Japan Japan   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Libanus Libanus
2004   Japan Japan   Tsieina C.P. China   Tsieina
2007   Irac Irac   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   India   Maleisia   Gwlad Tai   Fietnam De Ddwyrain Asia
2011   Japan Japan   Awstralia Awstralia   Qatar Qatar
2015   Awstralia Awstralia   De Corea De Corea   Awstralia
2019   Qatar   Japan   Emiradau Arabaidd Unedig

Dolenni golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.amazon.in/Recurring-Sporting-Events-Established-1956/dp/1156748968
  2. "The AFC".
  3. "Revamp of AFC competitions". The-afc.com. 25 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2014.
  4. "AFC Asian Cup changes set for 2019". Afcasiancup.com. 26 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2014.
  5. "AFC plans to introduce VAR at UAE 2019". 27 September 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.