Universiade
Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | digwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth rhyngwladol |
Dechrau/Sefydlu | 1959 |
Yn cynnwys | Summer Universiade, Winter Universiade |
Enw brodorol | Universiade |
Gwefan | https://www.fisu.net/sport-events |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]
Gemau'r Haf
golyguGemau Universiade yr Haf | |||
---|---|---|---|
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau: Unwaith Dwywaith Tair gwaith Pedair gwaith | |||
Blwyddyn | Rhif | Lleoliad | |
1959 | I | Torino | Yr Eidal |
1961 | II | Sofia | Bwlgaria |
1963 | III | Porto Alegre | Brasil |
1965 | IV | Bwdapest | Hwngari |
1967 | V | Tokyo | Japan |
1970 | VI | Torino | Yr Eidal |
1973 | VII | Moscfa | Undeb Sofietaidd |
1975 | VIII | Rhufain | Yr Eidal |
1977 | IX | Sofia | Bwlgaria |
1979 | X | Dinas Mecsico | Mecsico |
1981 | XI | Bwcarést | Romania |
1983 | XII | Edmonton | Canada |
1985 | XIII | Kobe | Japan |
1987 | XIV | Zagreb | Iwgoslafia |
1989 | XV | Duisburg | Almaen |
1991 | XVI | Sheffield | Y Deyrnas Unedig |
1993 | XVII | Buffalo | Unol Daleithiau |
1995 | XVIII | Fukuoka | Japan |
1997 | XIX | Sisili | Yr Eidal |
1999 | XX | Palma de Mallorca | Sbaen |
2001 | XXI | Beijing | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
2003 | XXII | Taegu | De Corea |
2005 | XXIII | İzmir | Twrci |
2007 | XXIV | Bangkok | Gwlad Tai |
2009 | XXV | Beograd | Serbia |
2011 | XXVI | Shenzhen | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
2013 | XXVII | Kazan | Rwsia |
2015 | XXVIII | Gwangju | De Corea |
2017 | XXIX | Taipei | Taipei Tsieineaidd |
2019 | XXX | Napoli | Yr Eidal |
2021 | XXXI | Bwcarést | Romania |
Cynhelir gemau Universiade yr haf dros 12 niwrnod. Mae 11 o chwaraeon gorfodol (14 o ddisgyblaethau), a hyd at 3 o chwaraeon a ddewisir gan y wlad sy'n cynnal y gemau. Y 14 mabolgamp orfodol yw athletau, cleddyfa, gymnasteg gelfydd, gymnasteg rythmig, jiwdo, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, pêl-foli, plymio, polo dŵr, taekwondo, tenis, a thenis bwrdd. Mae disgwyl ychwanegu saethyddiaeth at restr y chwaraeon gorfodol yn 2019, a badminton yn 2021.[1]
Gemau'r Gaeaf
golyguPara gemau Universiade y gaeaf am 11 niwrnod. Mae 6 o chwaraeon gorfodol (8 o ddisgyblaethau) gan raglen gemau'r gaeaf, a hyd at 3 o chwaraeon dewisiol. Yr 8 mabolgamp orfodol yw'r biathlon, cwrlo, eirafyrddio, hoci iâ, sgio Alpinaidd, sgio traws gwlad, sglefrio ffigyrau a sglefrio ar y cyd, a sglefrio cyflym trac byr.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Summer Universiade Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ (Saesneg) FISU History Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ (Saesneg) Winter Universiade Archifwyd 2015-02-04 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol FISU