Llygad Gŵr

bardd

Un o Feirdd y Tywysogion yn ail hanner y 13g oedd Llygad Gŵr (fl. 1268). Canodd i dywysogion lleol Powys Fadog (gogledd Powys) ac yn arbennig i Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, pan fu'r tywysog hwnnw ar ei anterth. Yn ei waith adlewyrchir ysbryd optimistaidd cenedlaetholgar y cyfnod hwnnw a cheir ynddo fynegiad eglur o genedligrwydd Cymru a'r Cymry.[1]

Llygad Gŵr
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1268 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae'r enw 'Llygad Gŵr' ymhlith y mwyaf trawiadol o enwau beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol. Ceir mwy nag un enghaifft o 'Llygad' mewn enwau pobl o'r cyfnod. Fel rheol mae'n golygu nodwedd arbennig yn y llygaid. Ystyr arferol y gair 'gŵr' yn Gymraeg Canol yw "rhyfelwr". Mae'n bosibl felly mai cyfeirio at y ffaith fod ganddo archoll ar ei lygad a gafodd mewn brwydr y mae'r enw. Ni cheir unrhyw dystiolaeth ddibyniadwy am enw bedydd y bardd.[1]

Yn ôl Gwilym Ddu o Arfon roedd yn perthyn i deulu'r Hendwr, Llandrillo, Meirionnydd. Fe'i cysylltir â chwmwd Edeirnion mewn cofnod trethi o'r cyfnod 1292-1293, ond byddai mewn gwth o oedran erbyn hynny. Os yr un yw'r Llygad Gŵr yn y cofnod ag y bardd ei hun, roedd ganddo fymryn o dir yn ardal Carrog, ond dim llawer. Mae tystiolaeth arall yn ei gysylltu â disgynyddion Owain Brogyntyn yn yr un ardal (fu'n rhan o Bowys ar un adeg).[1]

Ei gerddi golygu

Dim ond pump o destunau gan Llygad Gŵr sydd wedi goroesi. Gellir eu rhannu'n naturiol yn ddau ddosbarth. Yn y cyntaf ceir pedair cerdd i fân arglwyddi Powys Fadog, sef Gruffudd ap Madog (dwy gerdd) a'i fab Llywelyn ap Gruffudd ap Madog (un), a Hywel ap Madog (un farwnad), brawd Gruffudd.[1]

Ond gwelir gwir fawredd y bardd yn ei gerdd hir i foli Llywelyn Ein Llyw Olaf.[1] Dyma'r gerdd gynharaf o'i waith a'r enwocaf o lawer. Mae'n debyg iddo ganu'r gerdd tua'r flwyddyn 1258 yn fuan ar ôl i Lywelyn gael ei ddyrchafu'n Dywysog Cymru ar ôl dwy flynedd o frwydro caled ledled Cymru. Dywed y bardd fod Tair Talaith Cymru (Aberffraw, Mathrafal a Dinefwr) wedi ei uno yn Llywelyn ac mai ef bellach yw "gwir frenin Cymru". Canmolir y ffaith nad yw'r tywysog, sydd heb neb tebyg iddo ymhlith y Cymry, am ildio troedfedd o dir Cymru i'r Saeson drwy eu trais:

Draig Arfon, arfod wythlonedd,
Dragon dihefeirch, heirddfeirch harddedd,
Ni chaiff Sais i drais droedfedd — o'i fro!
Nis oes o Gymro ei gymrodedd![1]

Fel cenedlaetholwr cynnar a lladmerydd polisi Gwynedd mae Llygad Gŵr yn debyg iawn yn ei agwedd wleidyddol i'w gyfoeswr Dafydd Benfras.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Golygir testunau Llygad Gŵr gan Peredur Lynch yn,

  • Rhian M. Andrews et al. (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996).



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch