Teigr yr ardd
Arctia caja | |
---|---|
Resting pose | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Arctiidae |
Genws: | Arctia |
Rhywogaeth: | A. caja |
Enw deuenwol | |
Arctia caja Linnaeus, 1758 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr yr ardd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod yr ardd; yr enw Saesneg yw Garden Tiger, a'r enw gwyddonol yw Arctia caja.[1][2] Fe'i ceir yn Ewrop, Asia a Gogledd America.
Lled ei adenydd agored ydy 45–65 milimetr (1.8–2.6 mod) ac yn ddibynol ar ei union leoliad, mae'n hedfan rhwng Mehefin ac Awst. Mae'r hylif sydd o fewn ei gorff yn wenwynig i helwyr. Gall y patrymau ar ei gorff amrywio cryn dipyn.
-
♂
-
♂ △
Ymhlith bwydydd amrywiol y lindysceir: mafon cochion, mwyar duon, gwyddfid, erica, a banadl.
Mae ei niferoedd yng ngwledydd Prydain, dros y 30 mlynedd diwethaf wedi lleihau 89%.[3]
Oriel luniau
golygu-
Patrwm yr ôl-adain
-
Enghraifft wedi'i fframio
-
Oddi tano
-
Manylun
-
Siani flewog
Perthynas â phobl
golygu- Eirth gwlanog Talacre 23 Mai 1924:... Many Woolly Bears crawling on sand. Y woolly bears ydi lindys teigr yr ardd, tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn fwy cyffredin ers talwm fel mae'r gem plant "rasus tedibers" yn tystio hefyd][4]
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr yr ardd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ "Insecticide! (An ecological disaster that will affect us all)". Independent.co.uk. 2008-11-15. Cyrchwyd 2011-10-10.
- ↑ Dyddiadur di-enw o Tywyn, Abergele (yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur[www.llennatur.cymru]