Teisen a flasir â siocled todd neu bowdr coco yw teisen siocled. Yn aml caiff ei pharatoi â siocled ychwanegol ar ffurf saws siocled, eisin siocled, neu lenwad siocled rhwng haenau'r deisen.

Sleis o deisen siocled wedi'i gwneud heb flawd (yn debyg i torte) gyda saws siocled a mafon arni

Mae'n dyddio o 1765, pan ddarganfu Dr James Baker sut i wneud surop siocled trwy falu ffa coco rhwng dau faen melin mawr.[1] Daeth yn boblogaidd ym Mhrydain ar ôl 1853, pan gafodd y dreth ormodol ar ffa coco ei gostwng gan lywodraeth William Gladstone gan wneud siocled yn fforddiadwy i'r gegin gyffredin.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "The History of Baker's Chocolate Factory" Archifwyd 2010-06-16 yn y Peiriant Wayback
  2. Duff, Julie. Cakes: Regional and Traditional (Llundain, Grub Street, 2009), t. 256.