Tejay van Garderen
Seiclwr proffesiynol o'r Unol Daleithiau ydy Tejay van Garderen (ganed 12 Awst 1988), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd.[1]
Tejay van Garderen | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1988 Tacoma |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyclo-cross cyclist, seiclwr cystadleuol |
Taldra | 185 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | CCC Team, Rabobank Development, Team Columbia-HTC, EF Education-EasyPost |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Bywgraffiad
golyguBlynyddoedd cynnar
golyguGaned van Garderen yn Tacoma, Washington, yr UDA, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i bblentyndon yn Bozeman, Montana. Daw o ddisgyniad Iseldiraidd a siaradai Iseldireg yn weddol dda, wedi iddo dreulio ei ddwy flwyddyn gyntaf proffesiynol gyda'r tîm Iseldiraidd, Rabobank. Dechreuodd seiclo pan oedd yn 10 oed. Pan oedd yn 14, bu bron iddo guro'r marc dwy awr ar esgyniad Mount Evans, allt 28 milltir sy'n codi 7,000 troedfedd.[2] Enillodd 10 teitl cenedlaethol iau ar y ffordd (ras ffordd, ras gylchffordd a treial amser) a cyclo-cross.[3] Yn ei arddegau, reidiodd dros dimau datblygu Team Rio Grande Racing (2004–2005; Fort Collins, Colorado)[4] a Team 5280 Magazine (2005–2006, rhan o Garmin-Sharp erbyn hyn; Boulder, Colorado).[5]
Gyrfa
golyguOdan 23 (2007–2009)
golyguUn o rasys pwysig cyntaf van Garderen wedi iddo droi'n 18, oedd yr Amgen Tour of California yn 2007, lle gystadlodd fel aelod o'r tîm cenedlaethol. Tynnodd allan o'r ras yn ystod cymal 4.[6] Bu'n cystadlu yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn 2007, gan ddod yn 20fed yn y Tour de l'Avenir
Ymunodd van Garderen â tîm Rabobank Continental yn 2008, a symudodd i fyw i'r Iseldiroedd. Cystadlodd yn y Flèche du Sud a Circuito Montañes. Enillodd gymal o'r Tour de l'Avenir a gorffennodd yn 24ydd ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd odan 23 yn Varese, yr Eidal.
HTC-Columbia (2010–2011)
golyguSymudodd van Garderen i Team HTC-Columbia y flwyddyn canlynol.[7] Daeth yn 9fed yn ei ras gymalog cyntaf, y Volta ao Algarve, a daeth yn 5ed ar y cymal a orffennodd ar gopa Alto do Malhao. Yn Tour Twrci 2010, daeth yn ail mewn dau gymal yn ogystal ag ail yn y dosbarthiad cyffredinol, 29 eiliad tu ôl i Giovanni Visconti.
Cefnogodd van Garderen arweinydd y tîm Michael Rogers yn ystol cymalau 6 ac 8 Tour of California 2010. Gorffennod yn 28fed wedi helpu Rogers ennill.
Dechreuodd van Garderen Critérium du Dauphiné 2010 fel cyd-arweinydd HTC-Columbia gyda Kanstantsin Siutou a Peter Velits. Wedi bron a curo Alberto Contador yn y prologue, daeth yn 4ydd yn nhreial amser cymal 3 gan symyd fyny i'r ail safle yn y dosbarthiad cyffredinol. Fe gollodd amser yn y mynyddoedd gan orffen yn y 3ydd safle.
Reidiodd van Garderen yn gryf yn ystod pythefnos cyntaf Vuelta a España, a bu'n domestique gwerthfawr i Peter Velits a orffennodd yn drydydd.
Yn 2011, daeth van Garderen yn ail ar gymal 3 y Volta ao Algarve[8] ac ail safle yn prologue Tour of Switzerland (tu ôl i Fabian Cancellara).[9] Enillodd grys reidiwr ifanc gorau'r Tour of California wedi perfformiad cryf a chyson.
Dewiswyd ef fel aelod o'r tîm ar gyfer Tour de France 2011. Hon oedd Tour de France cyntaf van Garderen, ac roedd yn reidio i gefnogi Tony Martin a Peter Velits.[10] Yn yr wythfed cymal, cipiodd van Garderen ddigon o bwyntiau ar esgyniad Categori 2 er mwyn ennill y brig yn nosbarthiad Brenin y Mynyddoedd, a chael ei enwebu'n reidiwr mwyaf brwydrol y cyml hwnnw. Ef oedd yr Americanwr cyntaf erioed i wisgo'r crys dot polca ar gyfer Brenin y Mynyddoedd yn y Tour de France (arweiniodd Greg LeMond y dosbarthiad am gyfnod byr yn ystod Tour de France 1986, ond gan y bu'n gwisgo'r crys melyn ar y pryd, ni wisgodd y crys dot polca). Yn ystod cymal 8 hefyd, y cyfeirwyd ato fel y "Bozeman Boss" gan y sylwebydd Phil Liggett.[11] Yn y Tour of Utah, enillodd van Garderen dreial amser y trydydd cymal.[12]
BMC Racing Team (2012–)
golyguWedi i HTC-Highroad ddod i ben, ymunodd van Garderen â BMC Racing Team ynghyd â'i gyd-aelod tîm o HTC, Marco Pinotti.[1] Enillodd van Garderen crys y reidiwr ifanc gorau yn ras Paris–Nice yn gynnar ym mis Mawrth,[13] wedi iddo wisgo'r crys drwy gydol y ras.
Dewiswyd van Garderen i gystadlu yn y Tour de France fel un o'r prif domestiques ar gyfer enillydd y flwyddyn gynt, Cadel Evans. Perfformiodd yn gryf yn ystod yr wythnos gyntaf, gan ddod yn bedwerydd yn y prologue a gwisgo'r crys gwyn - ar gyfer y rediwr ifanc gorau odan 25 yn y dosbarthiad cyffredinol - tan cymal 7, pan gollodd llawer o amser wrth i'r cymal orffen ar gopa. Ail-gipiodd y crys pan orffennodd yn bedwerydd ar gymal 9, treial amser unigol. Ar gymal 11, ceisiodd van Garderen helpu Evans i ymosod oddiar flaen y peleton, ond roedd yn gryfach nag ef, a bu iddo arwain ei arweinydd i'r copa yn hytrach.
Canlyniadau
golygu- 2000
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (10–12)
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (10–12)
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (10–12)
- 2002
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Cyclo-cross yr UDA (13–14)
- 2003
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Cyclo-cross yr UDA (15–16)
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (15–16)
- 2004
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (15–16)
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (15–16)
- 2il Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (15–16)
- 2005
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (Iau)
- 2nd Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (Iau)
- 3ydd Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (Iau)
- 1af Cymal 2, Driedaagse van Axel
- 2006
- 1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (Iau)
- 2il Tour du Pays de Vaud
- 3ydd Tour de Lorraine
- 2007
- 1af Cymal 2 Treila amser tîm, Fayetteville Stage Race
- 2008
- 1af Cymal 5a Treila amser tîm, Volta a Lleida
- 2il Fleche du Sud
- 1af Cymal 1
- 2il Curcuito Montañes
- 2il GP Tell
- 1af Cymal 3
- 8fed Tour de l'Avenir
- 1af Cymal 9
- 2009
- 1af Tour du Haut Anjou
- 1af Circuito Montañes
- 2il Tour des Pays de Savoie
- 2il Tour de l'Avenir
- 3ydd Olympia's Tour
- 1af Cymal 1 Treila amser tîm
- 1af Cymal 5
- 7fed Vlaamse Pijl – Harelbeke
- 2010
- 1af Cymal 1 (Treila amser tîm) Vuelta a Espana
- 2il Tour Twrci
- 3ydd Criterium du Dauphine
- 4ydd Tour de l'Ain
- 1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
- 9fed Volta ao Algarve
- 2011
- 1af Cymal 3 (treial amser) Tour of Utah
- 2il Volta ao Algarve
- 3ydd USA Pro Cycling Challenge
- 5edTour of California
- 2012
- 4ydd Tour of California
- 5ed Tour de France
- 5ed Paris–Nice
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "BMC signs Pinotti and Van Garderen", Cycling News, Future Publishing Limited, 1 Medi 2011.
- ↑ Mt Evans. bicyclerace.com (25 Gorffennaf 2003).
- ↑ Teejay van Garderen Interview Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback, Velocity Nation
- ↑ About The Team : Team Rio Grande. Riograndecycling.com. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ Junior men criterium, 25km - Van Garderen makes it 10. Cycling News (25 June 2005). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ Two world champs go one-two in SLO - Tour of California, Stage 4. CyclingNews (22 Chwefror 2007).
- ↑ American Tejay Van Garderen will join Columbia-Highroad next year. VeloNews (Mehefin 2006).
- ↑ Tejay Van Garderen – Team HTC – Highroad. Highroadsports.com. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ AFP: Cancellara wins Tour of Switzerland opening TT. Google.com (9 Mehefin 2011). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ Van Garderen To Support Cavendish And Martin At Tour De France. Cyclingnews.com (29 Mehefin 2011). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ One and Done?. Bicycling Magazine. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ Tour of Utah: Tejay Van Garderen gets a birthday present with stage win. The Salt Lake Tribune. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
- ↑ "Wiggins not so easy on Eze", Paris–Nice, Amaury Sport Organisation, 11 Mawrth 2012.