Critérium du Dauphiné

Ras seiclo ffordd flynyddol yw'r Critérium du Dauphiné (a adnabyddwyd fel y Critérium du Dauphiné Libéré cyn 2010), a gystadlir dros wyth cymal yn rhanbarth Dauphiné, Ffrainc yn ystod hanner cyntaf mis Mehefin. Dyfeiswyd y ras gan bapur newydd lleol, y Dauphiné Libéré, a roddodd i'r ras ei henw. Rhannwyd y gwaith o drefnu'r ras rhwng cyhoeddwyr y papur a'r Amaury Sport Organisation (ASO) am nifer o flynyddoed: ond yn 2010, ildiodd y papur yr holl gyfrifoldeb am redeg y ras i ASO, a byrrhawyd enw'r ras. Ynghyd â'r Tour de Suisse, mae'r Dauphiné yn ras bwysig yn arwain at y Tour de France ym mis Gorffennaf, ac mae'n ran o galendr Rheng y Byd, UCI.

Critérium du Dauphiné
Enghraifft o'r canlynolrasio dros ddyddiau Edit this on Wikidata
Math2.HC, 2.PT, 2.UWT Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1947 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.criterium-du-dauphine.fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Oherwydd fod y Dauphiné yn ardal fynyddig, arbenigwyr dringo yw'r enillwyr yn aml. Mae nifer o esgyniadau sy'n adnabyddus o'u cynnwys yn y Tour de France, megis Mont Ventoux, l'Alpe d'Huez, a'r Col du Galibier nau Col de la Chartreuse, yn aml yn ymddangos yn y Dauphiné Libéré. Mae pob un o'r seiclwyr sydd wedi ennill y Tour de France bum gwaith neu fwy, hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré.

Cynhaliwyd y Dauphiné Libéré gyntaf ym 1947, pan enillodd Edouard Klabinski o Wlad Pwyl. Mae Nello Lauredi, Luis Ocaña, Charly Mottet a Bernard Hinault yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau, gyda tair yr un.

Hanes golygu

Wedi'r Ail Ryfel Byd, wrth i seiclo adnewyddu wedi seibiant o bump i chwe mlynedd, penderfynnodd y papur newydd Dauphiné Libéré sefydlu a threfnu ras seiclo cymalog trwy rhanbarth Dauphiné. Ers y cychwyn, defnyddiwyd y ras gan reidwyr Ffrengig, megis Louison Bobet a John Robic, i baratoi ar gyfer y Tour de France. Gwasanaethodd hefyd er mwyn profi offer arloesol y seiclwyr ac offer darlledu, sydd odan bwysedd ychwanegol yn y mynyddoedd.

Daeth ffurf presennol y critérium i fod, wedi iddo gyfuno gyda'r Circuit de la Six-Provinces-Dauphiné yn 1969.

Y Critérium yw'r unig ras sydd hefyd wedi cael ei ennill gan pob un o enillwyr bum gwaith y Tour de France (Anquetil, Merckx, Hinault, Indurain ac Armstrong). Mae saith seiclwr hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré a'r Tour de France yr un flwyddyn: Louison Bobet ym 1955, Jacques Anquetil ym 1963, Eddy Merckx ym 1971, Luis Ocaña ym 1973, Bernard Thévenet ym 1975, Bernard Hinault ym 1979 a 1981, Miguel Indurain ym 1995 a Lance Armstrong yn 2002 a 2003.

Y dinasoedd sydd wedi cynnal cychwydd newu ddiwedd y ras amlaf yw: Grenoble (44 gwaith), Avignon (32 gwaith), Saint-Étienne (23 gwaith), Annecy (22 gwaith), Chambéry (21 gwaith), Gap (21 gwaith), Lyon (19 gwaith), Aix-les-Bains (18 gwaith), Valence (16 gwaith), Briançon (15 gwaith) a Vals-les-Bains (15 gwaith).

Crysau golygu

Mae arweinydd y dosbarthiad cyffredinol yn gwisgo crys melyn gyda band glas, sydd yn eu gwahaniaethu oddi wrth y reidwyr eraill. Gwobrwywyd crys coch gyda dotiau polca gwyn i'r dringwr gorau cyn gynhared a 1948, oherywdd llwybr mynyddig y Critérium, cyflwynwyd crys werdd ar gyfer y sbrintiwr gorau ym 1955.

Enillwyr golygu

Blwyddyn Enillydd Tîm
1947 Edouard Klabinski   Gwlad Pwyl
1948 Édouard Fachleitner   Ffrainc
1949 Lucien Lazarides   Ffrainc
1950 Nello Lauredi   Ffrainc
1951 Nello Lauredi   Ffrainc
1952 Jean Dotto   Ffrainc
1953 Lucien Teisseire   Ffrainc
1954 Nello Lauredi   Ffrainc
1955 Louison Bobet   Ffrainc
1956 Alex Close   Gwlad Belg
1957 Marcel Rohrbach   Ffrainc
1958 Louis Rostollan   Ffrainc
1959 Henry Anglade   Ffrainc
1960 Jean Dotto   Ffrainc
1961 Brian Robinson   Prydain Fawr
1962 Raymond Mastrotto   Ffrainc
1963 Jacques Anquetil   Ffrainc
1964 Valentin Uriona   Sbaen
1965 Jacques Anquetil   Ffrainc
1966 Raymond Poulidor   Ffrainc
1969 Raymond Poulidor   Ffrainc
1970 Luis Ocaña   Sbaen
1971 Eddy Merckx   Gwlad Belg Molteni
1972 Luis Ocaña   Sbaen
1973 Luis Ocaña   Sbaen
1974 Alain Santy   Ffrainc
1975 Bernard Thévenet   Ffrainc Peugeot BP Michelin
1976 Bernard Thévenet   Ffrainc Peugeot-BP-Michelin
1977 Bernard Hinault   Ffrainc Gitane-Campagnolo
1978 Michel Pollentier   Gwlad Belg
1979 Bernard Hinault   Ffrainc Renault-Elf-Gitane
1980 Johan van der Velde   Yr Iseldiroedd TI-Raleigh
1981 Bernard Hinault   Ffrainc Renault-Elf-Gitane
1982 Michel Laurent   Ffrainc Peugeot-Esso-Michelin
1983 Greg LeMond   UDA Renault-Elf-Gitane
1984 Martin Ramirez (cyclist)   Colombia Systeme U
1985 Phil Anderson   Awstralia Panasonic
1986 Urs Zimmermann   Y Swistir Carrera-Inoxpran
1987 Charly Mottet   Ffrainc Systeme U-Gitane
1988 Luis Herrera   Colombia Café de Colombia
1989 Charly Mottet   Ffrainc RMO
1990 Robert Millar   Prydain Fawr Z
1991 Luis Herrera   Colombia Postobon
1992 Charly Mottet   Ffrainc RMO
1993 Laurent Dufaux   Y Swistir ONCE
1994 Laurent Dufaux   Y Swistir ONCE
1995 Miguel Indurain   Sbaen Banesto
1996 Miguel Indurain   Sbaen Banesto
1997 Udo Bölts   Yr Almaen Team Telekom
1998 Armand De Las Cuevas   Ffrainc Banesto
1999 Alexander Vinokourov   Casachstan Casino-Ag2r Prévoyance
2000 Tyler Hamilton   UDA US Postal
2001 Christophe Moreau   Ffrainc Festina
2002 Lance Armstrong   UDA US Postal
2003 Lance Armstrong   UDA US Postal
2004 Iban Mayo   Sbaen Euskaltel-Euskadi
2005 Iñigo Landaluze   Sbaen Euskaltel-Euskadi
2006 Levi Leipheimer   UDA Gerolsteiner
2007 Christophe Moreau   Ffrainc AG2R Prévoyance
2008 Alejandro Valverde   Sbaen Caisse d'Epargne
2009 Alejandro Valverde   Sbaen Caisse d'Epargne
2010 Janez Brajkovič   Slofenia Team RadioShack
2011 Bradley Wiggins   Prydain Fawr Team Sky
2012 Bradley Wiggins   Prydain Fawr Team Sky

Buddugoliaethau yn ôl gwlad golygu

Gwlad Nifer
  Ffrainc 30
  Sbaen 10
  UDA 5
  Prydain Fawr 4
  Gwlad Belg 3
  Colombia 3
  Y Swistir 3
  Awstralia 1
  Yr Almaen 1
  Casachstan 1
  Yr Iseldiroedd 1
  Gwlad Pwyl 1
  Slofacia 1

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu