Team Columbia-HTC
Tîm seiclo proffesiynol rhyngwladol yw Team Columbia-HTC. Caiff ei noddi gan HTC, datganwyd y byddent yn cefnogi'r tîm am dair mlynedd ym mis Mehefin 2009. Team Columbia-HTC yw enw'r tîm ers gychwyn Tour de France 2009. Team Columbia-High Road oedd yr hen enw ers ddechrau Tour de France 2008, wedi i Columbia Sportswear ddatgan y byddent yn cefnogi'r tîm am dair mlynedd o fis Mehefin 2008. Doedd dim noddwr enwedig cyn hyn, ac felly bunt yn rasio odan enw rhiant gwmni'r tîm fel Team High Road.
Mae'r tîm yn cymryd rhan mewn sawl o'r Grand Tours seiclo, megis y Tour de France a'r Giro d'Italia. Maent wedi cystadlu yn ProTour yr UCI ers ei ddyfodiad yn 2005.
Sefydlwyd y tîm yn wreiddiol ym 1991 fel Team Telekom, a noddwyd gan Deutsche Telekom. Newidwyr yr enw yn 2004 i'r T-Mobile-Team. Mae gan y tîm presennol 29 o reidwyr, 9 ffisiotherapydd neu nyrs, 9 mechanic a gwasanaethwyr, mae gan y tîm 22 o bartneriaid. Mae o dan reolaeth Bob Stapleton a Rolf Aldag. Mae cyn arweinwyr y tîm yn cynnwys Olaf Ludwig, Walter Godefroot a Eddy Vandenhecke (rheolwyr), Luuc Eisenga (llefarydd) a Brian Holm, Valerio Piva (cyfarwyddwyr chwaraeon).