Teliffant
Sioe deledu Cymraeg i blant
Sioe sgetsus i blant gan BBC Cymru a rhedodd o 1972 i 1980 oedd Teliffant.
Enghraifft o'r canlynol | rhaglen deledu |
---|---|
Dechreuwyd | 1972 |
Daeth i ben | 1980 |
Genre | cyfres deledu i blant |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Roedd yn nodweddiadol am ymddangosiad y cymeriadau Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan. Mae'r ddau wedi ymddangos droeon ar rhaglenni blant (yn cynnwys rhai wedi'u hanimeiddio) ers diwedd Teliffant. Daeth ymadrodd gwatwarys Syr Wynff at Plwmsan, "twmffat twp" a "twmffat twpach na thwp" yn boblogaidd iawn yn sgil y gyfres.
Yn 1979, cynhyrchodd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dri ffilm yn dangos anturiaethau Wynff a Plwmsan, ac enw'r ffilm olaf oedd Teliffant.