Telor bacsiog
Telor bacsiog Hippolais caligata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Sylviidae |
Genws: | Iduna[*] |
Rhywogaeth: | Iduna caligata |
Enw deuenwol | |
Iduna caligata |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Telor bacsiog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: telorion bacsiog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Hippolais caligata; yr enw Saesneg arno yw Booted warbler. Mae'n perthyn i deulu'r Teloriaid (yr Hen Fyd) (Lladin: Sylviidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru, fel y dengys llun Alun Williams, uchod.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. caligata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Aderyn o'r Hen Fyd ydy Telor bacsiog, a rhoddir ef yng ngrwp telor y coed. Arferid credu ei fod yr un aderyn a Thelor Sykes, ond mae'r ddau bellach yn rhywogaethau ar wahân.
Maent i'w cael o ganol Rwsia i Orllewin Tsieina, ac maen nhw'n ymfudo yn y gaeaf i India, i lawr cyn belled a De Sri Lanca. Maen nhw i'w cael bellach yn y Ffindir - y wlad mwyaf Gogleddol. O ran cynefin, mae'n treulio'i amser mewn llecynnau agored, gyda llwynia neu goed. Mae'n dodwy 3-4 wy mewn nyth, fel arfer wedi'i blethu o fewn llwyn.
Teulu
golyguMae'r telor bacsiog yn perthyn i deulu'r Teloriaid (yr Hen Fyd) (Lladin: Sylviidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Llwydfron fach yr anialwch | Sylvia minula | |
Telor Penddu | Sylvia atricapilla | |
Telor yr Ardd | Sylvia borin |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.