Théodore Hersart de la Villemarqué

Roedd Théodore Hersart de la Villemarqué (7 Gorffennaf 18158 Rhagfyr 1895), y cyfeirir ato yn aml fel Villemarqué neu, yn Llydaweg, Kervarker, yn uchelwr ac awdur o Lydaw sy'n adnabyddus fel sylfaenydd y mudiad Rhamantaidd yno yn y 19g. Cyhoeddodd weithiau llenyddol Llydaweg a chyfieithodd ac addasodd nifer o ganeuon Llydaweg i'r iaith Ffrangeg. Ei gyfrol fywaf adnabyddus yw'r Barzaz Breiz.

Théodore Hersart de la Villemarqué
Théodore de La Villemarqué (Kervarker).png
Ffugenw Kervarker, (Ker : de « lieu habité, ville » en Breton et vMarker, de "marqueur". Traduction littérale de son nom de famille. Edit this on Wikidata
Ganwyd Théodore-Claude-Henri Hersart de La Villemarqué Edit this on Wikidata
7 Gorffennaf 1815 Edit this on Wikidata
Kemperle Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Rhagfyr 1895 Edit this on Wikidata (80 oed)
Kemperle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth geiriadurwr, ieithydd, bardd, hanesydd, arbenigwr mewn llên gwerin Edit this on Wikidata
Swydd cadeirydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Barzaz Breiz Edit this on Wikidata
Tad Pierre Hersart de La Villemarqué Edit this on Wikidata
Llinach Q3065211 Edit this on Wikidata
Gwobr/au Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
Cerflun cyfoes yn Kemperle o Théodore.

Cyfarfu hefyd ag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer a threuliodd y Nadolig ym mhlasty Charlotte Guest a oedd yn berchen nifer o weithfeydd haearn ym Merthyr ac yn Nowlais.[1]

Roedd Villemarqué yn gyfaill i Gymru a'r Gymraeg. Cydweithiodd â'r Arglwyddes Charlotte Guest ar ei chyfieithiad o'r Mabinogion (a gyhoeddwyd yn 1838). Yn ddau-ddeg-tri oed, yn hydref a gaeaf 1838 a 1839, daeth i Ferthyr ac Abertawe er mwyn deall mwy am Gymru. Y prif bwrpas dros ei ymweliad oedd canfod llawysgifau am y Llydaweg er mwyn rhoi hygrededd i'r iaith Lydaweg. Ymwelodd â'r awdur Carnhuanawc a rhoddodd araith gofiadwy yn Eisteddfod y Fenni yn pwysleisio'r cysylltiadau hanesyddol, ieithyddol a llenyddol rhwng Cymru a Llydaw ac yn galw am undod a brawdgarwch rhwng y ddwy wlad Geltaidd.[2] Ysgrifennodd gyfres o lythyron dadlennol yn ystod ei ymweliadau sydd wedi eu golygu a'u cyhoeddi ar wefan Prifysgol Brest.[3]

Pan ddychwelodd i Lydaw chwaraeodd ran bwysig yn y mudiad diwylliannol a arweiniodd at sefydlu Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw) ond roedd o'r farn fod y Gymraeg wedi'i llygru gan effaith Protestaniaeth. Ond hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, daliai i sôn fod ei ymweliad â Chymru wedi bod yn un ffrwythlon a melys.

Cyfieithodd Peredur, un o'r Tair Rhamant Cymraeg Canol, i'r Ffrangeg.

Eisteddfod y Fenni, 1838Golygu

Gwahoddwyd Théodore Hersart de la Villemarqué a'r Llydawyr eraill a oedd yn teithio gydag ef i Eisteddfod y Fenni yn 1838, eisteddfod oedd a'i bryd ar fod yn rhyngwladol ei natur. Ar y pryd nid oedd ymwybyddiaeth o'r teulu 'Celtaidd' yn llawn ac yng Nghymru, i ryw raddau, dyma gychwyn hynny.

CyfeiriaduGolygu

  1. [Chisholm, Hugh, ed. (1911). "La Villemarqué, Théodore Claude Henri, Vicomte Hersart de". Encyclopædia Britannica; 16 (11fed gyfrol.). Cambridge University Press. t. 294.
  2. Gweler Gwefan Prifysgol Cymru. Mary-Ann Constantine BA, PhD. Mae Constantine yn gweithio ar lenyddiaeth Cymru, yn Gymraeg a Saesneg, yn y cyfnod Rhamantaidd. Astudiodd ar gyfer ei gradd gyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Clare, Caer-grawnt (1988–91), ac aros yno wedyn i wneud PhD ar lên gwerin Llydaw.
  3. Constantine, Mary-Ann; Postic, Fañch (2019), ‘C’est mon journal de voyage’ : La Villemarqué’s Letters from Wales, 1838-1839., https://hal.univ-brest.fr/hal-02350747, adalwyd 2019-12-12.

LlyfryddiaethGolygu