The Lion King (sioe gerdd)

Sioe gerdd ydy The Lion King sy'n seiliedig ar ffilm animeiddiedig Disney o'r un enw. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Syr Elton John a'r geiriau gan Tim Rice. Mae'r sioe wedi ennill Gwobr Tony a Gwobr Olivier. Cyfarwyddwyd y sioe gan Julie Taymor ac mae'n cynnwys actorion mewn gwisgoedd anifeiliaid. Cynhyrchwyd y sioe gan Disney Theatrical.

The Lion King
200
Poster o'r cynhyrchiad ar Broadway
Cerddoriaeth Elton John
Geiriau Tim Rice
Llyfr Roger Allers
Irene Mecchi
Seiliedig ar Yn seiliedig ar ffilm animeiddiedig Disney, The Lion King
Cynhyrchiad 1997 Minneapolis
1997 Broadway
1998 Tokyo
1999 West End
1999 Toronto
2000 Los Angeles
2001 Hamburg
2002 Taith Genedlaethol
2003 Sydney
2004 Yr Iseldiroedd
2005 Melbourne
2006 Seoul
2007 Paris
2007 De Affrica
2008 Taipei
2009 Las Vegas
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau (1998)

Gwelwyd perfformiad cyntaf y sioe ar 8 Gorffennaf 1997 yn Theatr Orpheum yn Minneapolis, Minnesota a bu'n lwyddiant o'r cychwyn cyntaf. Symudodd i Theatr yr Amsterdam Newydd ar Broadway ar 15 Hydref 1997 gan agor yn swyddogol ar 13 Tachwedd. The Lion King yw'r nawfed sioe sydd wedi rhedeg hiraf ar Broadway.

Yn Llundain, dechreuodd y cynhyrchiad yn Theatr Lyceum yn y West End ar 19 Hydref 1999 ac mae'n parhau i fod yno. Gwahoddwyd yr holl gast i berfformio yn y Perfformiad Amrywiol Brenhinol yn 2008 ym Mhaladiwm Llundain ar 11 Ragfyr, yng ngwydd aelodau o'r Teulu Brenhinol.