The Prime Minister (ffilm)

ffilm ddrama am berson nodedig gan Thorold Dickinson a gyhoeddwyd yn 1941

Mae The Prime Minister yn ffilm ddrama hanesyddol Seisnig o 1941 wedi'i chyfarwyddo gan Thorold Dickinson ac yn serennu John Gielgud, Diana Wynyard, Fay Compton a Stephen Murray. Mae'r ffilm yn adrodd hanes bywyd gwleidyddol a phersonol Prif Weinidog y Cyfnod Fictoraidd, Benjamin Disraeli.[1]

The Prime Minister
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Dyddiad cyhoeddi1941 Edit this on Wikidata
Genreffilm am berson, ffilm ddrama Edit this on Wikidata
CymeriadauBenjamin Disraeli, Mary Anne Disraeli, Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig, Victoria, William Ewart Gladstone, Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby, William Lamb, Ail is-iarll Melbourne, Robert Peel, Alfred d'Orsay, Frances Vane, Henry Herbert, 4ydd Iarll Caernarfon, Marguerite Gardiner, Countess of Blessington, Louise Lehzen, Otto von Bismarck, John Brown, Robert Gascoyne-Cecil, Earl of Derby Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata
Hyd109 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrThorold Dickinson Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuWarner Bros. Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJack Beaver Edit this on Wikidata
DosbarthyddWarner Bros. Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddBasil Emmott Edit this on Wikidata

Mae'r ffilm yn adrodd hanes ac amseroedd Benjamin Disraeli, a ddaeth yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog rhwng Chwefror a Rhagfyr 1868 a rhwng 1874 a 1880, bu hefyd yn Arweinydd yr Wrthblaid a Changhellor y Trysorlys. Mae'n darlunio ei briodas hir â'r Gymraes Mary Disraeli a'i berthynas ag amryw o ffigurau cyhoeddus eraill yr oes gan gynnwys William Gladstone, yr Arglwydd Melbourne a'r Frenhines Victoria . Yn ddiweddarach, byddai Gielgud yn adfer ei rôl fel Disraeli yn nrama deledu ITV Edward the Seventh (1975).

Saethwyd y ffilm yn Teddington Studios gan adran Brydeinig cwmni ffilmiau Warner Brothers. Roedd y cwmni eisoes wedi gwneud biopic llwyddiannus am yr un Brif Weinidog o dan y teitl Disraeli ym 1929.

Nid yw'r ffilm yn ail bobi ffilm 1929. Roedd Disraeli 1929 yn darlunio digwyddiad unigol yn hwyr yng ngyrfa Disraeli, (sef prynu Camlas Suez ym 1878). Mae The Prime Minister yn gofiant episodig o fywyd Disraeli o'i yrfa gynnar fel nofelydd trwy ei fuddugoliaethau gwleidyddol fel gwladweinydd hŷn. Mae'r ffilm bron yn hagiograffeg, yn darlunio Disraeli fel diwygiwr cymdeithasol gydol oes ac yn ddemocrat Torïaidd sy'n ymroddedig i "Loegr" ac i "ddemocratiaeth". Mae TCM.com yn disgrifio'r ffilm fel hyn —

The Prime Minister (1941) yw'r chwedlonol Benjamin Disraeli, yn cael ei bortreadu gan y chwedlonol John Gielgud mewn perfformiad tour-de-force sy'n mynd â Disraeli o nofelydd ifanc dandiaidd, i aelod seneddol newyddian, i brif weinidog Lloegr a chyfrinachwr Y Frenhines Victoria. Ar hyd y ffordd, mae "Dizzy" yn ennill llaw ac yn priodi ei wraig Mary Anne, sy'n darparu cefnogaeth graff i'w yrfa. Mae hefyd yn brwydro gwrthwynebwyr gwleidyddol, yn helpu'r tlawd a'r dosbarth gweithiol, yn prynu Camlas Suez, yn ehangu'r ymerodraeth, ac yn trechu cynlluniau imperialaidd cynghrair wleidyddol yr Almaen Awstria a Rwsia.[2]

Bu feirniadaeth am y ffilm am ei ddarluniad negyddol ac anffafriol o William Ewart Gladstone, prif wrthwynebydd gwleidyddol Disraeli.[3]

Dyluniwyd setiau'r ffilm gan y cyfarwyddwr celf Norman G. Arnold.

Nodiadau

golygu

Agorodd The Prime Minister yn yr Unol Daleithiau ym mis Chwefror 1942, un mis ar ddeg ar ôl ei phremière Prydeinig. Torrwyd y fersiwn Americanaidd o 15 munud — ymhlith y golygfeydd a dynnwyd roedd un yn cynnwys Glynis Johns, a oedd ar gychwyn ei gyrfa.

Swyddfa Docynnau

golygu

Yn ôl cofnodion Warner Bros enillodd y ffilm $16,000 i’r stiwdio yn ddomestig a $21,000 dramor.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Disraeli, Benjamin, earl of Beaconsfield (1804-1881), prime minister and novelist". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/7689. Cyrchwyd 2020-12-29.
  2. Erthygl am y ffilm ar wefan Turner Classic Movies (Nodyn:Nid yw wefan TCM ar gael yn yr UE a'r DU)
  3. "Justice for Gladstone". The Daily Telegraph. 1960-10-19. t. 15. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2020-12-29.
  4. Gwybodaeth ariannol Warner Bros yn The William Shaefer Ledger. Gweler Atodiad 1, Historical Journal of Film, Radio and Television, (1995) 15:sup1, 1-31 p 22 DOI: 10.1080/01439689508604551

Dolenni allanol

golygu